Neidio i'r cynnwys

O am dreiddio i'r adnabyddiaeth

Oddi ar Wicidestun
Draw mi welaf ryfeddodau O am dreiddio i'r adnabyddiaeth

gan Ann Griffiths

O! Gariad na'm gollyngi i

87[1] Adnabod Duw.
87. 87. D.

1.O! AM dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a bywiol Dduw,
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw;
Credu'r gair sy'n dweud amdano,
Am ei natur sanctaidd wiw
Sy'n farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.


2.Mae'r Duw anfeidrol mewn gogoniant,
Er mai Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw:
Ond ym mhabell y cyfarfod,
Mae Ef yno'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymodlawn wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

3.Cael Duw yn Dad, a Thad yn Noddfa,
Noddfa'n Graig, a'r Graig yn Dŵr,
Mwy ni allaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dŵr;
Ohono Ef mae fy nigonedd;
Ac ynddo trwy fyddinoedd af;
Hebddo, eiddil, gwan a dinerth,
Colli'r dydd yn wir a wnaf.

Ann Griffiths

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 87, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930