Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr
Gwedd
← O! Golch fi beunydd, golch fi'n lân | Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr gan Charles Wesley wedi'i gyfieithu gan Anhysbys |
Bywyd y meirw, tyrd i'n plith → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
250[1] Gweddi am Oleuni'r Ysbryd
M. H.
1 TYRD, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr,
Datguddia ddyfnion bethau Duw;
Eglura inni'r enw mawr,
A gwna'n heneidiau meirw'n fyw.
2 Gad inni weld, yn d'olau Di,
Fod Iesu'n Arglwydd ac yn Dduw;
A than d'eneiniad rho i ni
Ei 'nabod Ef yn Geidwad gwiw.
3 O'i weled yn d'oleuni clir
Cawn brofi rhin ei farwol loes,
A thystio â llawenydd gwir
Mai'n rhan yw'r Hwn fu ar y groes.
4 Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, tyrd yn awr,
A gweithia ynom nerthol ffydd;
Ac yn dy hyfryd nefol wawr
Ein tywyll nos â'n olau ddydd.
Charles Wesley, (Cyf anhysbys)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 250, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930