Moliannwn Di, O! Arglwydd
Gwedd
← Pa le, pa fodd dechreuaf | Moliannwn Di, O! Arglwydd gan David Rowlands (Dewi Môn) |
O! Cenwch fawl i'r Arglwydd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
29[1] Moliant i'r Arglwydd. '.
76. 76. D.
MOLIANNWN Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy waith
Yn llunio bydoedd mawrion
Y greadigaeth faith;
Wrth feddwl am dy allu
Yn cynnal yn eu lle
Drigfannau'r ddaear isod
A phreswylfeydd y ne'.
2 Moliannwn Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy ffyrdd
Yn llywodraethu'n gyson
Dros genedlaethau fyrdd;
Wrth feddwl am ddoethineb
Dy holl arfaethau cudd,
A'u nod i ddwyn cyfiawnder
O hyd i olau dydd.
3 Moliannwn Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy ras
Yn trefnu ffordd i'n gwared
O rwymau pechod cas;
Wrth feddwl am y gwynfyd
Sydd yna ger dy fron
I bawb o'r gwaredigion
'N ôl gado'r ddaear hon.
David Rowlands (Dewi Môn)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 29, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930