Oriau Gydag Enwogion/Galileo

Oddi ar Wicidestun
Peter Williams a'i Fibl Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Dewi Sant

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Galileo Galilei
ar Wicipedia





GALILEO.

CHWEFROR 15, 1564.

"Come, wander with me,' she said,
Unto regions yet untrod,
And read what is still unread
In the manuscripts of God.'"

YN yr ysgrif flaenorol yr oeddym yn gwahodd y darllenydd i sylwi ar ychydig o hanes a gwaith esboniwr, gŵr a wasanaethodd ei wlad fol dehonglydd y Dwyfol Air,—

"agorwr
Geiriau glân y nefoedd."

Ac onid hynny, mewn cylch arall, ydyw neges y seryddwr? Ei orchwyl yntau, ebai Longfellow, ydyw taflu goleu ar gynnwys "llaw-ysgrifen Duw" ar femrwn Natur. Gwahanol ydyw Bibl yr esboniwr Ysgrythyrol i eiddo yr efrydydd seryddol. Ond yr un ydyw yr Awdwr, ac y mae y naill fel y llall yn dadlenu i ddynion "rannau ei ffyrdd Ef." Oherwydd paham, nid ydys yn tybio fod yna unrhyw drawsgyweiriad anaturiol yn ein gwaith yn symud oddiwrth esboniwr y Bibl at esboniwr y sêr, oddiwrth Peter Williams, y Cymro ymroddedig, at Galileo, yr Eidalwr enwog. Cyflawnodd y naill a'r llall eu dyledswyddau yn ofn Duw; rhoddasant oleuni newydd ar bethau oedd o'r blaen yn dywyll a dieithr. Cafodd y ddau eu camddeall gan rywrai yn eu hoes eu hunain.

Ganwyd Galileo yn ninas Pisa, yng ngwlad yr Eidal dlos, yn mis Chwefror, ar y pymtheg- fed dydd, yn y flwyddyn 1564. Hanai o deulu nid anenwog, ac yn wahanol i lawer o blant athrylith, ni wybu efe am adfyd a chaledi yn more ei oes. Meddai gartref clyd, a chafodd fanteision addysg oreu yr adeg honno. Cafodd ei gymhwyso ar gyfer galwedigaeth y meddyg. Dyna oedd delfryd ei dad, ond arweiniwyd ef gan Ragluniaeth ar hyd ffordd arall. Dichon y buasai yn ennill safle barchus fel meddyg; ond ar hyd y "llwybr dieithr " yr oedd efe i wasanaethu gwybodaeth, ac i ennill enw ymysg y cedyrn. Gwnaeth ei ddarganfyddiad cyntaf pan yn laslanc deunaw oed. Tra yn ymdroi mewn eglwys gadeiriol, un adeg, gwelodd lamp grogedig yn ymysgwyd ol a blaen yn y gwagle. Sylwodd fod ei symudiadau yn hollol reolaidd, ac wrth fyfyrio ar y digwyddiad damweiniol hwnnw y cafodd y syniad am "bendil cloc," a rhoddwyd y peth yn fuan wedyn mewn ymarferiad. Ar ol hynny, bu mewn dadl boeth gyda'r athronwyr ynghylch deddfau pwys a thyniad. Dadleuai efe fod sylweddau o bob maint, pan yn cael eu gollwng i lawr o unrhyw uchder yn rhwym o gyrraedd y ddaear ar yr un adeg. Rhoddwyd prawf ymarferol ar y ddamcaniaeth. Aed a dwy belen haiarn—un fawr ac un fechan—i ben tŵr byd-enwog Pisa. Gollyngwyd hwy drosodd yn gydamserol, a chyrhaeddodd y ddwy y gwaelod efo'u gilydd. Yr oedd Galileo wedi profi ei bwnc! Ond cyffrodd elyniaeth y dysgedigion lleol, a symudodd ei breswyl o Pisa i Padua, lle y gosododd sylfaeni ei enwogrwydd fel gwyddonydd.

Yno y troes ei sylw at seryddiaeth, ac yr oedd yn amddiffynydd cadarn i " gyfundrefn Copernicus," cyfundrefn sydd erbyn heddyw yn cael ei chydnabod fel gwirionedd ond yn y cyfnod hwnnw edrychid arni gyda gŵg fel damcaniaeth wyllt a chwyldroadol.

Hyd yma, yr oedd pob sylwadaeth seryddol yn cael eu gwneud, o angenrheidrwydd, drwy gyfrwng y llygad noeth. A rhyfedd gymaint of waith a wnaed yn y ffordd honno! Aed y darllennydd allan am dro ar noswaith serenog, glir, dawel, yn y mis hwn. Sylwed ar y constellations disglaerwych yn araf symud (i'n golwg ni) dros feusydd ehangfaith y ffurfafen. Dacw'r Pleiades (y "Tŵr Tewdws ") a'i osgorddlu. Ar ei ol daw Orion ("Llathen Fair") a'i sêr tanbaid; ar ei aswy y mae Castor a Pollux (y ddau efaill). Mewn cwr arall y mae yr Arth Fawr (Saith Seren y Llong) fel mynegfys yn cyfeirio at Seren y Gogledd. Ond rhaid i ni ymatal. Digon ydyw dweud fod teuluoedd y sêr wedi eu dosrannu a'u lleoli, a bod y rhan fwyaf o'r planedau wedi eu darganfod yn y cyfnod hwn, —cyfnod y llygad noeth.

Ond yr oedd cyfnod arall yn ymyl, ac yr oedd "gwaith ei fysedd Ef" i ddisglaerio mewn goleuni mwy llachar nag erioed. Adwaenir hwnnw fel cyfnod y Teliscop, a Galileo oedd ei apostol cyntaf. Fel hyn y bu. Clywsai fod gwneuthurwr llygad-wydrau, Ellmyniad o genedl, wedi digwydd rhoddi dau wydr—un yn concave, a'r llall yn convex—ar gyfer eu gilydd, ac iddo gael eu bod yn dwyn y pell yn agos! Felly y cafwyd gafael yn y syniad cyntaf am y teliscop. Lluniodd Galileo offeryn iddo ei hun. Gwnaeth lawer cynnyg. Ond, un noson, gosododd ei deliscop ar y lleuad, ac am y waith gyntaf yn hanes dyn, efe a ganfu fynyddoedd y lloer! Beth oedd ei deimladau ar y pryd? Hawdd credu fod ei galon yn dirgrynnu gan lawenydd, a'i ysbryd athrylithgar yn ategu geiriau y Salmydd "Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist, Arglwydd ein Iôr! mor ardderchog yw dy enw . . .yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd."

Teliscop bychan oedd un Galileo. Nid oedd dim cymhariaeth rhyngddo a'r eiddo Arglwydd Ross, neu Arsyllfa Greenwich. Ond efe oedd rhagredegydd yr oll, a datguddiodd ryfeddodau. Llwyddodd Galileo i ddarganfod lleuadau Iau; cafodd gipdrem ar fodrwyau Sadwrn, a chanfu yr ysmotiau rhyfedd sydd yn symud dros wyneb yr haul.

Ond wedi iddo dreulio blynyddau o astudiaeth, a nosweithiau digwsg, i egluro Bibl y ffurfafen, cafodd yntau brofi gofidiau pob diwygiwr, a phob darganfyddwr gwirioneddol. Cafodd ei rybuddio gan y Vatican i ymattal rhag lledaenu ei ddysg newydd; ond fel yr apostolion gynt, nis gallai beidio. Angenrhaid a roed arno i fynegi ei argyhoeddiadau. Aeth y frwydr yn boethach. Dygwyd ef, yn hen ŵr deg a thriugain oed, gerbron y Chwilys Pabaidd. Cafodd ei boenydio, a'i wisgo mewn sachlian, a pherswadiwyd ef mewn moment wan i arwyddo datganiad oedd yn hysbysu ei fod yn ymwrthod â'i olygiadau, ac yn cofleidio athrawiaeth yr Eglwys Gatholig, er i honno fod yn groes i dystiolaeth ffeithiau anwrthwynebol. Ond pan yng ngharchar, a'i lyfrau yn gollfarnedig, dywedir iddo sibrwd y frawddeg (gan gyfeirio at gylchdro y ddaear),—

E pur si muove
"Er hyn oll, y mae yn troi!"

A'r dystiolaeth hon sydd wir, er i holl lysoedd y byd geisio ei gwadu. Cafodd ddychwel i Padua, gyda rhybudd i beidio gadael terfynau gosodedig ei breswylfod. Cyn hir daeth profedigaeth arall i ymosod arno, ac un o'r rhai llymaf iddo ef. Pallodd ei olwg. Nis gallai ddilyn ei hoff efrydiau, ac yn raddol aeth yn hollol ddall. Ond yr oedd llygaid ei feddwl yn ddigwmwl, ac yr oedd ei ymddiddanion yn ysbrydoli ereill i garu y gwaith yr oedd efe wedi cysegru ei oes i'w gyflawni.

Syrthiodd y llen i lawr ar ei fywyd yn y flwyddyn 1642, ac efe yn 78 mlwydd oed. Bu farw mewn hedd, a'i bwys ar yr Hwn y daeth Doethion y Dwyrain i'w addoli yn Methlem Juda; a chafodd ei roesawu i'r Ddinas Wen "na raid iddi wrth yr haul na'r lleuad i oleuo ynddi; canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw yr Oen." Ac yno y "rhai cyfiawn a lewyrchant fel yr haul yn nheyrnas eu Tad."

Nodiadau[golygu]