Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Rac bod y sul eb suglaw
← O Bydd cell i ci | Oll synnwyr pen Kembero ygyd gan William Salesbury |
Y Pendro wibwrn → |
RAc bod y sul eb suglaw
Rait i segur beth yw wneuthur
Reit yw croppian kyn kerddet
Rait wrth ammwyll pwyll bar ot
Rwng y ddwy stol ydd a r din i lawr
Ran ddrwc ran o drayan
Ran y gwas o cic yr iar
Ranny ryng y boly at cefyn
Ranny r gwadyn val y bo r troed
Rin tridyn cannyn ae clyw
Roi y carr o vlayn y march
Rwydd pop peth ny bo dyrys
Ry dynn, a dyrr
Ry lawn a gyll
Ry vchel a syrth
Ry gas ry welir
Ryw i vap ys gyrchlamy
Rythyr mamaeth
Rodd ac adrodd a todd bachcen
SIeffre piaur troet, sieffre piau r vwyall
Somi Deo a manach marw
Sonio am Awst wilieu natalic
Sickraf ywr hyn sickraf
Swrth pop dioc
TAbler i lyuau
Tauern i chwedleu
Tauot aur ympen dedwydd
Tafl ath vnllaw, cais ath ddwy law
Tairgwaith y dywait mursen bendith ddeo yn tuy
Tebic oedd corn bwch i carecl
Tebic oedd cwd i gyfrwyf
Tec pop dianaf
Tec pop hardd
Tec pop chwedyl ny bo gwrthwynep
Tra vo r yd yn ty fy y bydd marw y march
Tra vor ci n cachy, ydd a rysgyuarnoc ir coet
Trech a gais nag a geidw
Trech Deo na dryc obaith
Treiglet maen hyt wastat
Trist pop galarus
Troi o poptuy ir berth
Troi r cath yn yr haul
Tario val yr abbat am y coueīt
Toll vechan a wna toll vawr
Tw varch benffyc
Tyst ywr chwedyl ir englyn
UMpryt yr iar yn yr yscupor
Umpryd y ceiloc ar y twr gwenith
Unllaw ar tan, canllaw ar wlā
Unllawioc vydd mamaeth
Unwaith yr aeth yr arglwyddes y nofio ar waith hono y boddes
UUaeth waeth val map cafr
Waeth waeth vaensaer, well well brensaer
Well well pop ffynnedic
Wythnos y llwynoc