Pechadur wyf, O! Arglwydd

Oddi ar Wicidestun
Atolwg, Arglwydd, gwrando Pechadur wyf, O! Arglwydd

gan Morgan Rhys

O'th flaen O! Dduw r' wy'n dyfod

524[1] Ymbil am Faddeuant.
76. 76. D.

1 PECHADUR wyf, O! Arglwydd,
Sy'n curo wrth dy ddôr;
Erioed mae dy drugaredd
Ddiddiwedd imi'n stôr:
Er iti faddau beiau
Rifedi'r tywod mân,
Gwn fod dy hen drugaredd
Lawn cymaint ag o'r blaen.

2 Dy hen addewid rasol
A gadwodd rif y gwlith
O ddynion wedi eu colli
A gân amdani byth;
Er cael eu mynych glwyfo
Gan bechod is y nen,
Iacheir eu mawrion glwyfau
 dail y bywiol bren.

3 Gwasgara'r tew gymylau
Oddi yma i dŷ fy Nhad;
Datguddia imi beunydd.
Yr iechydwriaeth rad;
A dywed air dy Hunan
Wrth f'enaid clwyfus trist,
Dy fod yn maddau 'meiau
Yn haeddiant Iesu Grist.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 524, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930