Oriau Gydag Enwogion/Peter Williams a'i Fibl

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Galileo

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Peter Williams
ar Wicipedia





PETER WILLIAMS A'I FIBL.

IONAWR 7, 1722.

ER mai mis oer, anserchog, y cyfrifir Ionawr gan lawer, y mae'n fis pwysig i'r hanesydd, canys yn ystod ei deyrnasiad gauafol ef y ganwyd llu mawr o enwogion ein teyrnas a'n gwlad. Yn mysg genedigion Ionawr yr oedd Isaac Newton, y gwyddonydd (1642); Linneus, y llysieuydd (1778); Benjamin Franklin, y darganfyddwr gwyddonol (1706), a James Watt, dyfeisydd yr ager-beiriant (1736). Ac onid Ionawr ydyw mis y llenor a'r bardd? Gallesid disgwyl i bob bardd gael ei eni yn Mai neu Fehefin,—misoedd y blodau a'r heulwen, ond y ffaith yw mai yn nghanol rhewynt ac ystormydd Ionawr y daeth llu o'r beirdd ar ymweliad â'r byd drwg presenol. Yn eu mysg, yr oedd Spenser, awdwr y Faerie Queen (1599); Ben Jonson, y telynegydd mwyn (1574); Arglwydd Byron, gyda'i athrylith ffrwydrol (1788); Robert Burns, awenydd dihafal yr Alban (1759), a Goronwy Owen, enwog, anffodus, yr hwn a aned ar ddydd Calan 1746. Ac er maint ei drallodau, yr oedd ganddo air da i'r Calan yn wastad:-

"Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi
Da, coeliaf ydyw Calan,
A gwyl a ddirperai gân,
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf."

Chwareu teg i Oronwy. Gwyddai beth oedd bod ar y domen, lawer egwyl, ond ni felldithiodd ddydd ei enedigaeth. Eithr at enw a gwaith gŵr arall yr ewyllysiwn arwain y darllenydd y mis hwn—Peter Williams; neu fel y byddai yr hen bobl yn arfer ei alw, ar gyfrif anwyldeb—"Yr hen Bitar." Brodor ydoedd o sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef yn Llacharn, Ionawr 7, 1722. Cafodd addysg foreuol dda, a bwriedid ef i'r offeiriadaeth yn Eglwys Loegr. Ond daeth dan ddylanwad Whitfield, ac ereill o'r diwygwyr, ac effeithiodd hynny ar ei ysbryd, ac ar ei lwydd yn ei yrfa glerigol. Ystyrrid ef, medd Mr. Charles, yn "grefyddol wallgofus gan yr awdurdodau eglwysig, ac nid oedd iddo yn un man ddinas barhaus. Yn mhen ysbaid, ymunodd â'r Methodistiaid fel pregethwr teithio, a gwnaeth waith rhagorol. Bu yn fendith i lawer o eneidiau yn y dyddiau tywyll yr oedd yn byw ynddynt. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chorff cryf, ac â meddwl diysgog; yn gallu llafurio llawer, teithio yn faith, a chyd-ddwyn â llety a bywoliaeth wael ac isel." Ond er cymaint ei ymroddiad fel efengylydd, yr hyn. a wnaeth ei enw yn adnabyddus dros yr oll of Gymru ydoedd ei lafur fel esboniwr. Ysgrifenodd ac argraffodd "sylwadau byrion ar bob pennod o'r Ysgrythyr Lân, a daeth y Bibl hwnnw i gael ei adwaen mwy fel

"BIBL PETER WILLIAMS."

Lledaenwyd yn agos i ugain mil o gopiau o hono yn ystod ei fywyd ef, a daeth yn y man yn un o'r anhebgorion ar bob aelwyd grefyddol yng Nghymru. Efe a ddefnyddid ar y ddyled- swydd deuluaidd, ac ystyrrid y "sylwadau" ar ddiwedd y bennod bron mor gysegredig a'r Bibl ei hun. Ac os cyfodai dadl ar ryw fater, gofynnid yn union, Be mae Pitar yn ei ddeud ar hyn?"

Ac wedi cael ei farn ef, ystyrrid fod y cwestiwn hwnnw wedi ei setlo yn derfynol.

Wedi hynny, cyhoeddodd argraffiad arall o'r Bibl, cyfaddas i'r llogell, gyda chyfeiriadau ymyl-ddalenol o waith John Canne. A dyna'r Mynegair Ysgrythyrol sydd yn dal yn ei fri hyd heddyw. Ond nid efe oedd y cyntaf oll i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn. Ymddengys fod Mynegair bychan wedi ei gyhoeddi eisoes gan ryw Gymro na wyddis ei enw yn Pensylvania

"Hwnnw a ddilynais," ebai P. Williams, "ond gorfu i mi ddiwygio peth, a chwanegu llawer." Ac yr oedd y gweddnewidiad yr aeth y llyfr drwyddo dan ei ofal ef mor fawr, fel y gelwid ef o hynny allan yn Fynegair Peter Williams, er fod y syniad wedi cael ei fôd gan arall.

Ond yn y Bibl Teuluaidd yr oedd wedi torri tir newydd hollol yn Gymraeg. Efe oedd tad ein "hesbonwyr" oll. Ereill a lafuriasant yn y maes hwn ar ol ei ddyddiau ef, ond ei "sylwadau" clir, cryno, a chofiadwy ef oedd toriad gwawr esboniadaeth Ysgrythyrol yn ein hiaith. Cododd ei fwyell mewn dyrus goed, a bu'n gymwynasydd i feddwl crefyddol ei genedl. A chafodd ei ymdrech deg ei gwerthfawrogi yn deilwng gan ei gyd-wladwyr. Dyma dystiolaeth ei farwnadydd yn y flwyddyn 1796,—

"Os yw Cymru'n chwe chan milldir
Wedi mesur fel mae'n awr,
Ac o'i mhewn dri chant o filoedd
O drigolion gwerin fawr:
Gwn pe chwiliet ei maith gonglau
Braidd ceit ardal, plwy, na thŷ,
Heb eu haddurno'n awr â Biblau,
Ffrwyth dy lafur dirfawr di."

Felly yr oedd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Beth am ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Y mae poblogaeth Cymru erbyn heddyw yn llawer mwy na "thri chant o filoedd." Ond a ydyw y "Bibl Teuluaidd " i'w gael mor fynych ac mor aml yn y tai?

Mewn arwerthiant diweddar yr oedd Bibl yr "hen Bitar" yn un o'r pethau oedd yn mynd dan y morthwyl. Prynwyd ef am y swm aruthrol o ddeunaw ceiniog, tra y rhoddid coron am "lwy de" o rywogaeth neillduol! Tybed fod ein gwlad yn mynd i osod mwy o bris ar lwy de" nac ar Fibl?

Ond tra y pery cenedl y Cymry i roddi gwerth ar y Bibl fe erys enw Peter Williams mewn cof. Y mae ei enw, rywfodd, yn glymedig wrth yr hen Lyfr. Ni sonir o'r braidd am le ei breswylfod fel y gwneir gydag enwogion ereill, Jones o Landdowror, Charles o'r Bala, Rowlands, Llangeitho. Ond anaml y dywed neb,—Peter Williams, Caerfyrddin, er mai yno y treuliodd efe dorraeth ei oes. Na, y mae "Bibl Peter Williams" yn teyrnasu ar bob ystyriaeth arall. Ac ar gyfrif ei lafur cariad dros ei wlad ynglŷn â Gair y Bywyd, y mae iddo le ymhlith y cedyrn. Erys ei waith gyda'r eiddo Pantycelyn, a Charles o'r Bala, byth mewn coffadwriaeth. Yng ngeiriau Thomas William, Bethesda'r fro,—

Tra bo Cymro'n medru darllen,
Am dy enw fe fydd son,
A thra argraff-wasg a phapur,
Nid anghofir am dy boen;
Pan bo enwau rheiny'n pydru,
Heddyw sydd o enwau mawr,
Fe fydd d'enw oesoedd eto
Yn disglaerio fel y wawr."


Nodiadau[golygu]