O! gariad, O! gariad mor rhad

Oddi ar Wicidestun
Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn O! gariad, O! gariad mor rhad

gan David Jones, Treborth

O! agor fy llygaid i weled

229[1] Rhyfeddodau Cariad Crist.
88. 88. D.

1 O! GARIAD, O! gariad mor rhad,
O! foroedd o gariad mor fawr:
Mab unig-anedig y Tad
Ddisgynnodd o'r nefoedd i'r llawr ;
Cymerodd ei wneuthur yn gnawd,—
Dynoliaeth â Duwdod yn un;
Bu farw ar groesbren dan wawd
Yn lle ei elynion ei Hun.


David Jones, Treborth


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 229, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930