Neidio i'r cynnwys

Fy Nuw, uwch law fy neall

Oddi ar Wicidestun
O! Foroedd o ddoethineb Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd

gan William Williams, Pantycelyn

Pa dduw ymhlith y duwiau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

69[1] Doethineb a Daioni Duw.
76. 76. D.

1.FY Nuw, uwch law fy neall
Yw gwaith dy ddwylo i gyd
Rhyfeddod annherfynol
Sydd ynddynt oll ynghyd;
Wrth weled dy ddoethineb,
Dy allu mawr, a'th fri,
Mi greda' am iechydwriaeth
Yn hollol ynot Ti.

2.O f'enaid, gwêl fath noddfa
Ddiysgog gadarn yw,
Ym mhob rhyw gyfyngderau,
Tragwyddol ras fy Nuw:
Ac yma boed fy nhrigfan,
Boed fy nhawelaf nyth,
Yn nyfnder cyfyngderau,
Sef dan dy adain byth.

3.Fe all i'r lan fy nghodi
O ddyfnder llwch y byd,
Gwneud i bob drwg a gwrddwyf
Droi er daioni i gyd;
Rhoi olew o lawenydd
Yn wastad ar fy mhen,
A'm dwyn trwy foroedd dyfnion
I ganol nefoedd wen.

O Golwg ar Deyrnas Crist gan
William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 69, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930