Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi
← O! Arglwydd Iôr, boed clod i Ti | Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi gan St Ffransis o Assisi wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones |
Chwi weision Duw, molwch yr Iôn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
42[1] Mawl i Dduw.
Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi.
88. 88. gyda'r Haleliwia.
1.Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi,
Cyfoded lef i'n canlyn ni,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Ti, danbaid haul, oleuni gwiw,
Di, arian loer o dirion liw,
I'r Arglwydd, I'r Arglwydd,
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
2.Ti, fuan wynt a'th rymus lef,
Gymylau sydd yn nofio'r nef,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Di, fore hael clodfora Iôr,
A sêr y nos yn gyson gôr,
I'r Arglwydd, i'r Arglwydd &c
3.Ti, ddŵr rhedegog pur ei ryw,
Rho dithau glod i'r Duw a'th glyw,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Di, dân meistrolgar sydd ynghyd
Yn gloywi a gwresogi byd,
I'r Arglwydd, i'r Arglwydd &c
4.Fwyn ddaear-fam o ddydd i ddydd
I ni sy'n rhoi bendithion rhydd,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Dy ffrwyth, dy flodau o bob rhyw,
Datganant hwy ogoniant Duw,
I'r Arglwydd, I'r Arglwydd, &c
5. A doed pob dyn o fron ddi-frad
I ddwyn ei ran gan faddau'n rhad,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
A wypo boen a galar dwys,
Molianned Dduw, rhoed arno'i bwys,
I'r Arglwydd, I'r Arglwydd, &c
6. A thi, dyneraf angau'i hun
Sy'n gwylio i ddwyn ein holaf ffun,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Di ddygi adref blentyn Iôr,
Yr Arglwydd Grist aeth drwy dy ddôr,
I'r Arglwydd, I'r Arglwydd, &c
7.Popeth a wnaed gan Luniwr byd
I'w foli doed ag isel fryd,
I'r Arglwydd, Haleliwia;
Boed mawl i'r Tad a'r Mab ei hun,
A mawl i'r Ysbryd, Dri yn Un,
I'r Arglwydd, I'r Arglwydd, &c
St Ffransis o Assisi cyf. Thomas Gwynn Jones
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 41, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930