Neidio i'r cynnwys

Iesu dyrchafedig

Oddi ar Wicidestun
Teg wawriodd arnom ddydd Iesu dyrchafedig

gan William Ambrose (Emrys)

Cyffelyb un i'm Duw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

152[1] Iesu dyrchafedig.
665. 665. 786.

1 IESU dyrchafedig,
Geidwad bendigedig,
Mawl a'th erys Di;
Arglwydd llawn tosturi,
Edrych ar ein gweddi,
Iesu, cymorth ni;
Trugarha, O! Arglwydd da,
Rho faddeuant, rho dangnefedd,
Dwg ni i'th orfoledd.

2 Ymaith, ffôl amheuon,
Heriaf bob treialon,
Iesu yw fy rhan;
Canaf ym mhob tywydd,
Os caf wenau f'Arglwydd,
Gobaith f'enaid gwan;
O! fy Nuw, fy ngweddi clyw,
Os cyrhaeddaf nef y nefoedd
Molaf Di'n oes oesoedd.

William Ambrose (Emrys)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 152, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930