Nesa at fy enaid, Waredwr y tlawd

Oddi ar Wicidestun
Cyduned trigolion y ddaear i gyd Nesa at fy enaid, Waredwr y tlawd

gan Richard Hughes Watkins

242[1] Nesâ at fy Enaid.
11. 11. 11. 11.

1 NESA at fy enaid, Waredwr y tlawd;
Datguddia dy Hunan, dy fod imi'n Frawd:
Prydferthwch fy mywyd a'i nerth ydwyt Ti,
A phrofi o'th gariad sy'n nefoedd i mi.

2 Ti ddaethost yn agos at un oedd ymhell,
Er achub ei fywyd i wynfyd sydd well;
Arhosaist yn ffyddlon drwy oerni a gwres;
Bydd eto yn f'ymyl, a thyred yn nes.

3 Rho im dy arweiniad i derfyn fy oes,
Mewn hedd a dedwyddwch, dan gystudd a chroes:
Ar finion Iorddonen, yn nyfnder ei lli,
A phawb wedi cefnu, nesâ ataf fi.

Richard Hughes Watkins


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 242, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930