O Law i Law/Pennod VI - Llestri Te

Oddi ar Wicidestun
Pennod V - Bwrdd y Gegin O Law i Law

gan T Rowland Hughes

Pennod VII - Y Lliain


VI—LLESTRI TE

Pan osodai'r bwrdd i de, taflodd Ella olwg hiraethus i gyfeiriad y llestri sydd ar silff uchaf y cwpwrdd gwydr. Llestri te ydynt â rhosynnau rhuddion yn blaguro uwch gwyrdd ac aur y cefndir, rhosynnau hynod hardd a'r tipyn gwyrdd danynt yn ymdoddi i'r aur sy'n ymestyn i fin y gwpan neu'r plât neu'r jwg.

"Be' 'newch chi hefo'r llestri crand 'na, John Davies?"

"Mynd â nhw hefo mi, Ella. 'Wna' i ddim gwerthu'r rheina."

Tawodd hithau, a gwelwn oddi wrth ei phrysurdeb yn paratoi'r bwrdd i de, a'r modd yr oedd ei llygaid yn osgoi edrych arnaf, y teimlai'n ddig wrthi ei hun am dynnu fy sylw at y llestri.

"Y mae'n ddrwg gen' i imi sôn am y llestri wrthach chi, John Davies," meddai ymhen ennyd. "Yr ydw' i yn un ddifeddwl, ond ydw'?"

Chwerddais innau, a dweud nad oedd yn rhaid iddi ei beio'i hun o gwbl.

"Pan fydd rhyw ferch ifanc go smart yn galw i'm gweld yn fy llety, Ella, mi rown ni'r llestri crand 'na ar y bwrdd," meddwn.

Crwydrai fy llygaid o'r bwrdd i silff uchaf y cwpwrdd gwydr trwy amser te. Ac wedi imi orffen bwyta, eisteddais yn ôl yn fy nghadair a syllu'n hir ar y llestri a'u rhosynnau hardd. Cofiwn y diwrnod yr aeth fy mam a'm tad i Gaernarfon i'w prynu yn anrheg priodas imi.

"Gobeithio y bydd hi yn 'u licio nhw, John," meddai fy mam. "Mi fuo' ni'n dau hyd yr hen dre 'na i gyd, a'r rhain oedd y crandia' — a'r druta' — welsom ni. O diar, yr ydan ni'n sâl isio 'panad."

Rhoes fy nhad y pecyn ar y bwrdd i'w ddatod yn bwyllog a gofalus. Gwelwn y balchder yn llygaid y ddau wrth i'r llestri crand ddod i'r golwg, a phan ddaliodd fy mam gwpan i fyny yng ngolau'r ffenestr a denu tinc ohoni â'i hewin, gallwn dyngu oddi wrth wedd fy nhad mai ef a luniodd y gwpan ac a beintiodd y rhosynnau. Aeth fy mam â'r llestri i'r parlwr i'w gosod ar y bwrdd bach wrth y ffenestr, a galwodd amryw i'w gweld gyda'r nos. Ymunai fy nhad hefyd â'r ymwelwyr, gan sefyll wrth y bwrdd bach — fel awdur a pherffeithydd y llestri.

Diar annwyl, y mae'r dyddiau hynny fel doe er i bymtheng mlynedd lithro ymaith. Yr oeddwn i newydd gyrraedd fy nhair ar hugain, a thros fy mhen a'm clustiau mewn cariad. Am Nel y meddyliwn drwy'r dydd wrth fy ngwaith, ac fel yr hiraethwn am i gorn y chwarel ganu ar ddiwedd y prynhawn imi gael brysio adref i lyncu tamaid cyn cychwyn dros y mynydd i'w gweld! Cyn hynny, cerddaswn adref hefo'm tad ac Ifan Jones bob dydd, ond brysiwn o'u blaenau yn awr. Yn wir, byddwn hanner y ffordd i fyny i'r mynydd cyn i'm tad orffen bwyta'i swper-chwarel. Cyflym yw traed llanc mewn cariad.

Clir yw'r atgof am ei chyfarfod gyntaf. Yr oedd eisteddfod yn Llanybwlch, ac euthum yno i gystadlu ar adrodd. Cofiaf ddringo llwybr y mynydd y prynhawn Sadwrn hwnnw o wanwyn, ac adrodd englynion R. Williams Parry ar ôl Hedd Wyn wrth y grug a'r creigiau ar fin y ffordd. Enillaswn ar y darn mewn eisteddfod yn Llanarfon, ac un diwrnod yn y chwarel, cymhellodd fy nhad ac Ifan Môn fi i ymgeisio yn Llanybwlch. "'Fyddi di ddim gwaeth o drio, wel'di," meddai fy nhad.

"'Rwyt ti'n bownd o ennill, John," meddai Ifan Jones.

Yn y capel, yn hogyn, y dechreuaswn adrodd, mewn ambell Gyfarfod Amrywiaethol yn perthyn i'r Gymdeithas Lenyddol. F'ewythr Huw a'm dysgai, ond wedi iddo ef farw, gyrrodd fy nhad fi un noson at John Lloyd, yr Adroddwr lleol. Yr oedd ef yn adroddwr hynod o boblogaidd, a mawr oedd y galw am ei wasanaeth yng nghyngherddau'r ardal ac fel arweinydd mewn eisteddfodau. 'Ioan Llwyd' y'i galwai ei hun, ac ymddangosai ambell bwt o gerdd yn y papurau lleol o dan yr enw hwnnw. "Y Bradwr" oedd y darn y mynnai fy nhad imi ei feistroli wrth draed John Lloyd, a chofiaf y noson o aeaf y curais yn bryderus wrth ei ddrws. Daeth y gŵr mawr ei hun i ateb fy nghnoc ac i agor imi.

"Aros di, hogyn Robat Davies, yntê? Tyd i mewn. Mi fu dy dad yn siarad hefo mi neithiwr."

I mewn â ni i'r gegin fach at y tân.

"'Dydw' i ddim am ddeud y medra' i 'neud adroddwr ohonat ti, cofia. Mae isio llais a phersonoliath a phresenoldab i 'neud adroddwr. Paid â chrymu dy ysgwydda' gymaint; tafl dy frest allan."

Rhoes fi i sefyll wrth y drws, a safodd yntau â'i gefn at y tân a'i ddwy droed ar led. Yr oedd John Lloyd yn ŵr hardd i edrych arno—a gwyddai yntau hynny. Dyn tal, cydnerth, ydoedd, a chroen ei wyneb cyn iached â chroen afal. Gwisgai sbectol â'i ffrâm lydan o gorn du, ac aml y rhoddai ei fys a'i fawd am fraich y ffrâm i dynnu'r sbectol ymlaen ar ei drwyn mawr er mwyn iddo gael edrych arnoch trosti. Ei wallt a dynnai eich sylw gyntaf oll; gadawai iddo dyfu ar ei ruddiau hyd at waelod ei glustiau, ac uwchlaw'r clustiau a thu ôl i'w ben ymwthiai'n gnwd beiddgar, trwchus. Mwstas fel brwsh dannedd, un dant aur ym mlaen ei geg, gwên a oleuai ac a ddiffoddai yn annaturiol o gyflym, môr o lais, pob cam a phob ystum yn ymwybodol a gorffenedig — dyna Ioan Llwyd. Yr oedd ei wisg bob amser yn deilwng o'i urddas fel Adroddwr ac Arweinydd Swyddogol pob cyngerdd yn y lle — coler big, côt a gwasgod ddu, a throwsus du ac arno resi tenau, gwyn. Buasai'n chwarelwr yn ei ddyddiau ifainc, ond casglu yswiriant oedd ei waith ers blynyddoedd bellach.

"Reit, " meddai, gan edrych arnaf dros ei sbectol. "Sgwaria d'ysgwydda' . . . Dyna well. Gwthia dy frest allan; gwthia hi allan yn iawn 'rŵan . . .Dy ên i fyny; i fyny â fo. 'Rŵan, y droed dde 'na hanner cam ymlaen . . Dyna ti. Rhaid imi dy gael di i edrach fel adroddwr i ddechra', wel'di—os medra' i hefyd. Dy law ar dy frest 'rŵan. Fel hyn—dy fawd o dan fotwm ucha' dy wasgod a'r pedwar bys allan cyn belled ag y medri di 'u gwthio nhw. Na, cadw'r bysedd hefo'i gilydd yn lle 'u bod nhw'n hongian fel bysedd o does ar dy frest di . . . Reit. 'Rŵan, y papur 'ma yn dy law chwith—rhaglen y 'steddfod wedi 'i rholio'n dwt fydd gen' ti fel rheol, wrth gwrs . . . Reit: dyna welliant. 'Rŵan, pesychiad bach i dynnu sylw'r gynulleidfa . . . Na, rhaid iti roi dy law chwith wrth dy geg pan fyddi di'n pesychu, a dim ond clirio dy wddw yn lle tuchan fel petai rhyw glefyd ar dy frest di . . .Reit, tria eto. Ac wedi iti besychu, tafl dy lygaid i'r galeri am eiliad ac wedyn i lawr i'r sedda' blaen . . ."

Teimlwn mor anghysurus â phetawn i'n noethlymun o flaen torf.

"'Rŵan, dos allan i'r gegin am eiliad, a thyd yn dy ôl fel 'taet ti'n camu i lwyfan ac yn cymryd dy le o flaen cynulleidfa. Tria di gofìo'r cwbwl ddeudis i wrthat ti — dy frest allan, dy law dde arni hi, dy droed dde hanner cam ymlaen, y papur yn dy law chwith, pesychiad bach, golwg go ddifater i'r galeri ac i lawr i'r sedda' blaen . . 'Rẃan, gad imi dy weld ti'n dŵad i'r llwyfan."

Go ddienaid a thrwsgl oedd fy ymgais i ddilyn y cyfarwyddiadau, y mae arnaf ofn, a rhoes John Lloyd ochenaid fawr.

"Rhaid inni fynd tros y wers yma eto. Gad imi dy glywad ti'n adrodd. Y testun i ddechra'."

"' Y Bradwr'," meddwn innau yn weddol dawel.

"Mi wn i mai dyna ydi testun y darn. Dywed o'n uchel i'r gynulleidfa gael dy glywad ti."

"'Y Bradwr'," meddwn drachefn, dipyn yn uwch.

"Twt, mae gen' ti fwy o lais na hynna. Cymer d'anadl, a saetha'r testun allan iddyn' nhw."

"'Y Bradwr'," meddwn y trydydd tro, ond nid oedd fy llais lawer yn uwch.

Safodd Ioan Llwyd yn ei ystum arferol fel adroddwr, pesychodd, taflodd olwg i fyny ac wedyn i lawr, ac yna, â tharan o lais, hyrddiodd y ddau air, "Y Bradwr", ataf. Bu bron imi neidio o'm croen, a chodais olwg cynhyrfus i fyny rhag ofn bod y nenfwd yn dechrau ymddatod ac ymollwng arnaf.

"'Rŵan, y darn, " meddai. "Gad imi glywad y pennill cynta'."

Adroddais innau 'n syml a thawel gan geisio cofìo pob awgrym a roesai F'ewythr Huw imi.

"Daw i dy dŷ fel cyfaill:
Swpera wrth dy fwrdd,
A dwed, 'Môr hyfryd ydyw gweld
Cyfeillion wedi cwrdd!"

Rhoddai fy wyneb a'm llais syndod ac atgasedd yn y geiriau "fel cyfaill "a "swpera," a cheisiwn ddynwared gweniaith y Bradwr wrth ddweud ei frawddeg yn y drydedd linell.

"Mwy o lais, mwy o lais, " meddai John Lloyd. "Nid deud dy badar yr wyt ti. A be' mae isio codi dy lais ar 'fel cyfaill' fel 'taet ti 'rioed wedi clywad y geiria' o'r blaen?"

"Fel'na y dysgodd F'ewyrth Huw fi," meddwn innau. "'Roedd o'n deud mai nid fel bradwr y mae'r Bradwr yn dŵad i'r tŷ ond fel cyfaill, a bod isio rhoi pwyslais ar y ddau air. Ac 'roedd o'n deud hefyd . . ."

"A phwy, os ca' i fod mor hy â gofyn, pwy ddaru ddeud bod dy ewyrth, Huw Davies, yn adroddwr?"

Gwelais y wên sbeitlyd ar ei wyneb, a gwylltiais yn gacwn.

"'Roedd 'na fwy ym mys bach F'ewyrth Huw nag sydd yn y feipan o ben sy gynnoch chi. Chi â'ch gwallt fel tas wair a'ch hen giamocs i gyd! Pam na rowch chi wersi i Jacob y Gloch? Mae gynno fo ddigon o lais i wneud adroddwr i chi."

A theflais ei rôl o bapur i'w wyneb a rhuthro allan.

Pan gyrhaeddais adref, yr oedd Mr. Jones, y gweinidog, yn y tŷ. Synnodd fy nhad imi ddychwelyd mor fuan.

"'Doedd John Lloyd ddim gartra?" gofynnodd.

"Oedd, 'nhad."

"Be' sy, John? " meddai fy mam ar unwaith.

"Dim byd."

"Oes, mae rhwbath yn bod. 'Fuost ti ddim yn ffraeo hefo John Lloyd?"

"Do."

"O'n wir? " meddai fy nhad. "A fìnna' wedi trefnu iti fynd yno eto nos Wenar."

"'Da' i ddim ar 'i gyfyl o eto," meddwn innau.

"Be' ddigwyddodd, 'machgen i?"gofynnodd Mr. Jones.

Adroddais hanes yr helynt. Ni ddywedodd fy nhad ddim, ond credwn i ar y pryd imi weld rhyw hanner gwên yn ei lygaid am eiliad.

"Mi ddeudaist yn iawn wrth yr hen lolyn gwirion," meddai fy mam. "Ond do, Mr. Jones?"

"Wel,' 'roedd hi'n anodd peidio â cholli amynedd, yr ydw' i'n siẁr. Aros di, pryd mae 'Steddfod Bethania, dywed?"

"Nos Ferchar, wsnos i heno, Mr. Jones."

"Wel, tyd di acw nos Wenar yn lle mynd at John Lloyd.

Mi awn ni drwy'r darn hefo'n gilydd, 'machgen i. Tyd tua hannar awr wedi chwech."

Curais wrth ddrws Mr. Jones y nos Wener ganlynol, a daeth Emrys, ei fachgen, i agor imi. Buasai Emrys a minnau yn yr ysgol hefo'n gilydd, ond erbyn hyn, euthum i i weithio i'r chwarel ac aeth yntau i'r Ysgol Ganolraddol.

"Tyd at Olwen a finna' i'r gegin am funud," meddai.

"Mae rhywun newydd alw i weld 'nhad."

Yr oedd y ddau, Emrys a'i chwaer, wrthi'n brysur yn gwneud eu tasg. Edrychais innau, yn glamp o chwarelwr bellach, braidd yn ddirmygus tua'r llyfrau ar y bwrdd.

"Be' wyt ti'n wneud, Emrys?"

"Latin."

"O? Iaith pwy ydi honno, dywed?"

"'Wn i ddim, wir, John. Iaith pobol ers talwm, medda' 'nhad."

Gŵyrais uwchben y llyfr a oedd o'i flaen, gan ddangos ag osgo ac edrychiad nad oedd gennyf lawer o feddwl o fechgyn a wastraffai eu hamser hefo iaith 'pobol ers talwm'.

"A be' ydach chi'n wneud, Olwen?"

"History, " meddai hithau. "Sgwennu essay."

"Ar be', deudwch?"

"House of Lancaster."

"O? Yn lle 'roedd hwnnw?"

"Pobol oeddan nhw, nid tŷ. Nhw oedd yn ymladd yn erbyn yr House of York."

"O? Pryd oedd hynny?"

"'Dwn i ddim . . ym . . . Hannar munud imi gael edrach ar y llyfr 'ma . . . Yn 1455 y daru nhw ddechra' ymladd."

"Mae lot o amsar er hynny, ond oes? 'Oeddan nhw tua'r un amsar â'r Owan Gwynadd 'na y byddai Rhisiart Owen yn sôn amdano fo?"

"'Wn i ddim, wir. Na, mae'n debyg fod hwnnw ymhell ar 'u hola' nhw, ne' 'fasa' Rhisiart Owen yn gwbod dim amdano fo."

Daeth Mr. Jones i ddrws y gegin.

"Dowch i mewn i'r stydi, John."

Yno, rhoes fi i eistedd mewn cadair gyffyrddus, ac eisteddodd yntau gyferbyn â mi. Teflais lygaid syn ar y silffoedd o lyfrau a lanwai ddau fur yn gyfan, ac ar y llyfrau eraill a oedd yn bentyrrau twt ar waelod y trydydd mur. A oedd Mr. Jones wedi darllen y rhai hyn i gyd, tybed? Clywswn fy nhad droeon yn dweud y dylai'r capel roi mwy o gyflog i'r gweinidog, a'i fod yn methu â deall sut y gallai gadw Emrys ac Olwen yn yr Ysgol Ganolraddol a gwisgo mor barchus a phrynu llyfrau a chyfrannu mor hael at hyn a'r llall. A brynasai ef yr holl lyfrau yma, tybed? Sylwais mai go hen a llwyd oedd y dillad duon amdano, a bod godre'r fraich ddeau yn dechrau dadweu.

"'Y Bradwr', yntê? Gad imi weld y llyfr, 'machgen i."

Rhoddais y llyfr iddo, a phwysodd yntau ymlaen yn ei gadair i fwrw golwg tros y darn. Gwelwn fod ei wallt yn dechrau gwynnu'n barod er nad oedd ond rhyw dair neu bedair a deugain; gwelwn hefyd fod llinellau amlwg yng nghroen ei wyneb tenau, myfyrgar. Fel pregethwr yn y pulpud neu fel ymwelydd â'm tad a'm mam yr edrychais arno o'r blaen; pregethwr tawel a dwys ac ymwelydd y brysiai fy mam i'w anrhydeddu trwy fy ngorchymyn i glirio fy "hen dacla'" o'r bwrdd. "Un sâl gynddeiriog am ddeud gair wrth y plant," oedd y farn y clywswn Ifan Jones yn ei mynegi droeon wrth fy nhad; "dim digon o dân," "byth yn mynd i hwyl," "dim llais gwerth sôn amdano fo," a phethau tebyg a glywid yn aml yn yr ardal. Ond gwyddwn fod fy nhad a'm mam yn meddwl y byd o Mr. Jones, a buasai ef a'm Hewythr Huw yn gyfeillion mawr. Deuai i mewn yn rheolaidd i roi benthyg llyfrau i'm hewythr neu i chwarae ' draughts' neu am sgwrs ag ef. Synnwn, a minnau ond hogyn, fod f'ewythr mor ' hy ' ar y gweinidog wrth ei herio am gêm o'r 'draughts' neu wrth ddadlau ar farddoniaeth neu grefydd. Yn ystod y flwyddyn y bu'n byw hefo ni, darllenai f'ewythr lawer iawn, ac aml y codai ei lygaid o'i lyfr â gwên ar ei wyneb. "Os gwn i be' fydd gan Jones-y- Gweinidog i'w ddeud 'rŵan?"fyddai ei sylw wrth daro ar ryw ymresymiad a ategai ei safbwynt ef ei hun. "Mi ro' 'i draed o yn y fagl y tro yma."

Rhoes Mr. Jones fy llyfr ar ei lin a suddodd yn ôl yn ei gadair, gan blethu ei ddwylo.

"'Rŵan, John, gad imi dy glywed ti'n adrodd."

Sefais innau wrth y bwrdd i adrodd "Y Bradwr." Caeodd Mr. Jones ei lygaid, a gwelwn ef yn nodio'n foddhaus ar ddiwedd pob pennill. Ac wedi imi orffen, gwenodd yn garedig arnaf.

"Wel, wir, 'rwyt ti'n adrodd yn dda, 'machgen i. Mi fydda' i'n licio clywed adroddwr sy'n deall yr hyn mae o'n 'i adrodd, yn rhoi ystyr a synnwyr ym mhob llinell."

"F'ewyrth Huw ddaru fy nysgu i, Mr. Jones. Dyna oedd o'n ddeud hefyd. Dim isio tynnu 'stumia', medda' fo."

"'Roedd 'na athrylith yn D'ewyth' Huw, wel'di. Petai o wedi cael ysgol a choleg fel rhai ohonom ni, John, mi fasai'n un o arweinwyr Cymru, 'machgen i."

"F'ewyrth Huw sy'n iawn felly, Mr. Jones?"

"Yn iawn? "

"Am yr adrodd 'ma. Nid John Lloyd?"

"Wel, yn fy marn fach i, ia, d'ewyth' sydd yn iawn."

"Ydach chi ddim isio imi wneud 'stumia', felly? Rhoi fy llaw ar fy mrest a . . . a phesychu a . . . gweiddi?"

"'Ym mhob pen y mae piniwn', 'machgen i, ac mae gan Mr. John Lloyd hawl i'w farn. 'Fallai fod 'na lawer i'w ddweud dros 'i ffordd o o adrodd; y mae Ioan Llwyd yn medru tynnu crowd, beth bynnag, ac mi wyddost na wnes i hynny erioed wrth bregethu. Mi glywais stori, y diwrnod o'r blaen, am ryw hen weinidog ym Môn yn penderfynu trio defnyddio'i lais. 'Roedd o'n gwybod bod y gynulleidfa'n anfodlon ac anesmwyth, wedi hen flino ar 'i ddull tawel o o bregethu. 'Mae gen' i bedwar pen bora 'ma', medda' fo ar ôl rhoi 'i destun allan. 'Yn y lle cynta' . . . A dyma fo'n cyhoeddi'r pen cynta'. 'Yn yr ail le' . . . A dyma gyhoeddi'r ail ben. ' Yn y trydydd lle' . . . Adynaddweud y trydydd pen ac aros wedyn â'i law i fyny cyn gweiddi ar dop 'i lais, 'Yn bedwerydd, BLOEDD er mwyn effaith!'"

Aeth Mr. Jones trwy'r darn hefo mi yn hynod ofalus, er iddo gyfaddef nad oedd ganddo lawer i'w chwanegu at awgrymiadau F'ewythr Huw. A'r nos Fercher ganlynol, brysiais drwy fy swper-chwarel er mwyn cyrraedd y 'prelim' yn festri Bethania mewn pryd. Yno, yr oedd rhyw hanner dwsin o fechgyn a genethod yn aros eu tro, a phan euthum drwy'r drws atynt, suddodd fy nghalon o'm mewn. Clywn, o'r ystafell nesaf, lais Arfon Hughes yn taranu'r ddau air "Y Bradwr." Arfon oedd disgybl disgleiriaf John Lloyd, a gwnaethai enw iddo'i hun yn barod yn eisteddfodau a chyngherddau'r cylch. Eisteddais ar gongl y sedd hir, wrth ochr y plant eraill, a gwrandewais ar y llais yn treiglo fel afon o olew am ennyd cyn hyrddio'i nerth yn rhaeadr anferth tros glogwyn mawr. Llithrodd Robin Llew, hogyn newydd ddechrau gweithio yn yr un bonc â minnau yn y chwarel, ar hyd y sedd ataf.

"'Sgynno' ni ddim siawns, was," meddai. "Be' ma' hwnna isio trio a fynta' newydd ennill ar yr un darn yn 'steddfod Capal Mawr?"

Agorodd drws yr ystafell fewnol a galwodd llais am yr adroddwr nesaf. Daeth ofn i'm calon wrth imi glywed y llais hwnnw, a throais fy mhen yn sydyn tuag ato. Safai John Lloyd wrth y drws, a chefais gip ar wên ddirmygus a ddaeth i'w wyneb am eiliad wrth fy ngweld i ar gongl y sedd. Ond dim ond am ennyd y bu'r wên honno yn ei lygaid, a'r foment nesaf, nodiai'n dadol tuag atom oll cyn arwain merch fach o flaen y beirniad. Beth oedd John Lloyd yn ei wneud yn y 'prelim'? Yna cofiais ei fod yn ŵr blaenllaw yng nghapel Bethania ac mai ef oedd Ysgrifennydd yr eisteddfod.

"Hei, was!" meddai Robin Llew wrth Arfon Hughes pan oedd yr adroddwr hwnnw ar ei ffordd allan, yn wên i gyd. "'Ddaru ti watsio'r beirniad? 'Ddaru ti sylwi lle 'roedd o'n sgwennu rhwbath? 'Ddaru ti watsio'i wynab o? 'Ddeudodd o rwbath wrthat ti?"

Ond taro'i gap ar ei ben a chamu allan gyda rhyw ymgais at urddas a wnaeth Arfon Hughes.

Rhoes Robin ei ddwrn o dan ei drwyn.

"Aros di imi gael gafal yn y Cochyn diawl,"sibrydodd wrthyf. "Mi ddangosa' i iddo fo faint sy tan Sul."

Daeth fy nhro innau i ymddangos o flaen y beirniad cyn bo hir. "John Davies, "meddai Ioan Llwyd wrth fy nghyflwyno iddo. "Wedi cal 'i ddysgu gan 'i ewyrth, un o adroddwrs gora'r lle 'ma."

Gwelodd y beirniad, gweinidog o gyfeiriad Pwllheli, y tân yn fy llygaid a rhuthr y gwrid i'm hwyneb.

"Yn yr ysgol yr ydach chi, 'machgen i?" gofynnodd, er mwyn imi gael cyfle i ddod ataf fy hun.

"Naci, yn y chwaral, syr."

"Ydi'ch ewyth' yn y chwarel hefyd?"

"Nac ydi. Mae o wedi marw, syr. Dri mis yn ôl."

"O, y mae'n ddrwg gen' i. Beth oedd 'i enw fo?

"Huw, Huw Davies."

"Mi glywis Mr. Jones, gweinidog y Bedyddwyr, yn sôn amdano fo. Fo ydi'ch gweinidog chi?"

"Ia, syr."

"Wel, gadewch imi'ch clywed chi yn adrodd y darn yma. Sefwch yn y fan acw wrth y gadair 'na!"

Ac adroddais "Y Bradwr," yn syml a thawel a naturiol, gan geisio cofio popeth a ddysgasai F'ewythr Huw a Mr. Jones imi.

"Diolch, 'machgen i," meddai'r beirniad, gan wenu'n garedig arnaf. "Oedd, yr oedd eich ewyth' yn un o adroddwyr gora'r lle 'ma."

Ni wyddwn yn y byd beth a olygai wrth hyn, a thrown y frawddeg yn fy mhen drwy awr gyntaf yr eisteddfod. O'r diwedd, clywn lais yr arweinydd, John Lloyd, yn cyhoeddi'r "adroddiad dan un ar bymtheg — 'Y Bradwr'," a deliais fy anadl.

"Y mae'r rhai a ganlyn i ymddangos ar y llwyfan," meddai, "Arfon Hughes, Enid Owen, a John Davies."

"Go dda, was," sibrydodd Robin Llew yn fy nghlust. "Cofia di roi coblyn o gweir i'r hen Gochyn bach 'na."

Yr oedd holl driciau John Lloyd yn amlwg yn null Arfon Hughes o adrodd y darn — ym mhob osgo ac ystum a goslef. Wedi i'r daran o gymeradwyaeth ddistewi, rhoes Ioan Llwyd Enid Owen ar flaen y llwyfan, a chododd ei law fel plisman yn atal llif o foduron ar groesffordd. Yr oedd yn amlwg fod Enid yn bur nerfus, a thua chanol y darn, anghofiodd y llinell nesaf yn llwyr ac ailadrodd pennill cyfan. Yna daeth fy nhro innau, a chemais yn bryderus i flaen y llwyfan. Gwelwn fôr niwlog o wynebau oddi tanaf, a dechreuwn edifarhau imi ymgeisio o gwbl. Pam y gyrasai fy nhad fi i le fel hyn? Yr oeddwn i'n adnabod pawb yn y Cyfarfod Amrywiaethol yn ein capel ni, a safai Ifan Jones wrth fy ochr i sibrwd gair calonogol yn fy nghlust ac i'm hatgoffa os digwyddwn anghofio. Ond yma, torf fawr o'm blaen, ac wrth fy ochr, drowsus streip yr hen John Lloyd 'na. Daliodd law i fyny yn awdurdodol, ac yna taflodd olwg mingam i lawr arnaf. Yr oedd hynny'n ddigon i godi fy ngwrychyn; ymwrolais, caeais fy nyrnau y tu ôl i'm cefn, a gwelais, fel fflach, ystyr y frawddeg olaf a ddywedasai'r beirniad wrthyf. Trois fy llygaid at y bwrdd bychan ar ochr y llwyfan lle'r eisteddai ef, a gwenodd yntau arnaf. A oedd ef, tybed, yn hoffi fy ffordd i o adrodd, yn cydfynd â'r dehongliad a roesai F'ewythr Huw i'r darn? Oedd, yr oedd yn rhaid ei fod, neu ni fuasai wedi fy ngalw i'r llwyfan. Edrychais yn syth o'm blaen ar y cloc, a chlywn fy llais i fy hun yn dweud "Y Bradwr" yn grynedig ond yn glir. "Daw i dy dŷ," meddwn wedyn wrth y cloc, ac aros ennyd. "Nid fel bradwr, nid fel gelyn, nid yn gas, nid yn bowld, nid yn slei, nid yn eiddigus, nid yn anghysurus, " meddai llais F'ewythr Huw wrthyfyn nhawelwch y saib. "Fel cyfaill," meddwn innau wrth y cloc a rhyw syndod mawr yng nghodiad fy llais.

Yr oedd hi'n weddol hawdd wedyn, ar ôl imi dorri'r ias, ac euthum o'r llwyfan yn teimlo imi ddilyn cyfarwyddiadau F'ewythr Huw a Mr. Jones yn bur lwyddiannus.

"Champion, was," meddai Robin Llew wrthyf pan ddychwelais i'm sedd. "Fel'na 'ron inna'n 'i adrodd o — ond imi anghofìo. Dyna dro, yntê? Anghofìo yn y pennill cynta' hefyd! Ond aros di imi gal gafal yn y- Cochyn bach 'na ar 'i ffordd adra heno. Mi ro' i Fradwr iddo fo!" A cheisiodd, â'i ddwrn dan ei drwyn, ddal llygad Arfon Hughes.

Go ddiamynedd oeddym yn gwrando ar gystadleuaeth canu'r piano, ond rhoesom gymeradwyaeth uchel i'r ymgeisydd olaf. Galwyd ar feirniad yr adrodd ymlaen i draddodi ei feirniadaeth, a gallech feddwl oddi wrth ystumiau anesmwyth Robin Llew mai rhyngddo ef ac Arfon Hughes yr oedd y ras. Dywedodd y beirniad i'r gystadleuaeth fod yn un ddiddorol iawn ac iddo roi cyfle i'r gynulleidfa wrando ar ddau fath o adroddwr, un yn fflamychol a dramatig a'r ddau arall yn syml a thawel. Trueni, meddai, i'r ail ymgeisydd anghofìo ac ailadrodd; fe wnaethai hi ei gwaith yn hynod o dda yn y rhagbraw, a phetai wedi adrodd cystal ar y llwyfan, go anodd fyddai iddo ef ddewis y gorau. Y mae'n bur debyg y gorfodid ef i rannu'r wobr. Ni ofynnai'r darn hwn, yn ei dyb ef, am fflamychu a chodi'r llais yn felodramatig; hawliai, yn hytrach, sobrwydd tawel ac onestrwydd diffuant. Ni wyddai Robin Llew beth oedd ystyr geiriau felly, am a wn i, ond casglodd ddigon i sylweddoli na hoffai'r beirniad ddull Arfon Hughes o adrodd y darn. Yr oedd fel cnonyn wrth fy ochr, a chiciai fì i atalnodi pob brawddeg o'r feirniadaeth. A phan gyhoeddodd y beirniad mai'r ymgeisydd olaf oedd y gorau, rhoes y fath gic i'r sedd o'i flaen nes i'r bobl a eisteddai ynddi neidio fel petaent newydd eistedd ar binnau.

Bûm yn adrodd ar ôl hynny bob gaeaf am flynyddoedd yn eisteddfodau'r pentref, ond ni fentrais y tu allan i'r ardal. Yn wir, gan fod eistcddfodau yn Llanarfon yn weddol aml, ni feddyliais am ymgeisio yn unman arall hyd nes i'm tad ac Ifan Môn fy nghymell i fynd tros y mynydd i Lanybwlch ar y prynhawn Sadwm braf hwnnw o wanwyn. Yr oeddwn, bellach, yn llanc tair ar hugain ac yn dipyn gwell adroddwr — diolch i Mr. Jones, y gweinidog — na'r hogyn a gurasai Arfon Hughes ar "Y Bradwr." "Ymson Wolsey" wedi ei gyfieithu gan Anthropos, "Araith Llywelyn," darn o "Ddinistr Jerusalem," a phethau tebyg fuasai'r cerddi amlaf mewn cystadleuaeth am flynyddoedd, ond erbyn hyn, cawn drio fy llaw — neu fy llais, yn hytrach — ar ganeuon gan T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry. Englynion R. Williams Parry ar ôl Hedd Wyn oedd y testun yn Llanybwlch, a theimlwn yn weddol ffyddiog, gan imi ennill arno ychydig wythnosau cyn hynny mewn eisteddfod yn y Capel Mawr yn Llanarfon.

Cyrhaeddais festri'r capel yn Llanybwlch tua dau, a'r rhagbraw ar ddechrau. Gwelwn fod rhyw ddwsin ohonom yn cystadlu, ond nid adwaenwn un o'r lleill. Eisteddais, braidd yn unig a digyfaill, ar sedd wrth y drws. Yn y pen arall, gyferbyn â mi, safai ysgrifennydd yr eisteddfod, dyn bach ffwdanus a phwysig, a dyrnaid o bapurau yn ei law, ac ymhen ennyd, galwodd enwau'r ymgeiswyr allan mewn llais main, difater, fel siopwr yn cyfrif ei nwyddau. Atebais i'm henw, ac yna collais ddiddordeb yn yr oruchwyliaeth nes clywed y dyn bach yn galw 'John Lloyd.' Nid oedd ateb, a galwodd yr enw drachefn. Galwodd ef y trydydd tro, a chwarddodd pawb wrth i'r drws agor yn sydyn ac i gorwynt o lais fod bron â hyrddio'r dyn bach oddi ar ei draed â'r un gair "YMA." Eisteddodd Ioan Llwyd i lawr i sychu'r chwys oddi ar ei dalcen a chael ei wynt ato. Sylwais ei fod wedi heneiddio cryn dipyn yn ddiweddar, a bod y cnwd o wallt wedi diflannu; yr oedd ei gorun yn foel, a thenau a brith oedd y twf uwch ei glustiau a thu ôl i'w ben. Go esgyrniog, bellach, yr ymddangosai'r gwddf yn y goler big, ac er bod croen ei wyneb o hyd fel croen afal, clir oedd llinellau oed neu bryder ynddo. Rhywfodd, teimlwn yn flin amdano ac yn edifar imi ei gasáu a'i anwybyddu drwy'r blynyddoedd. Penderfynais chwilio am gyfle i siarad ag ef yn ystod y dydd.

Daeth y beirniad, dyn prysur a phwysig ei ymddangosiad, i mewn ac eistedd wrth fwrdd bychan ym mhen yr ystafell. Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn, gan orchymyn inni gymryd ein lle yn y drefn honno ar y sedd hir wrth fur chwith yr ystafell. Y tro hwn, darllenodd i lawr yn lle i fyny'r rhestr, a'm henw i oedd yr olaf ond un. Galwyd enw John Lloyd yn un o'r rhai cyntaf, a cherddodd yntau'n hamddenol ac urddasol i'w le ar y sedd.

Wrth fy ochr i yr oedd merch o'r enw Nel Owen. Eisteddais braidd yn swil wrth ei hymyl, ond cyn bo hir sibrydodd,

"Mae arno' ni i gyd eich ofn chi."

"Fy ofn i? 'Rargian, pam?"

"Am i chi ennill ar y darn yma yn Llanarfon."

"Pwy ydi'r beirniad 'ma?" sibrydais.

"Ifan Ifans o Lanybwlch 'ma."

"O?"

"Fo sy'n hel siwrin yma. 'Ŵyr o ddim mwy am adrodd na dylluan."

Wedi ateb i'r enw "Tegwen Eryri," camodd rhyw ferch addurnol, orwych, i ganol y llawr, ac ar ôl saib dramatig rhuodd y geiriau "In Memoriam — Hedd Wyn" tros ben y beirniad a'r ysgrifennydd at y mur gyferbyn â hi.

"Bloedd uwch adfloedd," sibrydodd Nel Owen yn fy nghlust.

Cymerodd "Tegwen Eryri" gam yn ôl ac estyn ei dwy law o'i blaen fel pe i ddenu'r beirniad i'w breichiau. Yna, â rhyw gryndod anferth yn ei llais,

"Y bardd trwm dan bridd tramor."

Gwyddwn y dylwn wylo, ond yn lle hynny, daeth rhyw bwl afreolus o chwerthin trosof. Cymerais arnaf rwbio fy llygaid i guddio fy wyneb, ac ni wnaeth y pwniad a roes Nel Owen imi yn fy ochr ond gyrru pethau o ddrwg i waeth. Gwelais trwy fy mysedd fod y beirniad wedi suddo'n ôl i'w gadair a chau ei lygaid, a phan glywais galon "Tegwen Eryri"'n torri wrth sôn am "y llygaid na all agor," bu raid imi chwilio am fy nghadach poced â'r llaw arall a chuddio fy wyneb ynddo.

Enw John Lloyd a alwyd yn ail, a chododd yntau yn araf ac urddasol o'r sedd. Agorodd y beirniad ei lygaid i wenu'n gyfeillgar ar un o'r frawdoliaeth "hel-siwrin", a goleuodd y wên wneud am eiliad ar wyneb Ioan Llwyd. Cerddodd ar draws y llawr fel petai ar hynt urddasol tua'r mur gyferbyn, ond arhosodd yn sydyn ar y canol fel milwr a glywsai "Halt!" o enau sarsiant. "Left turn!" oedd y gorchymyn dychmygol nesaf, ac yna aeth y droed dde hanner cam ymlaen a'r llaw i'w lle ar ei frest. Pesychiad, trem i fyny, trem i lawr, ac yna'r cawr o lais yn cyhoeddi "In Memoriam ar ôl Hedd Wyn." Yr oedd taflen yr eisteddfod yn rhôl dwt yn ei law chwith, ac ar y llinell "Hunaist ymhell ohoni" caeodd ei ddwylaw am y rhaglen a'i gwasgu a'i chrafangu fel y gwelswn ddwylo fy mam am ei chadach poced pan fu farw F'ewythr Huw. Ofnwn fod Ioan Llwyd am dorri allan i wylo, ond yr eiliad nesaf, codai ei lais fel utgorn a'i law fel llaw pregethwr yn gollwng oedfa, ar y llinell "Ha frodyr! Dan hyfrydwch . . ."

"Mae o'n bechod, wyddoch chi," sibrydodd y ferch wrth fy ochr.

"Be'?"

"Adrodd y darn yma o gwbwl."

"Diar annwl, pam?"

Chwythodd yr ysgrifennydd "Sh!" ffyrnig tuag atom, a thawsom ninnau. Gwgodd y beirniad arnom.

Anniddorol fu gweddill y prynhawn. Taranodd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr eu teyrnged i Hedd Wyn, ac wedi i bawb adrodd, gwthiodd y beirniad bapur bach i'r ysgrifennydd. "Y mae'r tri a ganlyn i ymddangos ar y llwyfan yn yr eisteddfod heno," meddai hwnnw. "Tegwen Eryri, Ioan Llwyd ac O.P." Ac yna, ar yr un gwynt, "'Paned o de i bawb yma, yn y festri, am hannar awr wedi pedwar."

Aeth Nel a minnau allan gyda'n gilydd.

"'Ydach chi am aros i'r te yn y festri?" gofynnais.

"A finna'n byw yma! Na, yr ydw' i'n mynd adra i de."

"Lle ydach chi'n byw?"

"Tanyfron. I fyny acw ar waelod y Bwlch."

"Mi ddo' i hefo chi ran o'r ffordd, os ca' i."

Ac i ffwrdd â ni drwy ffordd gul tua'r mynydd. Cofiaf fod y gwrychoedd yn llawn blagur a'r llygaid-y-dydd yn garpedi gwynion ar rai o'r caeau. Trawai'r haul ar wyneb creigiog y Bwlch ac ar y cewri o fynyddoedd y tu ôl iddo. Yr oedd rhimynnau o eira yn aros o hyd ar y copaon.

Wedi cerdded tua hanner milltir, oedasom ar y bont garreg a groesai'r afon.

"Rhaid i chi fynd yn ôl ' rŵan," meddai'r ferch, "rhag i 'nhad eich gweld chi."

"O'r gora'. Ond be' oeddach chi'n feddwl gynna' wrth ddweud 'i bod hi'n bechod adrodd yr englynion 'na?"

"Mi fûm i yn Nhrawsfynydd unwaith, ryw flwyddyn yn ôl. Ac mi aeth fy nghnither â fi cyn belled â'r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn." Syllodd yn freuddwydiol i'r afon islaw.

"Wel?"

"Ffarm fach 'run fath â sy gynno' ni adra ydi'r Ysgwrn. Ffarm fach go dlawd, popeth yn syml a naturiol a di-lol ynddi hi. Pobol syml a naturiol a di-lol ydi 'i dad a'i fam o hefyd. A hogyn felly oedd Hedd Wyn. Wel, dyma gyfaill iddo fo yn cyfansoddi englynion er cof amdano fo, englynion syml a thawel a hiraethus. I be'?"

Nid atebais, dim ond syllu i lawr i'r afon a gwylio'r dŵr yn ymdroelli'n wyn o amgylch un garreg fawr. Ni feddyliaswn i am y peth.

"Nid i rai fel yr hen Degwen Eryri 'na gael gwisgo fel sipsi mewn sioe i dynnu 'stumia' uwchben y darn. 'Ron i'n teimlo y pnawn 'ma 'i bod hi'n tynnu 'stumia' ac yn areithio uwchben bedd."

Edrychais ar y ferch wrth fy ochr. Yr oedd fflach yn ei llygaid, a chaeai ei llaw yn ffyrnig am garreg ar fur y bont. Oedd, yr oedd hi'n eneth dlos—llygaid o las golau, golau, a rhyw olwg pell, breuddwydiol, ynddynt; gwallt brown ysgafn yn llywethau wedi eu troi o amgylch ei chlustiau; talcen uchel a llydan; gwefusau meddal, direidus; gên gadarn, benderfynol. Un sâl iawn fûm i erioed am sylwi ar wisg neb, a phan ofynnai fy mam imi beth a wisgai hon-a-hon yn rhywle, ni fyddai gennyf syniad yn y byd. "Het goch, os ydw' i'n cofio'n iawn, 'mam,"fyddai fy ateb efallai. "'Neno'r Tad! Yn 'i hoedran hi?" Ac ystyriwn innau am ennyd cyn penderfynu mai du, wedi'r cwbl, oedd lliw yr het. Ond cofiaf mai côt las a wisgai Nel y diwrnod hwnnw o wanwyn yn Llanybwlch, ac i las ei gwisg wneud i las ei llygaid ymddangos yn ddyfnach. Braidd yn eiddil oedd yr ysgwyddau a gariai'r gôt, ac er bod cymeriad a phenderfyniad ym mhob osgo o'i heiddo, ymddangosai ei chorff yn egwan. Cariai ei het yn ei llaw, a chwaraeai'r gwynt â gwawn ei gwallt a'i chwythu tros ei thalcen.

"Wel, rhaid imi fynd, " meddai'n sydyn. "Mae rhyw bobol yn dŵad acw i de."

"'Fyddwch chi yn y 'steddfod heno?"

"Bydda', wrth gwrs."

'Ddowch chi i eistadd hefo mi?"

'Fedra' i ddim, wir. Mae'n rhaid imi eistadd hefo 'nhad a 'mam."

"'Ga' i'ch gweld chi ar ôl y 'steddfod, ynta'?"

"Mi fydd hi'n hwyr iawn arnoch chi, a chitha' isio cerddad adra bob cam i Lanarfon."

"Dim ods am hynny."

"Mi fydda' i'n eistadd uwchben y cloc, yn y galeri. Mi dria' i sleifio allan cyn y diwadd. Wel, rhaid imi roi ras 'rŵan cyn i'r bobol 'na ddŵad acw i de."

Cychwynnais innau yn ôl tua'r festri, ond trois ymhen ychydig i'w gwylio'n dringo'r llwybr drwy'r caeau tua'r tyddyn gwyn ar lethr y Bwlch. Troes hithau ei phen, a chwifiais fy llaw arni. Chwifiodd hithau'n ôl.

Pan gyrhaeddais y festri, gwelwn fod twr o ymgeiswyr ar ganu ac adrodd yn ymwthio at y ddwy wraig a ofalai am y te. Cymerais innau fy lle wrth y bwrdd, a phwy a oedd wrth fy ochr ond John Lloyd. Penderfynais siarad ag ef.

"Llongyfarchiada', Mr. Lloyd."

"Y?"

Ac edrychodd tros ei sbectol arnaf.

"Llongyfarchiada' i chi."

"Am be', dywad?"

"Am gael eich dewis i'r llwyfan heno."

"'Oeddat ti'n meddwl na faswn i ddim yn cael y stage?"

"Wel, na, ond . . ."

"Ond be', os ca' i fod mor hy â gofyn?"

"Dim byd."

Euthum i eistedd i ochr y galeri yn y capel er mwyn cadw fy llygaid ar y seddau uwchben y cloc. Cyn bo hir gwelwn Nel yn dod i mewn ar ôl ei mam a'i thad, ac wedi iddi eistedd yng nghongl ei sedd, gwenodd arnaf. Dyn bychan â golwg go eiddil arno oedd ei thad, ond yr oedd ei mam yn ddynes fawr ag wyneb gwritgoch.

Araf fu'r hwyrnos honno imi, a gwrandawn ar y canu a'r adrodd a'r beirniadu ag un llygad o hyd ar y cloc ac ar yr het las yn un o'r seddau uwchlaw iddo. O'r diwedd, pan oedd y côr cyntaf yn tyrru tua'r llwyfan, gwelwn yr het las yn codi a'i pherchen yn ei gwneud hi am y drws. Gafaelais innau yn fy nghap a tharo fy nghôt tros fy mraich, a brysio allan. Deliais Nel ar risiau'r galeri, ac aethom i lawr a thrwy'r drws hefo'n gilydd.

Yr oedd lleuad newydd fel pe wedi ei hongian mewn coeden heb fod ymhell o'r capel, a phlethai'r cangau am berlau'r sêr. Aethom i oedi o dan y goeden honno, gan wrando ar y côr cyntaf yn canu "Yr Haf" yn yr eisteddfod.

"Yn y chwaral yr ydach chi'n gweithio?"

" Ia," atebais. "Ar y ffarm gartra yr ydach chi?"

"Na, teachio ydw' i."

"O? Ymh'le?"

"Yma, yn Llanybwlch. Uncertif."

"Be' ydi hynny?"

"Heb fod yn y Coleg. Ond mae Hywel yn mynd i'r Coleg y flwyddyn nesa'."

"Pwy ydi Hywel?"

"Fy mrawd. Mae o yn y Cownti yng Nghaernarfon ac yn eistadd 'i Higher 'leni."

"'Oes gynnoch chi frawd ne' chwaer heblaw Hywel?"

"Tri. Dafydd, newydd ddechra' yn y Cownti, a Hannah ac Ifan yn yr ysgol lle 'rydw' i . Mae Ifan yn fy nosbarth i. Cena' bach ydi o hefyd." A chwarddodd wrth feddwl am ei brawd.

Buom yno, o dan y goeden, nes i'r gynulleidfa ddechrau llifo allan o'r eisteddfod. Addawodd fy nghyfarfod yng Nghaernarfon y Sadwrn wedyn, a brasgemais innau yn hoyw a llon hyd ffordd y mynydd tuag adref.

"Mae arna' i ofn fod John 'ma mewn cariad, Robat," oedd sylw Ifan Môn droeon wrth fy nhad yn y chwarel yn ystod yr wythnos wedyn. Yr oeddwn mewn cariad, dros fy mhen mewn cariad, ac araf y llusgai traed plwm y dyddiau tua'r Sadwrn a'r siwrnai i Gaernarfon.

Safwn ar Faes y dref hanner awr cyn i fws Llanybwlch gyrraedd y prynhawn Sadwrn hwnnw. Ymunais â'r dorf fechan a glosiai o amgylch rhyw Iddew tew a werthai lestri a matiau a phob math o fanion. Galwodd ar ddeuddeg o "gyfeillion" ffyddiog i roddi benthyg ceiniog bob un iddo, ac â'm llygad ar oriawr fach aur a wnâi anrheg brydferthiawn i Nel, estynnais geiniog i'r hen fachgen gwywedig a'u casglai. Ond troi'r stori a wnaeth yr Iddew a mynd ati i werthu matiau ar uchaf ei lais. Rhyw ystryw i gadw deuddeg ohonom yno oedd benthyg y ceiniogau, ac ymhen tipyn, gan nad oedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn matiau, brysiais ymaith i aros yn anniddig am y bws. Deuddeg munud eto, meddai bys araf y cloc ar lythyrdy'r Maes, a throis yn ôl at yr Iddew a'i fatiau am ychydig.

"I b'le'r awn ni?" meddai Nel, wedi iddi ddisgyn o'r bws.

"I lawr i lan y môr."

Ac i ffwrdd â ni ar draws y Maes a throi heibio i'r castell tua'r Cei. Teimlwn braidd yn yswil wrth gyfarfod un neu ddau o Lanarfon ar y ffordd, a phwy oedd wrth Bont yr Aber ond Wil Davies neu 'Wil Hen Geg', chwedl pawb yn y chwarel. Gweithiai Wil bonc yn uwch na mi, ac yr oedd ganddo athrylith hel a chario straeon i'r caban. Gwyddwn y byddai fy hanes innau drwy'r chwarel fore Llun. Ond pa wahaniaeth?

Yr oedd hi'n ddiwrnod braf, a haul y gwanwyn yn chwarae ar yr Aber ac yn ddisglair ar draethau Môn.

"Beth am fynd allan ar y cwch am awr?"

"Mi fyddai'n braf," meddai Nel.

Wedi inni eistedd yn y cwch, digwyddais daflu fy llygaid i fyny a gweld bod Wil Hen Geg a'i bwysau ar y wal uwchben. Ond syllu'n freuddwydiol i bellteroedd y môr yr oedd Wil.

Go yswil a thawedog y buaswn ar y ffordd i'r Cei, ond yn y cwch, dug atgofion am y prynhawn hwnnw ar y môr yng ngofal F'ewythr Huw wên i'm hwyneb. Gwelodd Nel y wên, a dywedais yr holl stori wrthi. Yn wir, am F'ewythr Huw y bu'r sgwrs drwy'r rhan fwyaf o'r prynhawn.

"Piti, yntê?" meddai hi yn sydyn pan oeddym bron â chyrraedd yn ôl i'r Cei.

"Be'?"

"Iddo fo farw mor ifanc."

"F'ewythr Huw?"

"Ia. 'Roeddach chi'n hoff iawn ohono fo, ond oeddach? Mae o'n swnio'n un tebyg iawn i 'nhad. Mi fedra' i ddychmygu nhad yn gwneud popeth y daru chi sôn am eich ewyrth yn i wneud. Yn enwedig colli'r rhwyf." A chwarddodd, ond gwelwn fod rhyw gysgod tu ôl i'r chwerthin.

"Be' sy?" gofynnais.

"Be'?"

"'Rydach chi'n drist iawn wrth sôn am eich tad. 'Oes 'na rywbath yn bod?"

"Oes. 'Dydi o ddim hannar da. 'I galon o, medda'r doctor. Mae o yn y dre'r pnawn 'ma yn gweld doctor arall."

"O?"

Rhygnodd y cwch yn erbyn mur y Cei, a dringasom ohono a brysio i fyny'r ffordd tua'r tŷ-bwyta hwnnw lle'r aethai f'ewythr â mi ddiwrnod yr anturiaeth ar y môr. Safodd Nel yn stond yn y drws, a chydiodd yn fy mraich.

"'Nhad! " meddai, gan droi i'w gwadnu hi ymaith. Ond yr oedd hi'n rhy hwyr. Cefais gip ar rywun wrth fwrdd heb fod ymhell o'r drws yn chwifio'i law yn wyllt arnom. Yn wrid at ei chlustiau, gwthiodd Nel draw at y bwrdd lle'r eisteddai ei thad. Dilynais innau braidd yn drwsgl a phetrus, heb fod yn sicr pa un ai dianc ai aros a oedd ddoethaf.

"Be' ddeuddodd o, 'nhad?"

"Ddim llawar o ddim, Nel. Deud 'i fod o am sgwennu at Doctor Jones. Fy nghalon i'n un fawr iawn, medda' fo— "fery larch harrt.''

Cyflwynodd Nel fi i'w thad, a mynnodd yntau inni eistedd wrth ei fwrdd ef i 'gael te. Teimlwn yn yswil ac annifyr wrth siarad ag ef, a phur anesmwyth yr ymddangosai yntau. Wedi inni'n dau roi barn ar y tywydd ryw hanner dwsin o weithiau ac argyhoeddi'n gilydd o'r diwedd ei bod hi'n ddiwrnod braf, gofynnodd imi ymh'le y gweithiwn.

"Yn chwaral Llanarfon," meddwn innau, "yn y Bonc Fawr."

"'Rargian! Yn y Bonc Fawr? 'Ydach chi'n 'nabod Ifán Jones?"

"Mae o'n gweithio yn y wal nesa' imi. A fo fuo'n athro Ysgol Sul arna' i am flynyddoedd."

"Tewch, da chi! 'Ydach chi'n 'nabod Robat Davies?"

"Mi ddylwn 'i nabod o! Fo ydi 'nhad."

"Wel, 'rargian! Hogyn Robat Davies! Un o'r dynion gora' fuo' yn yr hen chwaral 'na 'rioed, 'machgan i. Deudwch wrtho fo fod Gruffydd Owan, Llanybwlch, yn cofio ato fo — Gruffydd Tanyfron, deudwch wrtho fo. 'Rargian, hogyn Robat Davies! 'Ydach chi'n cofio'ch ewyrth, Huw Davies?"

Dywedais wrtho mai am F'ewythr Huw y buasai'r sgwrs rhyngof a Nel drwy'r prynhawn.

"Huw Ruskin," meddai yntau'n dawel â gwên ar ei wyneb.

"Y?"

Huw Ruskin oeddan ni yn 'i alw fo ym Mhonc yr Efail yn y diwadd. 'Roedd o wedi mwydro'i ben yn lân hefo llyfra' rhyw John Ruskin, yn darllan 'i weithia' fo byth a hefyd, ac yn sôn amdano fo o hyd yn y caban. Diar, 'roedd 'na ddynion nobl ym Mhonc yr Efail yr amsar hwnnw – Huw Davies, eich ewyrth; yr hen Ddafydd Ifans, 'Dafydd Bardd', chwedl ninna'; ac Wmffra Jones, y pwyswr, i enwi dim ond tri. Dynion heb 'u gwell nhw yn y byd."

A rhoes Gruffydd Owen ochenaid fawr. Gwelwn fod ei lygaid yn gwlitho wrth iddo ddilyn ei atgofion yn ôl i Bonc yr Efail, a cheisiais newid y sgwrs.

"'Rydach chi wedi troi'n ffannwr ers tipyn 'rŵan?" meddwn wrtho.

"Wedi gorfod rhoi'r gora' i'r chwaral, fachgan. Y gwaith yn ormod imi, medda'r doctor."

"Sut yr oeddach chi'n gwneud? Aros yn y Barics yn y chwaral?"

"Ia, o fora Llun tan bnawn Sadwrn. 'Ron i'n cerddad tros y mynydd i Lanarfon acw ac i'r chwaral bob bora Llun, cysgu yn y Barics bob nos drwy'r wsnos, a cherddad yn ôl adra bob pnawn Sadwrn. Ond 'rŵan, rhyw biltran o gwmpas y tyddyn acw yr ydw' i bob dydd."

A rhoes ochenaid fawr arall. Yr oedd ei galon yn y chwarel.

Diflanasai'r yswildod rhyngom: dau chwarelwr oeddym bellach, a phryderwn am na châi Nel ei phig i mewn i'r sgwrs. Sut hwyl a oedd ar hwn-a-hwn? A oeddynt yn dal i dyllu'r hen graig honno yn Nhwll Dwndwr? A oedd Robins y Stiward, yr hen gena' iddo, yn fyw o hyd? A orffennwyd torri'r lefel honno yng ngwaelod Twll Mawr? A oedd yno le gwlyb o hyd? Nid oedd diwedd ar ei gwestiynau, a cheisiais newid y sgwrs droeon er mwyn i Nel gael cyfran ynddi. Ond pan gododd ei thad i gyfarch rhywun a adwaenai wrth fwrdd arall, sibrydodd wrthyf am ddal ati i ymgomio am y chwarel: fe wnâi fyd o les iddo, meddai, gan mai cogr-droi o amgylch ei afìechyd y buasai ei feddwl a'i sgwrs ers misoedd bellach.

Daeth Gruffydd Owcn a minnau yn gyfeillion mawr yn ystod y te hwnnw. Hoffais ef ar unwaith — dyn mwyn a thawel a chywir fel fy nhad, gŵr diffuant ym mhob gair a phob osgo. Tipyn o anturiaeth iddo oedd dyfod i lawr i'r dref fel hyn a throi i'r tŷ-bwyta am bryd o fwyd, a chasglai Nel a minnau iddo eistedd yno'n unig a thrist cyn inni ymddangos. Daethai yn syth o dŷ'r meddyg, ac ni chawsai unrhyw newydd calonogol yn y fan honno. Amheuthun iddo oedd cael cwpanaid yng nghwmni ei ferch a mwynhau sgwrs am y chwarel; yn wir, yr oedd, yn ôl Nel, yn llonnach nag y buasai ers tro byd.

Aethom ein dau gydag ef at y bws, a chynigiodd Nel droi adref yn gwmni iddo. Ond yr oedd ef yn iawn, "yn champion, hogan," a mynnodd ein gyrru ymaith i'n mwynhau ein hunain. Pan droesom i ffwrdd, gwaeddodd ar ein holau o risiau'r bws.

"Pryd ddowch chi i fyny i Lanybwlch 'cw am dro, 'machgan i? Dowch i edrach amdano' ni. Be' am y Sadwrn nesa'?" Ac addewais innau y down.

"'Fedra' i ddim dŵad dros 'nhad," meddai Nel. 'Fuo' neb mwy strict na fo 'rioed. 'Roeddwn i ofn edrach ar hogyn pan fyddai o o gwmpas, a dyma fo yn rhoi gwahoddiad i chi adra y tro cynta' iddo fo'ch cwarfod chi!"

"Mae o'n sâl isio cael hanas y chwaral," meddwn innau.

"Ac wedi cymryd atoch chi yn rhyfadd. Be' ddeudith 'mam, tybad?"

"Am be'?"

"Amdanoch chi'n dŵad acw'r Sadwrn nesa'. Ond 'does gen' i ddim ofn 'mam; ofn 'nhad fu arna' i 'rioed."

"Ac ynta'n un mor fwyn a thawel?"

"Dyna pam efalla'. Dweud y drefn y byddai 'mam ac addo rhoi cweir imi. Addo, a pheidio. Ond dim ond edrach y byddai 'nhad, ac 'roedd arna' i fwy o ofn yr edrychiad hwnnw na dim. Ofn 'i frifo fo ac ynta' mor garedig ac mor ofalus ohono' ni. Unwaith erioed y ces i gweir ganddo fo—am ddwyn ceiniog o drôr y dresal—ond fe aeth ati mor ddifrifol nes imi gredu bod dwyn ceiniog yn bechod ofnadwy. 'Ches i fawr o gweir ganddo fo, ond yr oedd 'i ffordd o o fynd ati yn wers imi am byth. Ac mae'r plant erill yr un fath adra — mwy o ofn 'nhad o lawar nac o ofn 'mam. Ac eto, 'fuo' neb 'rioed yn fwy diniwad a thawal 'i ffordd na fo."

Daeth Nel i'm cyfarfod hyd lwybr y mynydd y Sadwrn dilynol, ac eisteddasom am dipyn ar ddarn o graig i syllu ar yr olygfa eang danom, a heulwen Ebrill yn loywder arni. Gwelem y llwybr yn troelli'n gyflym oddi tanom trwy greigiau eithinog, heibio i domenni a thyllau hen chwarel a gaewyd ers blynyddoedd, dan dderi'r gwastad uwchben Llanarfon, yna o'r golwg tros drwyn y bryn lle cysgodai'r pentref. Nofiai mwg fel tarth ysgafn uwch simneiau cudd y Llan, a thu draw iddo ymledai glesni disglair y llyn tua mynydd llwydlas y chwarel. Rhyfedd mor bell a thrist yr ymddangosai'r chwarel: a oedd ei chreigiau anferth yn synfyfyrio'n lleddf wedi holl ddoluriau'r wythnos? Ai magu ei chlwyfau yr oedd?

"'Roeddwn i'n dangos llunia' o'r Swisdir i'r plant yn yr ysgol ddoe, " meddai Nel, "ond mae'r olygfa yma mor hardd â'r un ohonyn' nhw. Mae hi'n hen bryd inni weld ein gwlad ein hunain, wyddoch chi. Edrychwch, mewn difri', ar yr haul yn taro ar yr eira sy'n aros ar y mynyddoedd acw."

Oedd, yr oedd fy ardal yn un hardd, ond ni feddyliaswn ryw lawer am ei thegwch erioed. Nac am ei hanes ychwaith. Yn yr ysgol, brenhinoedd a brwydrau Lloegr oedd o wir bwys, ac ni feddyliai'r un ohonom am holi gair am hanes Llanarfon a'r cylch. A phe gwnâi, buan y tynnid ei sylw afradlon yn ôl at Harri'r Wythfed neu Frwydr Trafalgar. Wedi'r cwbl, helyntion Harri'r Wythfed a stori Trafalgar a ddysgasai'r athro yn y Coleg, a'i waith a'i ddyletswydd oedd cyflwyno'r 'addysg' ardderchog honno ymlaen i blant Llanarfon a phob Llan arall. Yr oedd ei sefyllfa'n bur debyg i un y gŵr papur-newydd a aeth i roddi hanes rhyw gyfarfod diwygiadol. "A ydych chi wedi'ch achub?" oedd cwestiwn dwys rhyw wraig ddefosiynol a ddaeth i'w sedd. "Na, dyn papur-newydd ydw' i," oedd yr ateb. A chafodd lonydd wedyn.

Crwydrodd Nel a minnau yn araf o'r mynydd i Lanybwlch ac yna drwy'r caeau i gyfeiriad Tanyfron. Dywedai wrthyf fod ei mam fel petai'n paratoi gwledd i'r brenin ac wedi gorchymyn i Hannah ac Ifan, y ddau leiaf o'r plant, ymolchi'n lân a gwisgo'u dillad gorau.

"Pam yr holl ffys?" gofynnais.

"O, dim ond am fod 'nhad wedi siarad lot amdanach chi drwy'r wsnos a dweud mai fo sy wedi'ch gwadd chi acw.

'Fu 'nhad ddim hannar da yr wsnos yma, a 'synnwn i ddim nad ydi 'mam yn gwneud ffys er mwyn mynd â'i feddwl o i ffwrdd oddi wrth 'i afiechyd am dipyn."

Melys fu oedi eto ar y bont am ennyd cyn cymryd y llwybr drwy'r caeau tua Thanyfron. Yr oeddym yn agosáu at y tyddyn pan safodd Nel yn sydyn a brawychus.

"Edrychwch!" meddai. "Y cena' bach!"

Gwelwn fachgen bach yn llechu tu ôl i'r berth wrth y llidiard, fel petai'n ofni mynd i olwg y tŷ.

"Yn 'i ddillad gora' hefyd, " meddai Nel. "Mi fydd o'n 'i chael hi 'rŵan."

"Wedi syrthio i'r afon, " meddai Ifan, ei brawd saith neu wyth oed, pan ddaethom at y llidiard. "Slipio ar ryw hen garrag, Nel."

"Be' oeddat ti'n wneud i lawr wrth yr afon?"gofynnodd ei chwaer.

"Dal brithyll hefo 'nwylo. A dyma 'nhroed i . . .Ar 'rhen 'sgidia' newydd 'ma 'roedd y bai."

"Tyd i'r tŷ i newid cyn iti gael annwyd ne' rwbath gwaeth. Tyd."

Daeth ei thad i'n cyfarfod ar hyd y llwybr a redai trwy fymryn o gae o'r tyddyn. Cerddai'n araf, gan ymddangos yn llesg ac oediog.

"Ar 'r hen 'sgidia' newydd 'na 'roedd y bai, 'nhad," meddai Ifan ar unwaith.

"Dos i'r tŷ i newid. 'Faint o weithia' mae isio imi ddeud wrthat ti am beidio â mynd yn agos i'r afon 'na? Dos; brysia."

Cyfarchodd fi'n gyfeillgar a holi sut yr oedd fy nhad ac Ifan Môn. Wedyn aethom i fyny heibio i'r tyddyn a thrwy glwyd fechan i'r cae uwchben y tŷ. Yno, ar fin ffordd garegog, yr oedd y beudy, a dangoswyd y tair o wartheg duon imi. Nid oeddwn i yn ffarmwr nac yn fab i ffarmwr, ond ceisiais ddangos diddordeb aruthrol yn yr anifeiliaid hyn, ac yn y ddau fochyn a'r ddau ddwsin o ieir a welais ar fy ffordd yn ôl tua'r bwthyn. Cyn troi i'r tŷ, aethom i gael cip ar yr ardd fawr a ymledai tu ôl iddo. Yr oedd ynddi goed afalau a choed eirin a darn da o dir newydd ei balu a'i rychu.

"Hywel, yr hogyn hyna' 'ma sy wrthi yn yr ardd yn fy lle i 'leni, " meddai Gruffydd Owen. "Y doctor am imi beidio â straenio fy hun. Hogyn da ydi Hywel."

"Lle mae o heddiw?" gofynnais.

"Wedi mynd i chwara' football i'r ysgol," meddai Nel.

"Mae o'n chwaraewr reit dda, ac mae Dafydd, fy mrawd arall sy'n y Cownti, wedi mynd hefo fo—i weiddi tros 'i frawd, medda' fo."

Daeth Hannah Owen, mam Nel, i'r drws cefn i alw arnom i'r tŷ. Dynes fawr, wynepgoch, oedd hi, yn llawn ynni a llonder. A phan groesais y trothwy i'r gegin, gwyddwn na buaswn mewn tŷ glanach erioed. Disgleiriai'r triongl hir o ganwyllbrenni ar y silff ben tân, pob canhwyllbren loyw, o'r ddwy ochr, yn dalach na'i chymar nes i chwi gyrraedd y dalaf yn yr un ganol. Bron na loywai derw'r hen dresal Gymreig lawn cymaint â'r jygiau copr a hongiai tros ei silffoedd a thros y rhesi heirdd o blatiau gleision. Sylwais ar silff fawr y dresal — ar y Beibl mawr ar un gongl iddi a'i gas lledr yn ddigon gloyw i chwi weld eich llun ynddo, ar y botel werdd ag ynddi long yn llawn hwyliau, ar yr iâr o tsieni gwyn yn gori ar ryw ddwsin o wyau ffres bob dydd, ar y cadi te â llun y Frenhines Victoria arno, ac ar y bowlen fach bres a ddaliai dusw o friallu newydd eu casglu o'r cloddiau.

"Dyma Hannah," meddai Nel, gan gyfìwyno merch fach ryw ddeg oed imi. Merch fawr, yn hytrach, oherwydd yr oedd Hannah yn debyg i'w mam ac yn addo tyfu'n glamp o hogan. Prydwedd ei mam a oedd ganddi hefyd — wyneb mawr, gwritgoch; llygaid duon, duon; gwefusau llon, chwareus; talcen uchel, llydan; gwallt du fel y frân. Sylwais ar unwaith ar y gwahaniaeth rhyngddi hi a Nel. Yr oedd mwy o ddifrifwch tawel a dwyster myfyrgar ei thad yn Nel, a'r un pellter breuddwydiol yn llygaid y ddau.

Daeth Ifan i mewn, erbyn hyn yn ei ddillad bob-dydd a chlwt mawr ar gefn ei drowsus.

"Tyd i eistadd wrth y tân, hogyn, rhag ofn dy fod ti wedi oeri," meddai ei fam wrtho.

Rhoddwyd Ifan i eistedd wrth ben y bwrdd, a'i gefn at y tân. Gruffydd Owen a minnau un ochr i'r bwrdd, Nel a Hannah yr ochr arall, a chymerodd y fam ei lle wrth y pen nesaf at y drws. Ifan a feddiannodd ran gyntaf y sgwrs; yr oedd ganddo stori hir am ryw hogyn arall o'r enw Huw Tyncoed wedi cael beic, a gwyddai i sicrwydd y gallai yntau reidio beic yn llawn cystal â Huw Tyncoed a phob Huw arall. Ond rhoes ei dad daw arno a throi'r sgwrs i hynt a helynt y chwarel. Go yswil a nerfus yr oeddwn i uwchben y te, er bod yno wledd heb ei hail — bara cartref ac ymenym ffarm yn dew arno, cacenni bychain, crynion, wedi eu gwneud ar y radell, teisen afalau yn llenwi plât mawr, a digon o fara brith. Gloywai llygaid Gruffydd Owen wrth iddo sôn am y chwarel, a gwelwn fod ei wraig a Nel yn ei borthi'n selog ac yn cymryd diddordeb aruthrol ym mhob gair. Casglwn iddo bendrymu a gofidio tros gyflwr ei iechyd ers dyddiau, ac mai mawr eu rhyddhad o'i weld yn llonni fel hyn.

Aeth Nel a minnau am dro gyda'r nos ac oedi'n hir yn sŵn yr afon y syrthiasai Ifan iddi. Ac am wythnosau wedyn, rhuthrwn adref o'r gwaith bron bob gyda'r nos a llyncu fy swper-chwarel ar frys gwyllt cyn newid a dringo'r mynydd tua Llanybwlch. Llithrodd Ebrill i Fai a Mai i Orffennaf, a llithrais innau'n ddyfnach mewn cariad â Nel. Yna, un hwyrddydd braf pan ddaeth i'm danfon hyd at lôn y mynydd, addawodd fy mhriodi.

Yr oeddym i briodi yn nechrau Awst, ac ar brynhawn Sadwrn poeth yn niwedd Gorffennaf yr aeth fy nhad a'm mam i Gaernarfon i brynu'r llestri te acw. Mor ofalus y rhoddwyd hwy ar y bwrdd bach wrth ffenestr y parlwr! Daeth amryw i'w gweld gyda'r nos, a galwodd eraill ar eu ffordd o'r capel bore trannoeth. "Crand gynddeiriog," oedd barn Ifan Jones.

A'r bore wedyn, yn fuan iawn ar ôl imi gyrraedd y Bonc Fawr, galwodd Ifan Môn fi i'w wal.

"Mae gen' i newydd go ddrwg iti, John," meddai.

"O?"

"'Rwyt ti'n 'nabod Danial Lewis, Llanybwlch, ond wyt ti?"

"Ydw'."

"Mi ddaeth Danial i'm gweld i funud yn ôl. Negas oddi wrth dy gariad. 'I thad hi . . ." A thawodd Ifan Môn.

"Yn wael?"

"Fe'i trawyd o'n wael ar 'i ffordd adra o'r Ysgol Sul ddoe. Ac mi fuo' . . .farw cyn pen awr."

Cefais ganiatâd y Stiward i fynd adref ar unwaith, ac wedi imi newid, brysiais tros y mynydd i Lanybwlch. Ymledai cwmwl mawr rhwng yr haul a'r Bwlch, ac ymddangosai Tanyfron, â'r llenni i lawr tros ei ffenestri, fel rhyw fwthyn dall yn ceisio rhythu tros y caeau tua'r pentref. Nid oedd llawer o ddim y gallwn i ei wneud, ond arhosais yno drwy'r dydd yn gwmni i Nel a'i mam a'r plant. Gwir a ddywedasai Gruffydd Owen, fod Hywel yn "hogyn da"; er nad oedd ond bachgen ar fin gadael yr Ysgol Ganolraddol, cymerodd y baich ar ei ysgwyddau, ac efe a drefnodd bopeth ynglŷn â'r angladd.

Euthum i'r cynhebrwng y prynhawn Mercher hwnnw yng Ngorffennaf, a chefais roddi fy ysgwydd o dan yr arch yn y tŷ ac o dan yr elor yn y fynwent. Yna, gyda'r nos, daeth Nel i'm danfon at lôn y mynydd. Sylwais ei bod hi'n dawel iawn a bod yr olwg bell-freuddwydiol yn llond ei llygaid.

"'Rydach chi'n dawel iawn, Nel," meddwn.

"Ydw'. Gadewch inni eistadd ar y grug yma am funud. Mae arna' i isio siarad hefo chi, John."

Wedi inni eistedd, syllodd yn hir i'r pellter, fel petai'n ceisio gweld trwy'r tawch a orweddai uwch y llyn a thros wyneb mynydd y chwarel.

"Wel?"

"Mi wn i fy mod i am eich brifo chi, John. A'ch brifo chi ar ôl i chi fod mor garedig wrth mam a finna'. Ond . . ." Gwelwn y dagrau yn cronni yn ei llygaid.

"Ond be', Nel?"

"Mi fûm i'n meddwl yn galad tros betha' ers dyddia', a 'chysgais i'r un winc neithiwr. 'Rydw' i wedi penderfynu, John, na fedrwn ni ddim priodi."

"Ddim priodi? Yn enw popeth, pam?"

"Mae Hywel yn mynd i'r Coleg ym mis Hydref, ac 'rydw' i'n benderfynol y caiff o fynd yno. Wedyn, mae Dafydd yn y Cownti ac yn gwneud yn reit dda yno. Mi liciwn i 'i weld ynta' yn mynd yn 'i flaen ac i'r Coleg. Ac ar ôl iddyn' nhw gael 'u siawns, mae'n rhaid imi feddwl am Hannah ac Ifan."

"Ond Nel annwyl, yr ydw' i'n ennill cyflog reit dda 'rŵan yn y chwaral, a 'fasa' dim yn rhoi mwy o blesar imi na . ."

"Cardod fyddai hynny, John. Na, y mae'n rhaid imi aros yn yr ysgol a thrio helpu 'mam hefo'r ffarm bob gyda'r nos."

"A thyfu yn hen ferch o athrawes, heb gael dim sbort allan o fywyd. Na, Nel, mi briodwn ac mi ofala' i y bydd Hywel a Dafydd a'r ddau arall yn cael chwarae teg."

Ond dywedai'r llygaid di-syfl wrthyf mai taflu pluen yn erbyn y gwynt yr oeddwn.

Wel, bu'r llestri te acw ar silff uchaf y cwpwrdd gwydr ers tair blynedd ar ddeg, bellach, ac y mae coch eu rhosynnau mor hardd ac mor loyw ag erioed. Tynnai fy mam hwy i lawr weithiau i'w golchi, a rhoddai ochenaid fawr bob tro wrth sychu eu crandrwydd rhosynnog ar y bwrdd. Ni welais i fawr ddim ar Nel drwy'r blynyddoedd, dim ond rhyw daro arni ar ddamwain unwaith neu ddwy yng Nghaernarfon. Credaswn, y nos Fercher honno pan gerddais adref dros y mynydd, fod y byd ar ben ac na allwn wynebu'r dyfodol trist a diramant. Ond fe ddyry Amser ei falm ar bob clwyf.


—————————————