Nedw/Gneud Zebras
← Het Newydd F'ewyrth John | Nedw gan Edward Tegla Davies |
Anti Laura → |
II.—GNEUD ZEBRAS.
Wedi i mi ac Wmffre fynd yn fawr, i Affrica yr yden ni'n mynd, i hela zebras. Er ein bod ni wedi ceisio gneud rhai yn y wlad yma, chawsom ni ddim rhyw lawer iawn o hwyl, am inni fethu dwad o hyd i'r oel iawn. Ardderchog o beth fase dal zebra, mae o'n medru rhedeg ynghynt nag unrhyw greadur arall. Mae o'n gyflymach hyd yn oed na mul bach, a 'does dim anifel yn ein gwlad ni cyn gyflymed a mul bach. Mae mul bach yn medru mynd ynghynt na'r trên, ac mi ddaru mul bach y Felin neud hynny hefyd, pan oedd nhad yn blentyn, medde fo. Hen ewyrth i Spargo fase'r mul hwnnw tase fo'n fyw. Wedi mynd ar y relwe yr oedd o, medde nhad, a dyma'r trên yn dwad, ac i ffwrdd â'r mul bach fel y gwynt o'i flaen o, ac mi fase wedi curo'r trên hefyd, onibae fod o'n mynd mor gyflym nes methu gweled pont y relwe. I honno yr aeth o, ac yr oedd wedi marw cyn i'r trên ei ddal.
Wedi inni ddarllen am y zebras yma yn llyfre'r ysgol, doedd na byw na marw wedyn gan Wmffre na faswn i'n addo mynd efe fo i Affrica wedi i ni fynd yn fawr, a dal zebras a'u ffogieth nhw. Ond y mae llawer o amser tan awn ni'n fawr, ac y mae eisio llawer o arian i fynd i Affrica, hynny ydi, os nad oes gennych chi Jac-yn-y-bocs. Mi neiff hwnnw yn lle arian. Mae gen i Jac-yn-y-bocs, ond rhaid imi ei gadw rhag i Isaac ei dorri o. Fy mrawd ieuenga i ydi Isaac, peder oed ydio, ac y mae o'n torri popeth y caiff o afael arno. Mi wyddoch bedi Jac-yn-y-bocs. Wel, dene'r bocs yntê, ac ar y bocs mae ene fach, agorwch y bach, a whiw! dene'r caead i fyny, a chreadur bach penddu yn neidio allan ohono. Y gnethod sydd ag ofn Jac-yn-y-bocs arnyn nhw! Chlywsoch chi rioed fel y mae nhw'n gweiddi. Mi fu Wil Cae Du yn Affrica ddwyweth neu dair, a'r ail dro aeth â Jac-yn-y-bocs efo fo. Pobol dduon sydd yn Affrica, medde fo, run fath a'r rhai sy'n canu ac yn gneud gwynebe ar lan y môr yn yr ha, ac y mae nhw run fath a rheini mewn peth arall hefyd, medde fo, tyden nhw byth yn mynd i'r capel. Mae nhw'n meddwl mai Iesu Grist ydi lot o hen bethe bach fel Jac-yn-y-bocs, ac yn lle mynd i'r capel, medde Wil, mae nhw'n mynd ar eu glinie ac ar eu hyd ar lawr o flaen rheini. Ac fel yr ydech chi a finne'n ofni i Iesu Grist ein gweld ni'n gneud drwg, mae nhwthe yr un fath efo'r pethe yma,—y pethe yma ydi eu Iesu Grist nhw. Be ddaru Wil pan aeth o yno'r ail waith, ond mynd â Jac-yn-y-bocs efo fo, a hel y blacs yma at ei gilydd, ac agor y bocs yn sydyn o'u blaene nhw. Chlywsoch chi rotsiwn weiddi, medde fo. Wedyn mi osododd y bocs a Jac yn edrych dros ei fin, ar garreg, a deydodd wrthyn nhw, "gweithiwch chi rwan, y cnafon, rydwi'n gosod hwn i'ch gwylio chwi," ac roedden nhw'n gweithio fel nigars trwy'r dydd, medde fo, a fynte'n cael cysgu'n dawel, a fo oedd yn cael yr arian am iddyn nhw weithio. Felly, does dim isio i chi fynd ag arian i Affrica, os bydd gennych chi Jac-yn-y-bocs.
Wel, mae gen i Jac-yn-y-bocs, ac rydwi'n mynd i'w gadw fo tan awn ni i Affrica i ddal zebras, ac hwyrach y gwneiff y blacs yma eu dal nhw drosom ni.
Fel y deydes i, mae llawer o amser tan hynny, tydi Wmffre na finne ddim wedi gadael ein hysgol na dechre shafio eto, ac mae'n rhaid gneud hynny cyn mynd i Affrica. Wedi meddwl am y pethe yma, a rhoi ein penne ynghyd, mi feddylies i hwyrach y medrem ni neud zebras. Anifeilied gwynion, fel mulod, a llinelle duon ar eu traws nhw, ydi zebras, medde llyfr yr ysgol, a mul gwyn ydi Spargo'r Felin.
"Mi ddeyda iti be nawn i," medde fi wrth Wmffre ryw bnawn Gwener, "mi ffeindies i hen dun hanner llawn o baent, mewn cornel yn stabal y Crown, ddiwrnod y cinio clwb. Mae o yno ers blynyddoedd yn siwr i ti, o achos roedd o wedi 'i guddio â gwê prŷ copyn, a does neb ei eisio, neu mi fase wedi mynd cyn hyn."
"Iawn," medde Wmffre, "ond sut y cawn ni o oddiyno?"
Y diwedd fu i Wmffre lwyddo i gael mynd i'r llan ar neges dros ei fam ddydd Sadwrn, drannoeth felly, a llwyddes inne i neud yr un peth, ac yr oedd ein mame'n ein gweld yn fechgyn da'r Sadwrn hwnnw, o achos mae'n gâs gennym ni'n dau negesa. Rhyw waith geneth ydio rywsut. Doedd ene neb o gwmpas stabal y Crown, a dyma finne i mewn. Yno yr oedd y tun paent ynghanol hen gelfi, â llwch a gwê prŷ copyn drosto fo. Wedi mynd i'r Cae Cnau Daear, dyma chwilio'r tun, ac yr oedd o'n hanner llawn o baent, ond fod y paent bron wedi sychu. Rhoddodd Wmffre ei fys ynddo fo, "Neiff o mo'r tro," medde fo, "paent gwyrdd ydi hwn, a marcie duon sydd gan zebra."
"Hidia befo," medde finne, "does yma neb y ffordd yma wedi gweld zebra, a wyddan nhw ddim amgenach."
Ond be gaem ni i feddalu'r paent? Roedd o'n galed ac yn sych. Paraffin mae nhad yn ei iwsio, rydwi'n meddwl, ond nid ar neges i nol paraffin yr oeddem ni, neu mi fase popeth yn iawn.
"Mi ddeyda iti be nawn ni," medde Wmffre, "mae ene botel yn hanner llawn o naw-math-o-oel yn y stabal acw, a siawns na neiff un o'r naw math y tro, mi rown ni hwnnw arno fo. Wedi mynd â'n negese adre, mi gafodd Wmffre'r oel heb lawer o drafferth, a ffwrdd â ni i'w gymysgu, ac mi gymysgodd yn ardderchog. Doedd ene ddim brwsh yn unman, ond mi ddaeth Wmffre o hyd i ddarn o glwt, a dyma ni'n rhwymo'r clwt am ben pric, ac roedd o'n frwsh dan gamp dybygsem ni. Mi fuom drwy'r pnawn yn chwilio am Spargo'r Felin, a'r paent wedi'i guddio yng Nghae Cnau Daear, ond methu ddaru ni. Wedi methu dwad o hyd i Spargo, meddyliasom am ryw greadur gwyn arall. Y mae gan Wmffre wningen wen, ond doedd o ddim yn fodlon trio'r paent arni hi, hyd yn oed i edrych weithie fo.
"Wyddost ti," medde fi, "dene Gweno'r Fron, mae hi cyn wynned a'r galchen, ac mae'r gwartheg i gyd yn y Cae Pella."
Cae ymhell o olwg pawb ar gwr y Tyno ydi'r Cae Pella, â choed o'i gwmpas o. A buwch ddiniwed, lonydd, ydi Gweno.
"Iawn," medde Wmffre, ac yno â ni ar ol cael y paent a'r brwsh. Roedd Gweno'n pori ymysg y gwartheg erill, ond doedd hi ddim yn anodd ei chael i gornel ar ei phen ei hun. Fi oedd y brwshiwr ac Wmffre'n dal y paent a'r papur. Wedi rhoi'r rhês gynta mi welsom ein bod ni wedi rhoi gormod o baent. A doedd y brwsh ddim yn rhyw weithio'n dda iawn, roedd o'n codi gormod o baent, fel brwsh gwyngalchu, a'r paent dipyn yn dene, ond doedd mo'r help. Mi gawsom well hwyl ar yr ail rês. Gan fod y paent dipyn yn dene, rhedai'r diferion braidd ormod ar chwâl, ond pwy feder neud zebra'n berffaith, mwy na dim arall, y tro cynta, yntê? Yr oedd y drydedd rês yn well fyth. Efo'r gynffon a'r coese y cawsom ni'r drafferth fwya. Fedrem ni yn ein byw rwystro'r llinelle i redeg i'w gilydd. Doedd dim i'w neud ond rhannu'r fargen, a phaentio'r coese a'r gynffon i gyd yr un lliw. Erbyn hyn yr oedd Gweno'n dechre mynd yn anesmwyth, ac wedi inni orffen fasech chi ddim yn ei nabod hi. Yr oedd rhesi gwyrddion ar draws ei chefn, a'i hochre, a'i gwddf, a'i choese a'i chynffon yn wyrdd i gyd. Prin y cawsom ni roi'r brwshied ola arni nad oedd hi i ffwrdd ar garlam, ac yn troi a throsi, a dyrnu ei hun â'i chynffon. Gresyn oedd hynny, oherwydd does ene ddim llinelle croesion i zebra, a dene oedd y gynffon yn neud. Ond roedd ysbryd zebra'n dechre mynd iddi hi, roedd hynny'n glir, o achos welsoch chi rioed y fath brancio a rhedeg. A deyd y gwir, doeddem ni ddim, yn ddistaw bach felly, yn gweld rhyw lawer o debygrwydd ynddi i zebra wedi iddi fynd dipyn oddiwrthym ni, ac aethom ymhellach wedyn er mwyn cael golwg well arni hi.
"Wmffre," medde fi, "be wyt ti'n ei feddwl ohoni hi, ydi hi'n llwyddiant?" Tynnodd Wmffre'r darn papur o'i boced yr oeddem ni'n gweithio wrtho. Llun zebra oedd o, wedi ei gymyd o lyfr yr ysgol. Roedd y ddolen yn rhydd o'r blaen. Nid ni a'i torrodd hi allan. Edrychodd Wmffre'n fanwl ar y llun, ac wedyn yn hir ar Gweno.
"Wel," medde fo, "fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti."
Aethom tuag at Gweno a'i chychwyn at y gwartheg erill, a hithe'n mynd dan brancio a neidio fel zebra iawn. Dene oedd llwyddiant mwya'r paentio. Ond pan welodd y gwartheg erill hi, chlywsoch chi rotsiwn beth. Roedden nhw'n beichio ac yn rhuo, ac amdani â nhw fel un gŵr. Ac mi fasen wedi 'i lladd hi yn siwr ddigon, onibae fod Gŵr y Fron wedi clywed y sŵn, ac wedi dwad yno o rywle. Roeddem ni'n dau ar fin mynd i geisio'i hachub o'u gafael ar y pryd, ond pan ddaeth Gŵr y Fron i'r golwg, mi welsom nad oedd mo'n heisio ni, ac i ffwrdd â ni. Mae'n rhaid fod zebra'n filen wrth wartheg yn Affrica, a nhwthe'n talu'n ol wedi ei gael o i'w gwlad eu hunen, fel mae adar yn ymosod ar ddylluan yn y dydd, ond hi ydi'r feistres yn y nos, yn ei hadeg ei hun.
Roedd digon o baent yng ngweddill i neud dau neu dri o zebras erill, a dyma ni'n penderfynu ei gadw, rhag ofn y deuem ar draws Spargo'r Felin. Ac yn wir i chi, be welem ni, wedi dwad i'r ffordd fawr, ond Spargo'n pori'n dawel yn ochr y ffordd, gan lusgo'r drol ar ei ol yn aradeg. Ar y Gefnffordd yr oedd o. Hen ffordd gul â gwrychoedd uchel bob ochr iddi hi, ar odre'r mynydd, ymhell o'r llan, lle mae'r Jipjiwns yn aros, ydi'r Gefnffordd, a dim tŷ yn agos yno ond y "_Black Crow_." Wrth gwrs, gwyddem mai yno roedd Gŵr y Felin, ac wedi unweth mynd yno na ddeue fo oddiyno'n hir.
"Rwan amdani," medde fi, "mi fydd Spargo'n zebra erbyn y daw'r hen ddyn allan, dawn i byth o'r fan yma." A fase fo ddim llawer o anfantes i Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o'n wahanol iawn i'w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o'n well am weld, ond am ei fod o'n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.
Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,—tase chi heb weld zebra o'r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte'n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase'n rhwbio ac yn cicio tasen ni'n ei rwymo.
"Dyma nawn ni," medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre'r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni'n gwthio breichie'r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i'r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o'r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a'r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo'n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i'r llidiard, a tase fo'n tynnu, fedre fo ddim tynnu'r drol drwy'r llidiard. Fedre fo ddim mynd i'r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra'n union. Dene lle roedd o felly i'r dim, yn aros i sychu.
Toc, dyma sŵn traed yn dwad o'r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i'w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo'u gweld nhw'n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, "a-wel,
a-wel, a-wel," medde fo'n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. "A-wel, a-wel," mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a "go-back, go-back," a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, "A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?" Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i'r ochor arall at Spargo, a Spargo'n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a'r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i'r hen Spargo. "Wel, wel," medde fo, "rwyt ti wedi dwad drwy'r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi'r llinelle 'ma sy arnat ti?" ac edrychodd arnyn nhw'n fanwl. "Ow! annwyl," medde fo tros y wlad, "ysbryd Spargo ydio!" ac i ffwrdd â fo am ei fywyd.
Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o'r ochor arall i'r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd.
"Dydio'n rhyfedd," medde fi wrth Wmffre, "fel y mae'r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw."
Mi drychodd Wmffre arnai'n syn ac yn bryderus am dipyn. "Wyt ti'n siwr, Nedw," medde fo, "nad y naw-math-o-oel sy'n eu smartio nhw?" Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i'w neud ond gobeithio'r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio'n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu'r paent oddiar ein dwylo, methodd Q Wmffre a fi ei dynnu'n ddigon llwyr, na'u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi'r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,—glasddu yden nhw.
Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo'n oel iawn. Ond rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu'n fawr.
Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o'n wahanol iawn i'w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o'n well am weld, ond am ei fod o'n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.
Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,—tase chi heb weld zebra o'r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte'n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase'n rhwbio ac yn cicio tasen ni'n ei rwymo.
"Dyma nawn ni," medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre'r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni'n gwthio breichie'r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i'r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o'r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a'r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo'n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i'r llidiard, a tase fo'n tynnu, fedre fo ddim tynnu'r drol drwy'r llidiard. Fedre fo ddim mynd i'r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra'n union. Dene lle roedd o felly i'r dim, yn aros i sychu.
Toc, dyma sŵn traed yn dwad o'r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i'w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo'u gweld nhw'n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, "a-wel,
"SPARGO'N DAWNSIO." [Tud. 21.]
a-wel, a-wel," medde fo'n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. "A-wel, a-wel," mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a "go-back, go-back," a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, "A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?" Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i'r ochor arall at Spargo, a Spargo'n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a'r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i'r hen Spargo. "Wel, wel," medde fo, "rwyt ti wedi dwad drwy'r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi'r llinelle 'ma sy arnat ti?" ac edrychodd arnyn nhw'n fanwl. "Ow! annwyl," medde fo tros y wlad, "ysbryd Spargo ydio!" ac i ffwrdd â fo am ei fywyd.
Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o'r ochor arall i'r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd.
"Dydio'n rhyfedd," medde fi wrth Wmffre, "fel y mae'r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw."
Mi drychodd Wmffre arnai'n syn ac yn bryderus am dipyn. "Wyt ti'n siwr, Nedw," medde fo, "nad y naw-math-o-oel sy'n eu smartio nhw?" Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i'w neud ond gobeithio'r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio'n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu'r paent oddiar ein dwylo, methodd Wmffre a fi ei dynnu'n ddigon llwyr, na'u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi'r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,—glasddu yden nhw.