Neidio i'r cynnwys

Bywyd y meirw, tyrd i'n plith

Oddi ar Wicidestun
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr Bywyd y meirw, tyrd i'n plith

gan John Hughes, Pontrobert

O! Tyred i'n iacháu
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


251[1] O! Anadl, tyred
M. H.

1 BYWYD y meirw, tyrd i'n plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwŷth;
Anadla'n rymus ar y glyn,
Fel y bo byw yr esgyrn hyn.

2 Dy Ysbryd sanctaidd, oddi fry,
Ddisgynno'n helaeth arnom ni;
Gwnaed ein calonnau ni bob un
Yn demlau sanctaidd iddo'i Hun.

John Hughes, Pontrobert



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 251, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930