Neidio i'r cynnwys

Pa dduw ymhlith y duwiau

Oddi ar Wicidestun
Fy Nuw, uwch law fy neall Pa dduw ymhlith y duwiau

gan David Saunders

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth


70[1] Duw yn hoffi Trugarhau.

76. 76. D.

1 PA dduw ymhlith y duwiau
Sydd debyg i'n Duw ni?
Mae'n hoffi maddau'n beiau,
Mae'n hoffi gwrando'n cri;
Nid byth y deil eiddigedd,
Gwell ganddo drugarhau;
Er maint ein hannheilyngdod,
Mae'i gariad E'n parhau.

Y Parch David Saunders, Merthyr

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 70, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930