Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Y Pendro wibwrn

Oddi ar Wicidestun
Rac bod y sul eb suglaw Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Y Pendro wibwrn
Y budd a ludd y lluddet
Ychenait gwrach yn ol hi ywd
Ychenait at ddoeth
Ychydic laeth a hynny yn en­wyn
Ychidic yn amyl, a wna llawer
Y defnyn a dyll y carec, nyd o gryfder ond o vynechsyrthio.

Y drwc a wneler yn y nant a dy wynir yngwydd cant.
Y dywaythaf a orddiwedder ar hwnnw y dialer
Yydiw corn eb yscyarn
Y vorwyn a ato i phroui, hwyr i daw ew phriodi
Y gwr yn ceisio y casec, ae casec y dano
Y gwn a roed i gannwr, ac nyd ar gwn o duy r gwr
Y lle r ymgreingio r march y gedy beth oe vlew
Ymguddio ar gefyn y cist
Ympop daoni y may gobrwy
Ympop drigioni y may pechat
Ympop dewis y may cyfyng­dwr
Ympop kelfyddyt y may ffalster
Ympop rith i daw an­gau
Ympop ryuel y may gofal
Ympop pechat y may ffolder
Ympop clwyf y may pericl

Ympop dyn y may eneit
Ympop eneit y may deall
Ympop deall y may meddwl
Ympop meddwl y may naill ae drwc a e da
Y mut a ddywait y gwir
Y march a vram a ddwc y pwnn
Y march a wich ys ef a ladd
Y march a wyl yr yd ac ny wyl y cae
Ymryson ar gof yn i efail
Ymryson a doeth ti a vyddy ddoethach
Ymryson a fol ti a vyddy folach
Ynaill wenwyn a ladd y llall
Y nep a vo a march at ei elw, a gaiff benffic march
Y nep a vo marw er bigwth &c
Y nep ae ry vostio ehun, a baw y coroner
Ynuyd a gabl i wrth ban

Yn ceisio r blewyn glas y bod­des y casec
Yn y croen y ganer y ci y bydd marw
Y car cywir, yn yr ing y gw­elir
Y ci a vynner i ladd a ddoedir e vod yn cenddeirioc
Y ci a vynner i grogi, a ddywe­dir e vot yn lladd y deueit
Y cyn a el a orddir
Y cyntaf ai clybu dan i din y darfu
Y cyntaf i oc, cyntaf i gry­man
Yr cyntaf ir velin maler yn gyntaf
Y porchell a vo byw byddet mau
Yr afr dduy a las
Yr hai a laddodd yr hwch

Yr hwch a dau a vwyty r soec
Yr oen yn dyscy ir ddauat bori
Yr vn asgwrn ae tal
Ys dir drwc, rac drwc arall
Ys ef a ladd a gyhudd
Yscafnllwyth a glud coet
Yscafn y doeth ysgafn yr aeth
Ysglodun gwern ympen y gath
Ys marw a vo diobaith
Ys gwell y llysc dau tewyn nac vn
Ys dir nithio ni bo pur
Ys drwc a dec ewin or ny phor­tho vn gylvin
Yspys y dengys y dyn,
O ba radd i bo i wreiddyn

Teruyn

Imprynted at London in saynt Iohns strete, by Nycholas Hyll.