O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae O Arglwydd Dduw rhagluniaeth yn emyn gan Ann Griffiths (1776-1805)

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth
ac iachawdwriaeth dyn,
tydi sy’n llywodraethu
y byd a’r nef dy hun;
yn wyneb pob caledi
y sydd neu eto ddaw,
dod gadarn gymorth imi
i lechu yn dy law.


Er cryfed ydyw’r gwyntoedd
a chedyrn donnau’r môr,
doethineb ydyw’r Llywydd,
a’i enw’n gadarn Iôr:
er gwaethaf dilyw pechod
a llygredd o bob rhyw,
dihangol byth heb soddi,
am fod yr arch yn Dduw.