O Gwcw (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae O Gwcw yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- O gwcw, O gwcw, b'le buost ti cyd
- Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.
- "Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
- Mi godais fy aden i fyny i'r gwynt;
- Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffôl,
- Corwynt o'r gogledd a'm cadwodd i'n ôl."