Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni
← O! Anfon Di yr Ysbryd Glân | Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni gan Anhysbys |
Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
245[1] Tyrd, Ysbryd Glân
M. S.
1 TYRD, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,
A dod d'oleuni nefol;
Tydi wyt Ysbryd Crist; dy ddawn
Sy fawr iawn a rhagorol.
2 Llawenydd, bywyd, cariad pur,
Ydyw dy eglur ddoniau;
Dod eli i'n llygaid, fel i'th saint,
Ac ennaint i'n hŵynebau.
3 Gwasgara Di'n gelynion trwch,
A heddwch dyro inni;
Os Twysog inni fydd Duw Nêr,
Pob peth fydd er daioni.
4 Dysg in adnabod y Duw Dad,
Y gwir Fab Rhad a Thithau,
Yn un tragwyddol Dduw i fod,
Yn hynod Dri Phersonau;
5 Fel y molianner, ym mhob oes,
Y Duw a roes drugaredd,
Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân;
Da datgan ei anrhydedd.
O'r Lladin,
Llyfr Gweddi Gyffredin.
246[2] Tyrd, Ysbryd Glân
M. S.
1 TYRD, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw,
Yr unrhyw â'r Tad nefol,
Yr unrhyw hefyd â'r Mab Rhad;
Duw cariad tangnefeddol.