Neidio i'r cynnwys

O! Enw annwyl iawn

Oddi ar Wicidestun
Cyffelyb un i'm Duw O! Enw annwyl iawn

gan William Williams, Pantycelyn

Mae enw Calfari
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

154 [1] Enw'r Iesu.
66. 66. 88.

1 O! ENW annwyl iawn,
Anwylaf un yn bod;
Ni chlywodd engyl nef
Gyffelyb iddo 'rioed:
Rhof arno 'mhwys, doed dydd, doed nos,
Fe'm deil i'r lan dan bob rhyw groes.

2 Cryf yw ei ddehau law,
Anfeidrol yw ei rym,
Ac nid oes byth a saif
O flaen ei ŵyneb ddim:
Rhois iddo f'hun, f'amddiffyn wna
Rhag dyfais uffern faith a'i phla.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 154, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930