Teg wawriodd arnom ddydd
Gwedd
← Fy Iesu yw fy Nuw | Teg wawriodd arnom ddydd gan Evan Pritchard (Ieuan Lleyn) |
Iesu dyrchafedig → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
151[1] Teg wawriodd arnom Ddydd.
66. 46. 88. 76.
1 TEG wawriodd arnom ddydd
A welwyd gynt trwy ffydd
Gan rai sy'n awr
O'u cystudd mawr yn rhydd;
Ac os oedd dyled arnynt hwy
Foliannu'r Oen a'i farwol glwy',
Mae'n dyled ni, genhedloedd,
Fil miloedd foli mwy.
2 Trwy Grist a'i werthfawr waed
Y daeth maddeuant rhad:
I ddynol-ryw
Iachawdwr gwiw a gad;
Ei fywyd pur a'i angau loes
A'i ddioddefaint ar y groes
A ddygo fy serchiadau
Tra pery dyddiau f'oes.
3 Yn nyfnder pob rhyw loes,
A gorthrymderau f'oes,
Fy noddfa a'm nerth
Yw aberth mawr y groes:
Rhinweddol haeddiant marwol glwy'
Yw 'nghysur yn y byd tra fwy',
A'm hunig ddigonoldeb
I dragwyddoldeb mwy.
1 Evan Prichard (Ieuan Lleyn)
2-3 Siarl Mark
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif , Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930