O! Ysbryd sancteiddiolaf

Oddi ar Wicidestun
O! Ysbryd sancteiddiolaf

gan William Williams, Pantycelyn


a Thomas Jones, Dinbych
O! Arglwydd dyro awel

254[1] Erfyniadau am yr Ysbryd.
76. 76. D.

1 O! YSBRYD sancteiddiolaf,
Anadla arna' i lawr
O'r cariad anchwiliadwy
Sy 'nghalon Iesu mawr;
Trwy haeddiant Oen Calfaria,
Ac yn ei glwyfau rhad,
'R wy'n disgwyl pob rhyw ronyn
O burdeb gan fy Nhad.

2 Tyrd, Ysbryd Glân sancteiddiol,
Anadla'r nefol ddawn:
Gwna heddiw gynnwrf grasol
Mewn esgyrn sychion iawn:
Dy nerthoedd rho i gydfyned
A geiriau pur y nef;
Dy air yn nerthol rheded,
Mewn goruchafiaeth gref.

Pen 1 William Williams, Pantycelyn
Dyfyniad o Golwg ar Deyrnas Crist
Pen 2 Thomas Jones, Dinbych




Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 254, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930