O! Foroedd o ddoethineb
Gwedd
← Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd | Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd gan William Williams, Pantycelyn |
Fy Nuw, uwch law fy neall → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
68[1] Cariad Duw.
76. 76. D.
1.O! FOROEDD o ddoethineb
Oedd yn y Duwdod mawr,
Pan fu'n cyfrannu ei gariad
I dlodion gwael y llawr;
A gwneuthur ei drugaredd,
A'i faith dosturi 'nghyd
I redeg megis afon
Lifeiriol dros y byd.
2.Rhyw ddyfnder maith o gariad,
Lled, annherfynol hyd,
A redodd megis dilyw
Diddiwedd dros y byd;
Yn ateb dyfnder eithaf
Trueni dynol-ryw;
Cans dyfnder eilw ar ddyfnder
Yn arfaeth hen fy Nuw.
3.O! gariad heb ei gymar!
A dyna'r testun sy
Yn llanw holl ganiadau
Angylaidd sanctaidd lu;
Anfeidrol ras! amdano,
Pe na foliannai dyn,
Clodforai'r bydoedd mudion
Yn ddiau bob yr un.
O Golwg ar Deyrnas Crist gan
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 68, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930