O'th flaen O! Dduw r' wy'n dyfod

Oddi ar Wicidestun
Pechadur wyf, O! Arglwydd O'th flaen O! Dduw r' wy'n dyfod

gan Thomas William, Bethesda'r Fro

525[1] Pechadur a'r Iesu
76. 76. D.

1 O'TH flaen, O! Dduw, 'r wy'n dyfod,
Gan sefyll o hir-bell;
Pechadur yw fy enw—
Ni feddaf enw gwell;
Trugaredd wy'n ei cheisio,
A'i cheisio eto wnaf,
Trugaredd imi dyro,
'R wy'n marw onis caf.

2 Pechadur wyf, mi welaf,
O! Dduw, na allaf ddim;
'R wy'n dlawd, 'r wy'n frwnt, 'r wy'n euog,
O! bydd drugarog im ;
'R wy'n addef nad oes gennyf,
Trwy 'mywyd hyd fy medd,
O hyd ond gweiddi—" Pechais!
Nid wyf yn haeddu hedd."

3 Mi glywais gynt fod Iesu,
A'i fod Ef felly'n awr,
Yn derbyn publicanod
A phechaduriaid mawr ;
O derbyn, Arglwydd, derbyn
Fi hefyd gyda hwy,
A maddau'r holl anwiredd,
Heb gofio'r camwedd mwy.


Thomas Williams, Bethesda'r Fro


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 525, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930