O! Pryn y gwir, fy enaid, pryn

Oddi ar Wicidestun
Bydd di gysurus yn dy Dduw O! Pryn y gwir, fy enaid, pryn

gan Thomas Williams, Bethesda'r Bro

Y rhai o dan dy gysgod, Iôn

475[1] Pryn y Gwir."
M. S.

O! PRYN y gwir, fy enaid, pryn,
Na werth ar un amodau;
O holl drysorau môr a thir,
Y gwir yw'r trysor gorau.

2 Y gwir fel gwregys, ar bob cam,
Yn dynn fo am ein lwynau;
Y gwir ei hun a geidw'n bron
Yn llon mewn gorthrymderau.

3 Rhy'r gwir im gysur dan y loes
Pan ddelo f'oes i fyny:
Daw hwn â'm henaid i'r pryd hyn
Trwy'r glyn dan orfoleddu.

Thomas Williams, Bethesda'r Bro



Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 475, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930