O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth
Gwedd
← Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw | O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth gan John Hughes, Pontrobert |
O! Arglwydd Dduw, 'r Hwn biau'r gwaith → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
247[1] Deffro, Fraich yr Arglwydd.
M. S.
O! DEFFRO, deffro, gwisg dy nerth,
O! brydferth fraich yr Arglwydd;
Fel yn y dyddiau gynt a fu,
Amlyga d'alluogrwydd.
2 I ennyn ynom nefol dân,
Duw, anfon dy Lân Ysbryd ;
Aed gyda'th eiriau sanctaidd Di
Nerth, a goleuni hefyd.
3 O! Arglwydd, dyro inni'n glau
Y tywalltiadau nerthol
O weithrediadau'r Ysbryd Glân,
A'u grym fel tân angerddol.
John Hughes, Pontrobert
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 247, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930