Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Na choll dy henfordd

Oddi ar Wicidestun
Leilai lymeit gayaf Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

O Bydd cell i ci

NA choll dy henfordd er dy ffordd newydd
Na ddeffro y ci sy n cyscy
Na ddoes a gwr wrth y drych
Na vid drygwraic dy gyfrin
Na vram anyth wthier
Na bydd ty vwythus lle galler dy hepcor

Na vynych gur lwfr
Naill ai llwynoc ai llwyn redyn
Natur yr hwch a vydd yny porchell
Na wrthot dy parch pan y cynyker
Neges pendeuic yn rat
Nesaf i bawp i nesaf
Nes elin nac arddwrn
Nes i mi vyccrys nam pais
Nesnes ywr llefain ir dref
Ny ad anoeth i or vot
Ny ain deu vras yn vnsach
Ny bu ry gu na bai ry gas
Ny bu Arthur ond tra vu
Ny bydd marw march er vn­nos
Ny bydd gwr wrth ddim
Ny bydd hybarch rry gynefin
Ny bydd y dryw, eb y lyw
Ny bydd vcheneit eb i deicr
Ny bydd budd o ychydic
Ny chredir y moel oni weler i emenydd
Ny chlyw wilkyn, beth nys myn

Ny chlyw madyn i ddrygsawr i hun
Ny chryn llaw ar vapddysc
Ny bydd dialwr diofn
Ny bydd dy un dau Gymro
Ny bydd y gwan eb i gadarn
Ny bydd mosogloc maen a vy­nech ysmuter
Ny char buwch hesb lo
Ny chaiff ry voddawc rybarch
Ny chaiff chwedyl nid el oe duy
Ny chair dewis gam yn ffo
Ny chair gan y llwynoc ond i groen
Ny chair a ddiobaith ddeo
Ny chair gwlan rywoc ar glun cafr
Ny chair y melus eb y chwerw
Ny chair bwyd tayoc yn rat
Ny chair aual per ar pren sur
Ny chaidw Kymbro oni gollo
Ny chel grudd cystudd calon
Ny chred eiddic, er a deckaer

Ny chwery cath dros i blwydd.
Ny chyll iar i hirnos
Ny chwyn yr iar vod y gwalch yn glaf
Ny chwyn ci er i daro ac ascwrn
Ny chwsc gofalus, ac ef a gwsc galarus
Nyd aeth ryhir i goet
Nyd a ret a gaiff y budd
Nyd a wyl dyn ae pyrth
Nyd adwna Deo dim a wnaeth
Nyd a gwayw yngronyn
Nyd a cosp ar ynvyt
Nyd a vn trew na dau i angau
Nyd a cynic Arglwydd ir llawr
Nyd chware a vo erchyll
Nyd chware, chware a than nac a dur nac a hayarn
Nyd da ry o ddim
Nyd drwc wr, wrth ddrwc wraic
Nyd drwc arglwydd, namyn drwc was
Nyd diswrth nep dioc
Nyd edrychir dannedd march rodd
Nyd eglur y drych yn y tywyllwch

Nid erchys vwyt ond i broui
Nyd esmwyth ymgyflogi
Nid gwell dim no digon
Nid gwell gormodd na ryuy­chan
Nyda hawdd chwythy tan a y blawt yngeneu
Nid hawdd blingo callestr
Nyd hwyrach yn y varchnat, croen yr oen, na chroen y dauat
Nid iangwr nep ar Uerwyn
Nid kymeint bleddyn ae drwst
Nid kynefin cath a chapistr
Nyd cof can yr offeirat vot yn glochydd
Nit kytun hun a haint
Nyd kyweithas eb vrawt
Nyd cywaethoc ond ae cymero
Nyd moel gwr yn aros gwallt
Nyd llafurus llaw gywraint
Nyd llai gwerth mefyl na fawd
Nyd llai cyrch dyn i laith no gyuarwys

Nid moesawc morwyn a glyw llef ceiloc i that
Nyd mwy gwaith coc na chany
Nyd myned, a ddel eilwaith
Nyd oes nep eb i vai
Nyd oes ar vffern ond eissiau i threfny
Nid oes o ddim ond val i ky­merer
Nid prophwyt neb yn i wlat ehū
Nit rait i ddedwydd ond i eni
Nit rait roi cloch wrth vursen
Nit reit dangos direit i gwn
Nyt rhydda nep i wasanaythy ehun
Nyt twyll twyllo twyllwr
Nyt wrth i bic y mae pryny cyf­fyloc
Nyt y bore y may canmol dydd tec
Nyt amwys a wnel warth
Nyt yn vndydd ydd adeilwyt Ruuein
Nyt yn iach ond a vo marw
Nit estyn llaw nis rrybuch calō
Ny ddaw drwc i vn, niddel da i arall

Ni ddawr croesan pa ga­byl
Ny ddawr newynoc pa ys
Ny ddawr putain pa gnuch
Ny ddiolch dyn i borthi
Ny ddyly drwc voly, namyn drwc
Ny ddygymydd medd a chupyd
Ny phell anrregir tlawt
Ny phis boneddic ehun
Ny hynaf eiddigedd
Ny hyna hawl er i hoedi
Ny las cennat er oed
Ny ludd aniweirdeb ffawd
Ny ludd parot i gymryt
Ny lwgr y da ar y llall
Ny lwyddodd, ond a dramgwy­ddodd
Ny lwydd gwenyn i geilioc
Ny roed gwlad i vut
Ny thawdd dlet er i haros
Ny thyrr llestr er na bo llawn
Ny thyr pen er doedyt yn dec
Ny vynno Deo ny lwydd
Ny vutra dwyla er gwneuthy da i ddo i hun

Ny vynn drygwrach ddal i chwd
Ny vyn y sant mor caws
Ny weleis lam rwydd i ewic
Ny wna r mor waeth na boddi
Ny wnel kyngor i vam, gwnaed cyngor i lysfam
Ny wyl hawdd vod yn hawdd oni d el hawdd yn anhawdd
Ny wyddir mwyniant y ffynnon oni d el yn hispydd
Ny wyr y ci llawm pa gyfarth y ci gwac
Ny wyr ny wyl
Ny ddawr yr iar vot y gwalch yn glaf
Ny wyr yr iar nesaf ir ceiloc
No drwc dyn ys gwell ki da
Noswyl iar gwae ae car