Noson o Farrug/Y Ddrama

Oddi ar Wicidestun
Noson o Farrug Noson o Farrug

gan Robert Griffith Berry

I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Noson o Farrugl (testun cyfansawdd)

CYMERIADAU:

WILIAM HUWS — Tad.
ELIN HUWS — Mam.
JANE — Y Ferch.
DIC — Y Mab.



NOSON O FARRUG

GOLYGFA.

[Cegin mewn mewn ffermdy bychan. Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân. Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar dde yn agor i'r buarth. Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth. Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr. Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter. Croger almanac uwchben y lle tân. Pan gyfyd y llen, gwelir ELIN Huws mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân. Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. Gwelir ei merch JANE yn smwddio bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith. Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur.]

JANE: Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch â hel meddylia.

ELIN (yn procio'r tân): Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud i'n reit anesmwyth.

JANE (yn awdurdodol): Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer.

ELIN (yn gwynfanus): Da ti, Jane, paid â 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.

JANE: 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.

ELIN: Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd : fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd. Dyna dy dad

JANE: Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd-mod i'n tynnu ar ôl 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.

ELIN: Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i. Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.

JANE: O ie, ewch ymlaen-rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth stiff yn 'y natur i. Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.

ELIN: Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.

JANE: Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.

ELIN: Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.

JANE: Wel, mi gadawn hi ar hynyna. Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?

ELIN: Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.

JANE: Na, na, deydwch y breuddwyd : mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.

ELIN: Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo. Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni-ia, roedd golwg un yn marw arno fo. Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.

[Distawrwydd.]

ELIN: 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.

JANE: 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.

ELIN: Gwn, 'ngeneth i-rwyt ti 'run farn â dy dad. Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma- anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i.

JANE: Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ôl rhoi'r ddeddf i lawr.

ELIN: Dyna'r noson-yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen. Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg.

JANE (yn frochus): Dic bach, wir! Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed. 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma. Dic bach, ai ê? Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth.

ELIN: "A anghofia mam ei phlentyn sugno (Sych ei llygaid â chwr ei ffedog.) Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic, f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth. O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma. Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt?

JANE: Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.

[Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ôl i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo. Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur.]

TAD (dan ymdwymo): Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: 'roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan.

ELIN: Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ar noson fel heno.

TAD (yn dal i ymdwymo): Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr. Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio 'na i ben? Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost.

JANE: Rwyf bron wedi gorffen.

TAD (yn eistedd i dynnu'i legins a'i esgidiau): Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul.

JANE: Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?

TAD: Ie.

ELIN: Pwy ydi'r pregethwr fory, Wiliam?

TAD: Ezra Davies, Llanllios.

JANE (dan bacio'r taclau smwddio): Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo.

TAD: Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da.

JANE: Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.

TAD: Be sy o'i le arno?

JANE: Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd. Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall byta popeth, yn lle pigo fel cyw iâr?

TAD: Paid â beio dyn am rhyw fân betha fel yna. (Cyfyd i osod y legins a'r esgidiau wrth y bwcedaid datws: yna â at y dresal i gael y Beibl, ac ar ôl symud y bwrdd yn nes i'r tân, cymer gadair ac egyr y Beibl.) Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys. Leiciech chi ddarllen heno, Elin ?

ELIN: Na, mae'n well gen i beidio heno.

TAD: Pam? Ydych chi ddim yn dda heno?

ELIN: Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.

TAD: Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?

ELIN: Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.

TAD: O'r gore. Jane, ddaru ti folltio'r drws?

JANE: Naddo. (A at y drws.)

ELIN: Paid â'i folltio fo 'rwan, 'ngeneth i.

TAD: Pam? (Nid etyb ELIN.) Bolltia fo fel arfar. (Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.) "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." (Tyn y spectol oddi ar ei lygaid gan gymryd arno fod angen ei glanhau eilwaith.) Ac ar ôl ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."

[Clywir curo gwan ar y drws.]

ELIN: 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.

TAD: Ddylai dim gael torri ar y darllen.

ELIN: Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.

[Curir eilwaith dipyn yn drymach.]

TAD: Jane, gwell agor y drws efallai : hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.

[Tyn JANE y follt ac egyr y drws.]

JANE: Pwy sydd yna ?

DIC (yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm): Jane!

ELIN (yn codi yn egwan ar ei thraed a'i llais yn grynedig): Pwy sydd 'na, Jane? Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed? Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion. Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.

TAD (yn dreng): Elin, steddwch i lawr, a pheid- iwch â chyffroi'ch hunan.

ELIN: Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ôl blynyddoedd o fod. i ffwrdd. "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."

TAD (yn chwerw): Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw (gan gyfeirio ei fys ato), sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nes atoch chi, ei fam, ac ataf innau, ei dad. Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni ?

ELIN: O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!

DIC (yn neshau'n wylaidd at y bwrdd ac estyn ei law i'w dad): 'Nhad, newch chi ysgwyd llaw hefo fi?

TAD (yn tynnu ei spectol yn bwyllog a'i gwthio i'r câs): Na wna.

ELIN: Wiliam! Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!

TAD: Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ôl pan y gadawodd i gartref mewn gwarth. Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.

[Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio.]

ELIN: Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd. Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i?

DIC: Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane.

ELIN: 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha?

DIC: Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag.

JANE: Dyma fi'n mynd ynteu.

[A drwy ddrws y grisiau gyda'r gannwyll.]

ELIN: Tyrd at y tân, 'machgen i. (A DIC ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo.) Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda. Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i.

DIC: Na, wir, mam, fedra i ddim, ond mi leiciwn gael gorfadd ar y soffa 'ma o flaen y tân, os ydi 'nhad yn fodlon: mi rydw i wedi blino. Mi â i ffwrdd ben bore fory ond i mi gael gorffwys heno.

TAD: Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddi yma heno nesa. Cofia, un o'r ddau beth—aros yma tan fore Llun, neu fynd heno. Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft.

ELIN: Ond beth am wely i Dic?

DIC: O, mi gysga i ar y soffa 'ma ond cael rug neu flancad drosta i.

TAD (yn mynd at ddrws y grisiau): Jane, tafl rug a blancad i lawr.

ELIN: Cofia gadw tanllwyth o dân, 'machgen i. Yn wir, wn i ddim sut i d'adael di dy hun yn y gegin 'ma.

TAD (o ymyl drws y llofft): Rydach chi wedi gorfod i adael gannoedd lawer o nosweithia'r chwe blynedd dwaetha pan nad oedd waeth ganddo amdanoch, a 'does bosib' na fedr o fod heb i fami heno. (Daw oddi wrth ddrws y llofft gyda rug a blancad, a theifl hwy'n ddidaro i lawr ar yr aelwyd.) Dyna nhw i ti. Rwan, Elin, rhowch ych braich i mi'ch helpu i'r llofft.

ELIN (yn ymaflyd yn ei fraich i godi): Rois di 'run gusan i mi, Dic, ar ôl bod i ffwrdd c'yd.

DIC (yn cusanu ei fam): Dyna hi, mam.

ELIN: Dydi o ddim ond fel doe gen i gofio dy gusanu di wrth dy roi i gysgu yn y gwely. Nos dawch, 'machgen gwyn i. O'r tad! dydw i ddim yn leicio'r lliw gwelw 'na sydd ar dy ruddia di a'r hen besychu gwag 'na. (Teifl fraich y tad oddi wrthi ac eistedd i lawr.) Wiliam, ewch i'ch gwely; symuda i 'run cam o'r gornel 'ma heno: 'dydi Dic ddim yn ffit i'w adael i hunan : mae o'n edrach fel corff.

DIC: Rwan, mam bach, os nad ewch i'ch gwely, dyma fi'n mynd allan y funud 'ma i ganol yr oerfel. Ewch hefo 'nhad, mi wna i'r tro yn iawn yma.

TAD (yn craffu ar DIC): Chlywis i mono ti mor 'styriol o dy fam ers plwc byd. (Yn oeraidd.) Rwan mae iti ddeyd os wyt ti'n sâl.

DIC: Nag ydw.

ELIN: Deyda'r gwir, 'ngwas annwyl i, faint sy ers pan mae'r pesychu 'na arnat ti ? Mi rydw i'n drwgleicio'r hen glic gâs 'na sy yn dy frest di.

DIC: Ewch i'ch gwely, mam: mi fydda i fel y gôg fory-os bydda i byw.

TAD: Rwan, Elin, mi awn.

ELIN (yn codi drwy help y tad, a cherdda'n llesg yn ei fraich at ddrws y grisiau, ond wrth y drws try ei golwg yn ôl): Cofia di roi digon ar y tân, mae llond y bocs o lo, ac mi fyddwn ar ein traed cyn i ti ddeffro bore fory. Nos dawch, Dic bach.

DIC: Nos dawch, mam. (Petrusa a dywed yn swil.) Nos dawch, 'nhad.

TAD (try yntau i edrych ar Dic, ond nid etyb): Rwan, Elin, gofalwch wrth ddringo'r grisiau.

[Gadewir Dic wrth ei hunan, a gwelir ef mewn cyfyng-gyngor dwys. Edrych o'i gylch, ac yn y man gwêl yr almanac; cyfyd ef i fyny a chenfydd ei lun ei hun oddi tano. Yna gesyd y rug a'r blancad a phopeth yn drefnus yn eu lle, ac â at ddrws y grisiau i glustfeinio. Gwisg ei gap a chyfyd goler ei gôt ac ar ôl ymdwymo am ychydig, diffydd y gannwyll ac â allan drwy y buarth dan wylo'n ddistaw a chau'r drws yn dawel. Am funud bach mae'r gegin yn wag a hanner tywyll. Yna daw'r tad i lawr o'r llofft wedi hanner tynnu oddiamdano. Mae'n cario coflaid o ddillad gwely yn ei freichiau, a cherdda'n dawel yn nhraed ei sanau i gyfeiriad y soffa. Ar ôl rhoi'r dillad i lawr, dealla nad oes neb ar y soffa. Goleua'r gannwyll, gan edrych mewn penbleth o'i gylch. Geilw'n'dawel, rhag cyffroi ELIN, "Dic, Dic." Brysia at ddrws y buarth, a chenfydd fod hwnnw heb ei folltio; egyr ef, ac ar y rhiniog geilw eilwaith megis dan ei anadl, "Dic, Dic bach! ymhle rwyt ti? Gan nad oes ateb yn dod, rhed yn awr at ddrws y grisiau, a geilw'n dawel, “ Jane, Jane, tyrd i lawr mewn munud." Tra mae JANE yn dod i'r gegin, gwisg ei esgidiau, a daw JANE i lawr.]

JANE: Be sy'n bod, 'nhad?

TAD (yn gynhyrfus): Mae Dic wedi mynd! Mi gadwn y newydd oddi wrth dy fam am dipyn ne mi fydd yn ddigon am i bywyd hi.

JANE (mewn braw a syndod): Dic wedi mynd! Mynd i ble?

TAD Y nefoedd a ŵyr! Ond mae rhywbeth yn deyd wrtha i mod i wedi gweld i wyneb o yn fyw am y tro dwaetha. (Ymddengys fel un yn cael ei rwygo'n ddistaw gan deimlad.) Fi gyrrodd o oddi yma heno: mi welodd nad oedd dim croeso iddo gan neb ond i fam. Goleu'r lantar 'na i mi chwilio'r buarth. (Goleua JANE y lantern, tra mae yntau'n gwisgo'r gôt uchaf sy'n crogi ar ddrws y grisiau.) Rwan saf di yn y drws hefo'r gannwyll 'ma tra bydda i'n chwilio'r buarth.

[A'r tad allan a saif JANE yn y drws gyda'r gannwyll. Ymhen rhyw funud clywir ELIN yn curo gyda'i ffon.]

JANE: 'Nhad, dowch i mewn, mae mam yn galw.

[Daw'r tad i mewn yn frysiog.]

TAD: Dy fam yn galw? Be nawn ni? Dyma hi ar ben. Dos at draed y grisia, ond am dy fywyd paid â deyd fod Dic wedi mynd,-mi dorrith i chalon.

[A JANE at ddrws y llofft, ond o hyd o flaen golwg yr edrychwyr.]

JANE: Oeddach chi'n galw, mam? (Ar ôl gwrando megis ar ei mam, sieryd â'i thad.) Mae hi'n gofyn ydi Dic yn waeth wrth ych bod chi a finna wedi dod i lawr. Be ga i ddeyd? Atebwch ar unwaith.

TAD (fel pe'n cael ei ddirdynnu): Dywed rywbeth ond y gwir; mi faddeuir y celwydd i ni'n dau, gobeithio.

JANE (wrth ei mam): Anghofio cloi'r drysau ddaru 'nhad a finna. (Etyb ofyniad arall o eiddo'i mam.) Ydi, mae Dic yn cysgu'n sownd. (Daw oddi wrth y grisiau at ei thad.) Rwan, 'nhad, be' gawn ni neud, achos does dim amsar i'w golli ?

TAD (yn eistedd â'i ben ar y bwrdd): Mi ddeydaist y gwir rwan wrth dy fam, rwy'n ofni,—ma' nghalon i ne 'nghydwybod i'n deyd fod Dic yn cysgu'n sownd, mor sownd fel na ddeffrith o byth. O! mae arna i ofn mynd allan a'i gael o'n farw.

JANE: Mi awn hefo'n gilydd.

TAD: Na, aros di unwaith eto wrth y drws hefo'r gannwyll yn dy law. Dic allan yn y barrug mawr yma yn y dillad teneu 'na a'r pesychu trwm yna yn i falu o'n ddarna!

[A allan unwaith eto gyda'i lantern, a saif JANE wrth y drws agored gyda'r gannwyll. Ymhen tipyn daw'r tad yn ôl dan wylo ac eistedd wrth y bwrdd â'i ben i lawr.]

JANE (â'i braich am ei wddf): 'Nhad bach, welis i rioed mono chi fel hyn: ga i fynd i chwilio am Dic?

TAD: O, rydw i wedi i gael o! Mae o wedi marw allan yn y berllan! Does dim dowt nad dod adre i farw 'roedd o!

JANE (yn gyffrous): Wedi marw! Dic wedi marw !

TAD: Mae o wedi marw cyn i mi gael ysgwyd llaw a dod yn ffrindia hefo fo. Jane bach, nei di 'nghoelio i, mi ddois i lawr yn un pwrpas o'r llofft i gymodi â fo, ond mi rydw i'n rhy hwyr! "O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom. O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab."

[LLEN.]

WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD.

Nodiadau[golygu]