Ti, Arglwydd, yw fy rhan

Oddi ar Wicidestun
O! Uchder heb ei faint Ti, Arglwydd, yw fy rhan

gan William Williams, Pantycelyn

Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

66[1] Ffoi at Dduw.
66. 84. D.

1.TI, Arglwydd, yw fy rhan,
A'm trysor mawr di—drai,
A noddfa gadarn f'enaid gwan
Ym mhob rhyw wae:
Ac atat 'r wyf yn ffoi,
Dy fynwes yw fy nyth,
Pan fo gelynion yn crynhoi,
Rifedi'r gwlith.

2.Tydi, fy Nuw ei Hun,
Anfeidrol berffaith Fod,
Sy'n trefnu daear, da, a dyn
I'th ddwyfol glod;
Cyfrwydda f'enaid gwan
Trwy'r anial yn y blaen,
Ac arwain fi 'mhob dyrys fan
Â'th golofn dân.

3.Dy Ysbryd sanctaidd cun
Dywysodd fyrdd o saint,
Rho imi brofi ei felys rin,
Anfeidrol fraint;
Fel dyfroedd gloyw clir,
I lonni'r llesg a'r gwan,
Diddanwch yn yr anial dir
I'm dal i'r lan.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 66, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930