Oll synnwyr pen Kembero ygyd/O Bydd cell i ci

Oddi ar Wicidestun
Na choll dy henfordd Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Rac bod y sul eb suglaw

O Bydd cell i ci, mynych ydd a iddi
O bydo nep yn ol bid y bawaf

O bop trwm, trymach henaint
O chaiff yr afr vynet it eccleis hi a ir allar
O chyrredd vry ny ddaw obry
Odid archoll eb waed
Odit o cant cydymaith
Odit elw eb antur
Odit da diwrafwn
O down ni, ni ddown
O down er. riiii. ni ddown er rv.
Offeren pawp yn i galon
Os gwr mawr cawr, os gwr by chan cor
Oni hehir ni vedir
Oni byddi gryf, bydd gyfrwys
Oni chai cenin, dwc vresych
O myni vod yn iyrchci ti a neidy yn well
O hoenyn i hoenyn, ydd a yr ce­phyl yn cwta
Oer yw isgell yr alanas
Oed y dyn, ny chalyn y da
O lladd y cath lygoten, ar vrys hi ay hys i hun

O vn wreichionen y cynne tan mawr
Odit taliwr diwaglaw
O sul i sul ydd ar vorwyn yn wrach
O vlewyn i vlewyn ydd ar pen yn voel
O lymeit i lymeit i darvu r cawl



PAn dywyso r dall dall a­rall, y ddau a ddygwydd ir pwll
Pan dywyso yr hen deric i bra­idd ni bydd yr yscrubl
Pand gwaeth y dring y gath o dori hi ewinedd
Pan gaer myhi ni chair myha
Pan roer yt porchell egor dy gwd
Pan vo moeliri ar ben ma­luriat, y bydd escud ascell gwpi­at
Pan vor boly n llawn y myn yr escyrn orffywys
Pan vo teckaf y chware, teckaf vydd peidio

Pawp a gnith cedor ynfyd
Pawp ae chwedyl cantho
Pawp a chwenych anrydedd
Pan el llatron i ymgyfymliw, y caiff kywiriait y da
Pen carw ar ysgyfarnoc
Pen kil ar vorau gwanwyn
Pen punt, a llosgwrn dime
Pensaer pop perchenoc
Pen rros pawp lle nis carer
Perchi gwr er i vawet
Petwn dewin ny vwytawn vur­gin
Pilio wy cynny rostio
Pop enwir diuenwir i blant
Pop diareb gwir
Pop coel celwydd
Pop gwlat yn hi aruer
Pop cyffelyp a ymgeis
Pop peth yn i amser
Pop cadarn gwan i ddiwedd
Po wyaf vo o ddeueit drutaf vydd y gwlan
Po ddyfnaf vor mor diogelaf bydd ir llong

Po gorau vor gwarau, goreu yw peidiaw
Po hynaf wydd dyn gwaythaf vydd i bwyll
Po hynaf vo r yd tebyckaf vydd i vyd
Po hynaf vor Kymro ynuytaf vydd
Po kyfyngaf can ddyn, ehengaf can ddeo
Po mwyaf vor brys, mwyaf vydd y llestair
Po mwyaf vor difrod mwyaf vydd y goruod
Po mwyaf vo r llanw mwyaf vydd y trai
Po tynnaf vo r llinin cyntaf i tyr
Pwy bynac sydd eb wraic, i mae ef eb ymryson
Pyscota o vlaen y Rwyt.