Cyffelyb un i'm Duw
Gwedd
← Iesu dyrchafedig | Cyffelyb un i'm Duw gan William Williams, Pantycelyn |
O! Enw annwyl iawn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
153[1] Neb yn gyffelyb i Grist.
66. 66. 88.
1 CYFFELYB un i'm Duw
Ni welodd daer na nef;
'D oes un creadur byw
Gymherir iddo Ef;
Cyflawnder mawr o ras di-drai
Sydd ynddo fythol yn parhau.
2 Yn nyfnder twllwch nos
Mi bwysaf ar ei ras;
O'r twllwch tewa' 'rioed
Fe ddwg oleuni i maes:
Os gwg, os llid, mi af i'w gôl,
Mae'r wawr yn cerdded ar ei ôl.
3 Ymffrostiaf ynddo Ef
Ped ymderfysgai'r byd,
Pe dilyw ddôi'r ail waith
I guddio'r ddaer i gyd;
Rhyw noddfa lawn a lloches sy
Uwch tymestl yn f'Anwylyd cu.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 153, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930