Neidio i'r cynnwys

Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw

Oddi ar Wicidestun
Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw

gan Anhysbys

O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


246[1] Tyrd, Ysbryd Glân
M. S.


1 TYRD, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw,
Yr unrhyw â'r Tad nefol,
Yr unrhyw hefyd â'r Mab Rhad;
Duw cariad tangnefeddol.

2 Llewyrcha i'n clonnau ni â'th ras,
Fel y bo gas in bechu,
Ac inni, mewn sancteiddrwydd rhydd,
Bob dydd dy wasanaethu.

3 Tydi addewaist ddysgu, Iôn,
Dy weision i lefaru,
Fel ym mhob man y caffo'n rhwydd
Yr Arglwydd ei foliannu.

4 O! Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,
Y gwir oleuni danfon;
A hefyd sêl, tra fôm ni byw,
I garu Duw yn ffyddlon.

5 Dod fesur mawr o'th ras yn rhwydd,
O! Arglwydd Dduw Goruchaf:
Diddanwch inni felly bydd
Yn y brawd-ddydd diweddaf.

O'r Lladin,
Llyfr Gweddi Gyffredin.


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 246, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930