O! Arglwydd dyro awel

Oddi ar Wicidestun
O! Ysbryd sancteiddiolaf O! Ysbryd sancteiddiolaf

gan Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach

255[1] Awelon Mynydd Seion.
76. 76. D.

1 O! ARGLWYDD, dyro awel,
A honno'n awel gref,
I godi f'ysbryd egwan
O'r ddaear hyd y nef:
Yr awel sy'n gwasgaru
Y tew gymylau mawr;
Mae f'enaid am ei theimlo:
O'r nefoedd doed i lawr.

2 Awelon mynydd Seion
Sy'n ennyn nefol dân,
Awelon mynydd Seion
A nertha 'nghamre 'mlaen;
Dan awel mynydd Seion
Mi genais beth cyn hyn;
Mi ganaf ronyn eto
Nes cyrraedd Seion fryn.

Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach



Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 255, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930