Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Abyl i pop peth ae bodlono

Oddi ar Wicidestun
VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaec­gar Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Balchder eb droed

Abyl i pop peth ae bodlono.
Abyl i pawp y gydrad
Achos bychan yd aw blinder
Achos eb achos o honaw
Achwyn rac achwyn racddo
A achwyno eb achos, gwneler achos iddo
A chwanekit mefyl mowrair
Achub maes mawr adryg wa­rch
Adwyth dirait eb achos
Adail dedwydd yn ddiddos
Adnau kehyryn gann gath
Adwaen mab ae lluwch ac nid adwaen ae car
Adwyoc cae anhwsmon
Adiuar cupydd am draul
Aduyd pop hir tristwch
Addaw mawr, a rodd vechan
Addaw maen, addaw map
Addaw tec a wna ynfyd yn llawen
Addewit gwraic, odit yw

Addas i bawp i gydradd
Adduc yr hydd ir maes mawr
A ddyscych ith vap ddywsul ef ai cais ddywllun
Addef, a dau
Addued angau i hen
Addunet herwr, hirnos
A el i chware gaded i groen gar tref
A el i ddadlau eb neges, a ddaw a neges adref.
Aerwy kynn buwch.
Afiach pop trwm galonn
Afieithus pop maeth
Aflauar pop tawedoc
Aflwyddianns pop diriait
Aflednais pop gwyllt
Aflan dwylaw diowgswrth
Aflan genau anudonol
Afrwydd pop dyrys
A vo amyl i vara, dan gany aed i laetha
A vo amyl i veibion bid wac i goluddion.

A vo amyl i vel, troed yn i ywd
A vo trechaf treisiet
A vo nesaf ir ecclwys, pellaf o ywrth paradwys.
A vo da gau ddeo ys dir
A vo marw ny ochelir
A vo marw er bygwth a y ky­munet
A vynno clod, bid varw
A vynno Deo a vydd
A fwl, nid doeth ymryson
A gwyno kwyn bychan, kwyn mawr a ddarogan.
A gatwer, a gair wrth rait
A crea r vran vawr, a crea r vrall vechan.
A gymero dysc, catwet
A gynuller ar gefyn march mar len, dan i dor ydd a
A llygradd Deo, a lygradd dyn
Allan o olwc, allan o veddwl
Ameu pop annwybot

Amrafaelus pop ymladdgar
Amgeledd y ki am y cwd halen
Am gwymp hen, y chwardd gw­en gwas
Amod a dyr deuod
Amod a dyr kefreith
Amcan a vydd can bawb
Am caro i, caret vycki
Amaerwy diriait, dryc anian
Amlwc bai, lle ny charer
Amlaf ywr cwrwf tra hitler
Amraint, pop tor deuot
Amparat pop anallu
Amheuthun pop dieithrvwyt
Amser sydd i pop peth
Amser i vwyt, amser i lochwyt
A anraith gustuddiwyd tayoc yn hy i gylydd
Anafus pop drygvoesawc
Annoc dy ci, ac na ret canto
Annoc ci y cell egoret
Anhydyn pop afrywyoc
Anhappus pop trwch

Anhael pop cupydd
Annwyl can powp a gar
Anwadal pop hyhud
Anhyderus pop ofnoc
Angel pen fordd, a diauol pen­tan
Angen a dyr deddf
Angen a yrr hen i redec
Angen a yr henwrach i duthio
Angen a bryn ac a werth
Angenus pop tlawt
Ancynnes pop oet
Ancwbyl pop eisie
Ancariadus pop dirait
Ancymen pop fol
Antur hir latrat eb ddial
Andoeth, llithric i dauot
Ail y vam, modryb dda
A arbeto i vach, arbetet i gynoc
A ranno i liaws, ranet yn hyn­aws
Araf dan, a wna brag melys
Ar ni wano yn ddraen, ny wan yn giffill

Ar ny roddo a garo, ny chaiff a ddamuno
A ry bortho y cath, porthet i ly­got
Arwydd drwc, mwc yn diffaith
Ardd tra vych, ardd ken na bych
Ar ddiwedd y may barny
Arian a bryn ac a werth
A roddo dorth i daith ef a ddi­vudd a wnel i waith
A gwelle y llas y weirglood
Arglwyd a gympell
Arglwydd gwan gwae i was
Arglwydd powp ar a veddo
Assaeth ny phlycko, nyd da
Ascwrn hen yn angen
Aftrus pop anaf
Attat vebyn
Aatcas direid dyn
Atteb araf can ddyscedic
Athro powp yn i tuy
Athrod waith o genvigen
Aur can pawp a chwenych

Awchus arf, a eillio
Awdur pop kerdd ai gwnel
Awydd, a dyr i wddwf
Awgrym, pawp nis gwybydd
A wahanodd cnawd, gwaha­nadd a dolur
A wnel mad, mad a ddyly
A wnel drwc arhoed vn arall
A wnel y mowrddrwc a wna y mawrllw
Awr ddrwc caffaeliat ffalswr
A yuo ormodd, bid veddw