Cyduned trigolion y ddaear i gyd

Oddi ar Wicidestun
O! Gariad, O! gariad anfeidrol ei faint Cyduned trigolion y ddaear i gyd

gan anhysbys

Nesa at fy enaid, Waredwr y tlawd

241[1] Dyrchafu'r Iachawdwr.
11. 11. 11. 11.

1. CYDUNED trigolion y ddaear i gyd
Mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd:
Mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw!
Troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw.

2 I gadw'r colledig, o'r nefoedd y daeth—
Rhoi bywyd i'r marw, a rhyddid i'r caeth;
Am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd
A bywyd tragwyddol trwy haeddiant ei waed.

3 Prysured y dyddiau yn fuan i ben,
Pan foler yr Iesu gan bawb is y nen;
Doed pobloedd y ddaear yn gyson i gyd.
I ganmol a charu Iachawdwr y byd.

Anhysbys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 241, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930