O! Arglwydd Iôr, boed clod i Ti

Oddi ar Wicidestun
Glân geriwbiaid a seraffiaid O! Arglwydd Iôr, boed clod i Ti

gan John Thomas Job

Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

41[1] Mawl i Dduw.
886. 886.

1.O Arglwydd Iôr, boed clod i ti
Am gofio eto'n daear ni
Â'th fendith hael ei dawn:
Diodaist hi ag afon Duw,
Fe'i gwisgaist â phrydferthwch byw,
Gan lwyr aeddfedu'r grawn.

2.Tydi yw Tad y :gwlith a'r glaw,
A'r haul sy'n gwasgar ar bob llaw
Hyfrydwch dros y wlad:
Sisiala'r awel d'enw di,
A'i seinio a wna'r corwynt cry',
A phwy ni'th fawl, O Dad?

3.Fe gân pob tymor, Arglwydd Iôr,
Dy glod yn glir ar dir a môr,
Ac una'r ddaear faith:
A ninnau mwy ymddiried wnawn
Yng ngrym dy gariad, Dad pob dawn,
Nes cyrraedd pen y daith.

John Thomas Job

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 41, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930