Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd

Oddi ar Wicidestun
Ti, Arglwydd, yw fy rhan Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd

gan David Charles (1803-1880)

O! Foroedd o ddoethineb
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

67[1] Ffordd Duw'n guddiedig.
76. 76. D.



1.FFORDD Duw sydd yn y dyfroedd,
A'i lwybrau oll yn gudd;
Er hynny, dônt yn amlwg
Pan ddêl yr hynod ddydd:
Holl droeon maith rhagluniaeth—
Bydd clir belydrau Duw
Yn dangos eu cymhwyster
I bob creadur byw.

2.Gan hynny, ymdawelwn
Mewn gostyngeiddrwydd gwiw,
A gwir fwyneidd—dra duwiol
Mewn 'stormydd o bob rhyw:
Pob awel lem anhyfryd—
Yn ôl yr arfaeth gynt,
Ar honno yn marchogaeth
Mae Arglwydd mawr y gwynt.

David Charles (1803-1880)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 67, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930