O! Tyred i'n iacháu
Gwedd
← Bywyd y meirw, tyrd i'n plith | O! Tyred i'n iacháu gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Ni thrig awelon nef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
252[1] Gweddi am Sancteiddiad
65. 65. 66. 65.
1 O! TYRED i'n iacháu,
Garedig Ysbryd;
Tydi sy'n esmwytháu
Blinderau bywyd:
Er dyfned yw y loes,
Er trymed yw y groes,
Dwg ni bob dydd o'n hoes
Yn nes i'r gwynfyd.
2 O! tyred i fywhau
Y rhai drylliedig;
Tydi sy'n cadarnhau
Y gorsen ysig:
Pan fyddo'r storom gref
Yn llanw'r byd a'r nef,
Dy air a'th hyfryd lef
Wna'r gwynt yn ddiddig.
3 O! tyred i'n glanhau
O bob anwiredd,
Rhag cael y drws ynghau,
Pan ddêl y diwedd:
O! gwasgar ofnau'r bedd,
A dwg ni ar dy wedd
I breswylfeydd dy hedd,
Uwchlaw pob llygredd.
Howell Elvet Lewis (Elfed)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 252, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930