O! agor fy llygaid i weled

Oddi ar Wicidestun
O! gariad, O! gariad mor rhad O! agor fy llygaid i weled

gan Morgan Rhys

O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd

230[1] Gwaredigaeth trwy Grist
88. 88. D.

O! AGOR fy llygaid i weled
Dirgelwch dy arfaeth a'th air ;
Mae'n well i mi gyfraith dy enau
Na miloedd o arian ac aur :

Y ddaear â'n dân, a'i thrysorau,
Ond geiriau fy Nuw fydd yr un ;
Y bywyd tragwyddol yw 'nabod
Fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.

2 Rhyfeddod a bery'n ddiddarfod
Yw'r ffordd a gymerodd Efe
I gadw pechadur colledig,
Trwy farw ei Hun yn ei le :
Fe safodd fy Mrenin ei Hunan,
Gorchfygodd hiliogaeth y ddraig ;
Ein Llywydd galluog ni ydyw:
O! caned preswylwyr y graig.

3 Daeth blwyddyn y caethion i ganu,
Doed meibion y gaethglud ynghyd,
A seiniwn drwy'r nefoedd a'r ddaear
Ogoniant i Brynwr y byd:
Mae Brenin y nef yn y fyddin,
Gwae Satan a'i filwyr yn awr;
Trugaredd a hedd sy'n teyrnasu :
Mae undeb rhwng nefoedd a llawr.

Morgan Rhys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 230, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930