O! Cenwch fawl i'r Arglwydd

Oddi ar Wicidestun
Moliannwn Di, O! Arglwydd O! Cenwch fawl i'r Arglwydd

gan Robert Jones, Llanllyfni

Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

30[1] Mawl i'r Arglwydd
76. 76. D.

O! CENWCH fawl i'r Arglwydd,
Y ddaear fawr i gyd,
Ac am ei iechydwriaeth
Moliennwch Ef o hyd;
Mynegwch ei ogoniant—
Tra dyrchafedig yw;
Mae'n ben goruwch y duwiau,
Mae'n Arglwydd dynol-ryw.


2 Rhowch iddo aberth moliant,
Ymgrymwch ger ei fron,
Yn brydferth mewn sancteiddrwydd
Moliennwch Ef yn llon;
Ac ofned pob creadur
Yr Hwn sy'n dal y byd;
Ymlawenhaed y nefoedd
A'r ddaear ynddo 'nghyd.

Robert Jones, Llanllyfni


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 30, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930