O! Gariad, O! gariad anfeidrol ei faint

Oddi ar Wicidestun
Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr O! Gariad, O! gariad anfeidrol ei faint

gan Morgan Rhys

Cyduned trigolion y ddaear i gyd

240[1] Rhinwedd Marwolaeth yr Oen.
11. 11. 11. 11.

1 O! GARIAD, O! gariad anfeidrol ei faint—
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint ;
Cael heddwch cydwybod, a'i chlirio trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth, sef pechod, dan draed.

2 Ni allai'r holl foroedd byth olchi fy mriw,
Na gwaed y creaduriaid er amled eu rhyw;
Ond gwaed y Meseia a'i gwella'n ddi-boen:
Rhyfeddol yw rhinwedd marwolaeth yr Oen.

3 Cydganed y ddaear a'r nefoedd ynghyd
Ogoniant tragwyddol i Brynwr y byd;
Molianned pob enaid fy Arglwydd ar gân.
Am achub anhydyn bentewyn o'r tân


4 Mae'r Jiwbil dragwyddol yn awr wrth y drws,
Fe gododd yr heulwen, ni gawsom y tlws;
Daw gogledd a dwyrain, gorllewin a de,
Yn lluoedd i foli Tywysog y ne'.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 240, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930