Oll synnwyr pen Kembero ygyd/VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaecgar
← Oll synnwyr pen Kembero ygyd | Oll synnwyr pen Kembero ygyd gan William Salesbury |
Abyl i pop peth ae bodlono → |
VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaecgar.
WRth ryw drawsdreiglo dysymmwth ar vy llyfreu golegur: e ddamwnyniadd y myuy caffael Copi o ddiarebion Camberaec, y ddaroedd y myuy y daer-copio am llaw vy hunan o vn o lyfreu. Gruffyth Hiraethoc, prif prydydd o Wynedd. O bleit tu a thair blynedd weithan i Kalan-Mai diwethaf, y dygwyddadd arno gyttall cydymddaith fordd a myuy o Cymbry hyd yma. Ac yno y brith letreteis copio hyn o ddiariebion oe lyfyr ef megys y doedeis yr awrhon ym blaenllaw. Ac o llatreteis nyd gwaeth y lyfer ef ddim (o bleit e roesadd i venffyc ei ddarllen ac ei deimlo eissoes) ac nyd anllai niuer y diarebyon anyd ynt vwy: eb law cahael trwy r llatrat yma meuvy, mil o Cymbry ddysceidaeth, llesahad, a diddanwch o ywrthaw: Pwy rei (a nys darvu yddyn ddigenetly yn rybell) a ddoedant heuyd Hawdd amor etto i Gruffyth Hiraethoc dros y ddiarebion Ac och ddeo (meddaf vi) na byddei cynniuer ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cembro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeallus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny atolwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneitieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o ywrth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy llyfreu n y byd o iaith Camberaec, attolwg ew cludo at pwy ryw sawl Gymbry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gwladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa eruyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wueuthy defnydd da melyswiw, or llyfyr gwaythaf ac or araith vustlaf ac oueraf y sydd ar ych elw mewn escriuen. I ba veth y gedwch ich llyfreu lwydo mewn coggleu, a phryfedy mewn ciste, ae darguddio rac gweled o neb, a nid chwychwy ech hunain? O bleit o ran ych bod chwi yn darguddio hen lyfreu ych iaith, ac yn enwedic y rei or yscrythur lan, nyd byw r Cembro er dyscedicket vo, a veidyr iawn draythy r yscrythur lan y chwy yn Camberaec, can y bregnach ar y priniaith ydd ych chwi yr oes hon yn gyffredin. A ydych chwi yn tybieit nat rait amgenach eirieu, na mwy amryw ar amadroddion y draythy dysceidaeth, ac y adrodd athrawaeth a chelfyddodeu, nag sydd genwch chwi yn arueredic wrth siarad beunydd yn pryny agwerthy a bwyta ac yfed? Ac od ych chwi yn ty byeit hynny voch tuyller A chymerwch hyn yn lle rybydd y cenyf vi: a nyd achubwch chwi a chweirio a pherfeithio r iaith kyn daruod am y to ys ydd heddio, y bydd ryhwyr y gwaith gwedy. Ac a ny bydd dysc, gwybodaeth doethineb. a dywolwch mewn iaith, pa well hi na sirmwnt adar gwylltion, ne ruat aniueilieit a bwystuiloedd? O bleit e veidyr yr adar ar aniveileit, trwy eu siarat ae bugat, ddyall y gylydd yn hyspys ym pop chwedyl a vo yn perthyn ynghylch i trwyddet ai hymborth a hanas i cyrph: ac a wddant ym-blaen llaw yn well nag y gwyddoch chwi, pa ryw ardymmer vydd ar yr hin, a llawer o ryw wybyddieth a hynny. Ef wyr llawer Nasion y saith gelfyddyt, or ny chlypu er oed o ywrth Christ. Ny wyddoch chwi er ech ehud cymmendot, nag vn gelfyddyt perfeith, na dim yn iawn ddilwgyr o fydd Christ. Ond gwrandewch chwi etto pa peth a ddywedaf ui wrthych chwi, y sawl ny bo gobeith ywch ar ddyscy saesnec ne iaith arall y bodysc ynthei: Gwrandewch (meddaf) pa ddywaewyf wrthych: A ny vynwch vynet yn waeth nag aniueilieit (y rain uy anet y ddyall mal dyn) mynuch ddysc yn ych iaith: a ny vyunwch vod yn vwy annaturial na nasion y dan haul, hoffwch ych iaith ac ae hoffo. A ny vynwch ymado yn dalgrwn dec a fydd Christ, a ny vynwch yn lan fyth na bo ywch ddim a wneloch ac ef, ac any vynnwch trosgofi ac ebryfygy i ewyllys ef y gyd achlan, mynwch yr yscrythur lan yn ych iaith, mal ac y bu hi y gan ych dedwydd henafieit yr hen Urytanueit. Eithyr gwedy wynt wy, pan ddechreod ych Rieni chwi, ae gohelyth wynt, (mal ydd hyspysa hen Cronicls) ddiyst yry a diurawy am yr yschrythur lan, a gadael i llyfreu hi y orwedd yn gwrachot llychlyt mewn congleu didreigl ddyn, ac ystewy a moliant Deo, a hoffy cloduory eu enw ehunain: yd aeth Deo ac a baradd yddynt gael i galw yn aliwns ac yn estron genetl yn y ganedic wlat ehunain ac a baradd yddynt gasay a fieiddio iaith i mammeu, rac dyscy o hanynt drwyddhi y iawn adnabot ef, a rac bot trwy hynny yn catwedic. A llena weddill yr hen vellith ddeo er yn oes Kad-waladr vendigeit. Ond o mynwch ymwrthot ar hir vaith velltith hono, gestyngwch ar dai glinieu ych calon y erchi gras ar ddeo. Pererindotwch yn droednoeth, at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych iaith, er mwyn y cyniuer ohanoch or nyd yw n abyl; nac mewn kyfflypwriaethy ddyscy Sasnaec. Ond pe bysei rei om gwlad mor vwynion a gady ar vy elw yr eino vyhun, mi a wnethwn (a gatwydd) o vudd ac o les kyffredyn mewn suwt betheu a vedryswn a ryw Cembro arall. Ond yr owrhon can yddint vy anreithio am espeilio mor llwyrgwbl. yn lle gweithret ny d allaf vi. hayach ond ewyllysy twrn da im gwlad, ac eruyn y ddeo ddanfon yspryt gwell yn caloneu vecgwrthnebwyr. Ac am hyn o weithret sef am gyffredino hyn o ddiarebion, ny ddylaf vi ddim angwanec diolch genwch mwy nag vn a godei y gwerchyr ne gayad o yar saic ne phial a ddygsit geyr ych bron. Eithyr (pe vei na thal na diolch yn yr oes heddy am vath petheu) e ddylye Gruffyth Hiraethoc (pwy trwy ddyual y afrifed a throlythyr a poenws yn clafcy, yn cynull ac yn helkyd yr oll ddiarebion hyn yr vnlle) gahel y ryw ddiolch ac a hayddei vwn a vyddei yn kyrchy at traws byt, ac yn arwein pop ryw oreusaic ac ew do dy yn rat geyr ych bron. Bychan ac ouer genwch chwi ywaith ef ar hyn yma o orchwyl, tu ac at perfeithio r iaith. Ond im tyb i, nyd bychan o gymporth tu ac at adeilat tuy, yw cludo y sylueini, ae goet, ae gwnio, ae gody, ae roddy dan y wydd. Ac atolwc (o chreffwch yn dda) pa peth amgenach yw diarebion mewn iaith, na sylueini, na gwadne, na distie, na resi, na chyple a thrawste, ua thuylathe a nenbrenni mewn tuy? A nyd yr vn nerth yw diarebion y gynal yr iaith, a r escyrn y gynnal y corph? A nyd yr vn pryduerthwch yw diarebion mewn iaith, ar ser yr fyruauen? Ac a nyd yr vn fy nyt yw diarebion mewn iaith a gēme, a main gwyrthuawr ymplith caregos fathredic? Je pa beth yw diarebion a nyd ryw wreichion o anueidrawl ddoethineb Deo, y ar ddargos gwneythyr dyn gynt ar lun y antraethawl ddelw ef? Ac y vyrhay, pa peth amgenach meddaf yw diarebion, anyd dywediadeu byrrion synnwyrol kyngorus o rei ny chahad vn er oed yn palledic: yn y rhein yr ymgyffred ac y cynnwysir oll synwyr a doethineb yr iaith ne r nasion ae dychymygawdd yn gyntaf. Ac am hyny y galweis y llyfer hwn o ddiarebion Cam berace, yn synnwyr pen Cembro. Mi a alleswn (ac ny besei rybell chwaith o ywrth y testyn) y alw yn Eneit yr iaith ne yn Meirion Camberaec: anyd bot yn cyssonach y cenyf vi yr enw arall. Er hynny y gyt, a bydd anuoddus na chyrtith y can nep yr enw, newidet yn y batydd escop. Hefyd a bydd vn ddiareb o hanynt mor tywyll (yn aill ai y can heneint yr iaith, ai o ran llediaith y vro, ai o neullturwydd synnwyr y dychymy gydd kyntaf. ai o cam traethiad tauod yr andyscedic, ae ynte o ba ryw achos pynac arall) gouyunwch yr pen awdur hwn a lavuriadd yn y peth: ac nyd ankyffelyp vyddwch y gahel gwybyddieth deonglus a synnwyr ddeallus y can thaw. O bleit megys (od yspiwch yn dda) y darparws ef ynddyscedic wrth, gynull y diarebion hyn oll, e gesot wy mewn gwedd ac ordr tra threfnus. volly may n ddiogel, na bu ef mor anynat nac mor sceulus nad ymchwetlws e yn vanolgraff ympale, a phwy, a pha amser y traethwyt pop vn o naddynt: ac iawn hanas gyd a hynny. Ac etwa vyth, rhac y chwy tybieit, vot gwaith y Kem bro gwladwraidd hwn ar hyn orchwyl mor wael, mor ddisynnwyr, ac mor anwyw ac na hayddei vnwaith gramersi. Gwybyddwch chwi yn ddinam yr hen vrytanieit dyscedic trauailio ynghylch yr vnryw waith. Megis y gwnaeth gwedill yr Athraon dyscedic pwy gynullwyt y wneythy Kyfraith Hoel dda. A megys ac y gwnaeth y dyscedic vardd pwy a gant Englynion yr eiry: ac Eneruin Gwowdrydd pwy gant Englynion y misoedd, y reyn oll sydd yn llawn diarebion, eithyr weeu plethy mor vwyn ac mor gelfyddydys a synnwyreu sathredigion (mal yn wyddor ar draethawd ir popul anllythyrennawc) ac na wyr nemor o ddyn vaint o ystryriol dywysogaeth coffaduriareth sydd ynthynt. Uelly y gwnaeth gwr dyscedic (a elwir John Heywod) yn Sasnec er mwyn y Sason gwyr y wlat ef. Eithyr Polydorus Uergilius gwr a han yw or Ital sef o wlat Ruuein ac vn or dyscedickaf heddy o wyr llen Lloect, (kyd nad da i air i Cembro) ea glascadd lawer o ddiarebion yn Ltatin ir vnlle. Either Erasmus Roterodamus yr athro dyscedickaf, huotlaf, ac awdurusaf yn Cred oll or a vu in oes ni ac ys llawer oes or blayn, efe a clascadd nyd cant, nyd mil, nyd lleng, nyd myrdd nyd Riallu, ac nid buna anyd caterua vawr o ddiarebion Groec a Llatin, ac ae kyfansoddes yn vnllyfr, megys ac y gwnaeth en bardd ni yma. Ac a dybygwch chwi y byddei gwyr kyn pwyllocket a reini, kyn ddyscedicket a rein, a chyn arbennicket a hwn, mor ddiwaith a phoeni yn cwlymmy mytroed godidoc, ac yn escriueny llyfreu lluosawc, a ny bysei yddynt a rac wybot a deall ym blaenllaw vod dirvawr profit, budd anueidrawl, a lleshad afriuet yn tyfy yr darllēodron ae ymaruerynt? Ac welly os ynuyd y rein ackw, ynfyd yw hwn: ie ac as doethiō y rein ackw, paam nad doeth hwn, ac ynte yn dylyn yr vn athrawaeth ac wyntwy? Pop oes a adawodd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddiscipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedic ac yn gymen. A may o wa ith y bardd hwn, amryw vydroedd eithyr yn Cemberaec yn cystal eu deunydd ae dyual, a nyd bot yn well eu cytcan, ac yn vanylach y gerdd na yr eino yr hen Brytanait y pwyllwyt o hanynt vchot: kyt byddeitra can moledic eu gw aith. Ac os ie, paam o ddieithyr ych bod yn aniueilieit, na ddiolchwch y ddeo vod yn ych oes y ryw athro kelfyddus y addurnaw ych iaith? Ny bu ac nyd yw prydyddion ereill anyd yn cany dernyn o gywydd (i bwy bynac vo) o chwant derbyn: lle nyd yw ef yu vnic ae awenyddgerdd ysprytol yn moly pendeuigion gwledydd, o ran eu bonedd diledryw, ae rinweddeu ardderchawc: either bod hefyd yn helpy, yn kymmorth ac yn achup yr iaith rac lledle anyscorawl, a diuancoll tragyuythawl. Ac am hynny, o gedwch chwi yn ddiddarwbot am dano, a gedwch eb anregy, ei vawrhay, at volyanny, pau ddel ar ych tuedd, nyd han yw ddim honoch or wladwriaeth Uritaneidd, ny ddeiridych afrywoc campe, ae daonus gynneddfe: ac as yr vn tal sydd genwch y odechwr ysclethan, ac y weithwr gwrddlan. Ac as chwitheu a wnewch ych ran ach dywti, sef yw hyny: kynal o hanoch y dyscedicuardd hwn ef ae tuylu, mor parche dic anrydeddus, ac y may ef yn darpar peri ych iaith: a bod mor ymgledgdar ddarbodus o hono ef yn ych plith, ac yw ef, nyd yn vnic o hanoch chwir oll wlat or to sydd heddyw, and tros ych plant, ych wyrion, ych gorescenydd, ych gorcheifn, ach goreiddin, ach gohelyth hyd byd dyddbrawd. Ac os chwchwy hefyd a ddylyuwch pwyll diarebion y llatinwyr ys ef Honos olit artes ac Uirtus laudata crescit pa yw, Anrhydedd ne va wrhant a vacka gelfyddodeu, A Rinwedd o chanmolit a gynydda: ef allei y kynnyrchei ac y llewychei mwy o ddys ceidaeth dda, ac o gelfyddodeu at arbennic a gwybyddieth ysprytal yn ych mysc rac llaw, trwy nerth Deo goruchaf. Ac velly bo, ydd archet pop Cembro Camberaec gar. O ddeo na allei pop dyscedic ddoedyt am ei iaith mal y dyuod Dauid ap Gwilim am Uoruydd: nid amgen,
Cof am gariad taladwy
Ni ddyly hi y mi mwy.