Neidio i'r cynnwys

Oriau yn y Wlad/Gwlad Eben Fardd

Oddi ar Wicidestun
Tair Golygfa Oriau yn y Wlad

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Rhodfa Drwy yr Yd

GWLAD EBEN FARDD.

Ardderchog Glynnog lonydd,—achronfawr
Feithrinfa'r brif grefydd;
Allor Duw er's llawer dydd,
Côr di-baid Cred a Bedydd.

—EBEN FARDD.
CLYNNOG yn Mai! a Mai yn ei ogoniant. I'r sawl a ŵyr am y fangre y mae cyfrol o fwynhad yn gorwedd mewn gair syml fel hyn—Clynnog yn Mai. Ond y mae'n rhaid myn'd yno i sylweddoli'r drychfeddwl. Cawsom y fraint, ac y mae teimlad diolchgar, y "diolch brau " y sonia Edmwnd Prys am dano yn peri i ni eistedd ar lethr bryn uwchben y glasfor i geisio llinellu ychydig—rhyw gwr mantell o ogoniant yr olygfa. Cymerwn ein cenad, ar y dechreu, i ddyweyd gair am y daith. Gadawsom G—— ar nawn Sadwrn, mewn cerbyd cysurus. Daethom yn ebrwydd hyd at bentref tawel Bontnewydd. Canai y fwyalch yn y glaslwyn oddeutu Plas y Bryn, a chwarddai blodau ar ymylon tir Bronant. Rhoddwyd ebran i'r anifail yn Llanwnda, ac yna aethom rhagom i gyfeiriad Coed y Glyn. Gwelem balasdy y Gwylfa, a phreswylfod y seryddwr ar y dde, ac odditanodd ymgodai clochdy pinaclog Llandwrog. Yr oedd teml y goedwig yn degwch bro, yn gyforiog o gân a llawenydd. Yr oedd gwyrddlesni îr ar y dail, a'r castanwydd (chestnut) dan eu coron. Mewn ambell lecyn, gwelid blodau'r drain, botasau y gôg, a haul prydnawn yn llewyrchu arnynt drwy gangau tewfrig. Ar y fynedfa i balas y Glyn, safai y ddau eryr ewinog, bygythiol, ac er mwyn yr adar o bob lliw, diolchem

Gwlad Eben Fardd

mai eryrod celfyddydol oeddynt, onite buasai yr alanas yn fawr. Y mae y ffordd yn llydan, braf, yn y fangre hon, ac yn cael ei hymylu à bordor werdd, lle y gwelir llawer blodyn gwyllt yn codi ei ben. Wedi d'od allan o'r cysgodion yr ydym yn cael golwg glir ar yr Eifl a'u chwiorydd yn y pellder. Nid oedd niwl na chwmwl yn agos atynt, ac yr oedd rhyw arliw glasgoch, tyner, yn gorphwys ar eu llethrau. Daethom at breswyl y diweddar Glan Llyfnwy. Saif ar yr aswy, ychydig bellder o'r ffordd, ac y mae avenue o goed yn arwain at y ty. Bu y bardd tawel-ddwys yn ymddifyru, lawer awr, ar y meusydd cyfagos, a bron na feddyliem fod rhai o'i gynghaneddion yn crwydro o'n hamgylch gydag awel y dydd. Yna daw pentref Pontllyfni, gyda'r llythyrdy bychan, swil, ar fin y ffordd; ond y mae y genadwri a ollyngir, wrth fynd heibio, i'r blwch diaddurn hwn, mor sicr o gyraedd pen ei yrfa, a phe cawsai ei fwrw yn mysg y pentwr anferth yn St. Martin's le Grand, Llundain. Yma, y mae y Lyfnwy droellog yn gwneyd taith fer, ond uniongyrch, i fynwes y môr. Yn uwch i fyny, yn nghyfeiriad Pont y Cim, gwelem amryw yn genweirio ar ei glan, ac olwyn ddŵr yn dwndwr yn hamddenol yn nghysgod y coed. Wedi hyn yr ydym yn neshau at Glynnog Fawr. Dacw glochdy cadarn, llwydwedd, eglwys Beuno yn y golwg. Cwrddasom â dau efrydydd yn pwyllog gerdded i gyfeiriad Penygroes, gan adael y tasgau sychion hyd foreu Llun. Meddyliem am linellau Glan Alun i fyfyrwyr y Bala er's llawer dydd,—

"Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael ei traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn oddi draw
Gan ymwasgaru ar bob llaw;
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr efengyl fwyn

I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad.

*****

Mor wych eu gweled ar ddydd Llun,
A bochau cochion gan bob un,
Yn d'od yn ol yn llawn o rym,
Am wythnos eto o lafur llym."

Y mae anedd Hywel Tudur—Bryn Eisteddfod,—ar y chwith, ac wedi cael cipolwg ar y "coleg" a'r capel, daethom i ben y daith. Saif y cerbyd gyferbyn a Bodgybi, cartref syml y diweddar Eben Fardd; ac ar yr ochr arall, drwy goed y fynwent, gwelir ei gofadail yn ymyl ffenestr ddwyreiniol eglwys henafol Beuno.

Ni welais Eben Fardd erioed, ni chefais y fraint o adnabod Dewi Arfon. Ond ni byddaf yn sangu ar heol Clynnog heb deimlo awydd i dynu fy het, o barch i'w coffadwriaeth. Sonia y llenorydd Seisnig am classic ground. Onid yw hwn, hefyd, yn llecyn clasurol? mae myfyrdodau Eben Fardd wedi creu rhyw awyrgylch buredig oddeutu'r fro, ac y mae mawredd y meddyliwr distaw, diymffrost, yn cael ei argraffu ar ysbryd y sawl a ddaw yma ar ei hynt. Tawel iawn oedd y pentref y nawnddydd hwn, ac nid rhyfedd hyny. Yr oedd areithyddiaeth yr ardaloedd wedi cyd-grynhoi mewn ystafell gyhoeddus ar y bryniau i ddadleu pwnc addysg. Cwestiwn y dydd ydoedd,—A ddylid cael Bwrdd Ysgol i blwy' Clynnog? Ymddengys fod arwr llawer maes heblaw y Maes Glas wedi bod yn gloewi eu harfau i'r ymgyrch. Bu agos i mi gael fy nhemtio i fyn'd i faes y gâd fel "gohebydd neillduol," ond yr oedd cân y fwyalch yn fy ngwahodd i dreulio awr yn Llwyn-y-ne, llanerch neillduedig, a gwir deilwng o'r enw. Hysbys i'r darllenydd ydyw y traddodiad am y mynach hwnw o gor Beuno a aeth ar ymdaith yn blygeiniol ryw foreu o haf, lawer blwyddyn yn ol. Crwydrodd i'r llwyn, a chlywodd aderyn yn canu yr alaw bereiddiaf erioed. Daeth rhyw ber-lewyg drosto wrth wrando nodau y gerdd. Anghofiodd ei foreufwyd; anghofiodd ddyledswyddau y fonachlog. Tywynai yr haul drwy ddail y coed; canai yr aderyn ganiad newydd. Yno y bu y mynach, fel y tybiai, drwy gydol y dydd, yn gwrando, ac yn mwynhau. Ond pan ddaeth yn ol at borth y fynachlog, nid oedd yno neb yn ei adwaen. oedd can mlynedd wedi diflanu er pan aethai i ffwrdd. Gelwir y llanerch am hyny yn Llwyn-y-ne. Dywedir fod Eben yn dra hoff o'r fan. Treuliodd lawer diwrnod yn y llecyn, a bu yr awen—yr aderyn cyfareddol—yn sibrwd llawer melodi i ddiddanu ei enaid. Pa le hyfrytach i dreulio awr ar nos Sadwrn yn Mai? Nid oes ond ychydig o'r Llwyn yn aros, ond y mae'r adar yn canu'n fendigedig. Y mae yma gymanfa gerddorol, yn ngwir ystyr y gair; yr oll yn bencerddiaid. Y fwyaf aflonydd a symudol ydyw y gog. Weithiau yma, weithiau acw; ar ben carreg fwsoglyd un foment, ar ei haden y funud nesaf, ond yn canu'n ddibaid. Rhyw lais crwydrol—"wandering voice," chwedl Wordsworth, ydyw hi yn mhob man,—

"While I am lying on the grass,
Thy two-fold shout I hear,
From hill to hill it seems to pass
At once far off and near.

"To seek thee did I often rove
Through woods and on the green;
And still thou wer't a hope, a love,
Still hoped for, never seen."

Ond ni raid i mi fyn'd at fardd yr ucheldiroedd am ddarlun o'r gwanwyn. Y mae Eben Fardd wedi ei roddi er's llawer dydd, a hyny oddiar lechweddau Clynnog,—

"Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef, yn ein mysg ni,"

****

Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni
Mae tir a môr i'm trem i.

"Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r don
Mor deneu'n ymlenwi,
Moddion tyner! meddant ini,—
Mae yn y nef Un mwy na ni.'"'

Ond rhag i ni syrthio i'r un brofedigaeth a'r mynach gynt, gwell ydyw dychwel gyda min y ffrwd i lawr i'r pentref. Gwelir aml i loyn byw yn methu penderfynu ar lety dros nos. Y mae y gwenyn yn mwmian yn nghangau trwchus y masarn. Onid oes rhyw swyn yn y beroriaeth undonol hon? Ni byddai haf yn haf heb suo—ganiad breuddwydiol y gwenyn yn y dail. Y mae y 'deryn du wedi esgyn i frigyn uchaf yr onen, ac yn arllwys ei hwyrgan uwchben y dorf sydd yn tawel huno yn mynwent Beuno Sant. Mae'r haul yn gwyro i'r gorwel, yn rhuddgoch, fel pelen o dân. Teiff ei adlewyrchiad ar donnau'r môr,—

"Yna'r hwyr gain a rydd
Far o aur ar for y Werydd."

Melus odiaeth ydyw "Nos da" Anian mis Mai.

****

Daeth boreu Sabboth. Y mae swn cloch Eglwys Beuno yn disgyn yn esmwyth a pheraidd ar fy nghlyw. Tywyna'r haul drwy y ffenestr fechan, ac y mae blodau y laburnum, sydd o flaen y ty, wedi eu goreuro gan ei belydrau. Ymestyna'r eigion glas i'r pellderoedd, ac y mae awel adfywiol yn anadlu ar y cae gwair. Dios fod Anian yn cadw Sabboth yn y frodir heddychol hon.. Nid ydyw chwibaniad tren, twrf cerbydau, na chlychau ansyber llaeth—fasnachwyr yn blino y galon. Y mae oriel Anian ar ddihun. Od oes gan y côr asgellog ganiadau mwy detholedig na'u gilydd, yr ydym bron a meddwl eu bod yn eu cysegru ar gyfer boreu Sabboth yn Mai. Ac onid ydyw gwrando arnynt yn meithrin addoliad a defosiwn mewn dyn? Yr oedd Pantycelyn. yn hoffi eu clywed; carai wrando ar dannau telyn Anian yng nghynteddau'r sanctaidd ddydd,—

"Am hynny, pob creadur, wel, rhoddwch allan gân,
O'r mwyaf eu maintioli, hyd at y lleiaf mân;
Cyhoeddwch, gyda'ch gilydd, yn llawen, nid yn drist,
Am glod didrai, diderfyn, daioni Iesu Grist.

Chwi adar ar yr aden, sy'n chwareu ar y pren,
Rhowch eich telynau'n barod i foli Brenin Nen.

Anadled yr awelon, murmured pob rhyw nant,
Ryw swn soniarus hyfryd, fel bysedd byw ar dant;
I'r Hwn ei hun sydd ffynnon o ddwfr y Bywyd pur,
Ac yn anadlu o'i Yspryd, gysuron gloew, clir."

Lle dedwydd iawn ydyw capel Clynnog ar Sabboth heulog, nawsaidd, yn Mai. Yr ydych yn gwel'd y môr drwy ddrws yr addoldy,—yn gweled y don, fel pererin, yn penlinio ar y lan. Ac yn gymhleth â lleisiau hoenus y dyrfa, yr ydych yn clywed acenion y fronfraith yn y mangoed gerllaw. Y mae pobl Clynnog yn credu yn yr arfer dda o dd'od i'r addoliad ar foreu Sabboth, ac nid ydyw hun nac hepian yn bechod parod i'w hamgylchu.

Nid ydyw henaint a llesgedd yn ymweled â'r fro hon, ond yn hynod achlysurol. Yma y mae y blaenor Methodistaidd hynaf yn y wlad, onide? Ond pwy fuasai yn meddwl hyny wrth edrych arno yn y sêt fawr, ac yn arbenig wrth ei wrando yn canu? Nid yw mab pedwar ugain ond glaslanc yn y broydd hyn, ac y mae afiechydon diweddar, megis yr influenza, y sciatica, heb ddarganfod y llanerch o gwbl! Y mae ambell un o'r hen bererinion yn marw, ond gwna hyny, nid yn gymaint oherwydd llesgedd, eithr am ei fod wedi ei feddianu gan rhyw hiraeth diorphwys,—

"am y wlad
Lle mae torfeydd di—ri
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes,
Am angeu Calfari."

Un o'r cymeriadau nodedig hyn oedd H. J—— Bron yr Erw. Pwy o honoch chwi, efengylwyr, fyddai yn arfer ymweled â'r Capel Uchaf, na wyddech am dano? Yr ydych yn cofio y dyn bach, cefngrwm, oedd yn eistedd dan y pulpud. Nid oedd ganddo lawer o gorph ar y goreu, ond ymwasgai, rywfodd, nes gwneyd yr ychydig hwnw yn llai—yn sypyn disylw. Ond pan welid cil ei lygad, ar ddamwain, yr oeddid yn deall yn union fod yna feddwl byw, treiddgar, yn tremio drwyddynt. Yr oedd H. J——yn athrylith, ac yn sant. Ychydig cyn ymado â'r byd, rhoddodd orchymyn neu ddau am dano ei hun. Yn mysg pethau eraill, ewyllysiai gael careg fechan uwchben ei fedd, a rhyw ychydig o eiriau plaen wedi eu tori arni.

"Mi fydd cyfarfod pregethu yn yr hen gapel," meddai, "yn mis Hydref. Bydd y pregethwyr yn myn'd i'r fynwent, i fysg y beddau, ac yn deyd wrth eu gilydd, ' Dyma lle y gorwedd yr hen Fron yr Erw.'" Digon gwir, gyfaill dirodres. Daw llawer un gafodd gyngor a gair caredig oddiar dy wefus, i ymweled â'th orweddfa,—

"Tannau euraidd tynerwch,
Gyffry wrth y llety llwch,"

Ond yr ydym wedi crwydro o Glynnog i'r Capel Ucha, pryd mai ein bwriad oedd myn'd i gyfeiriad Capel Seion, neu fel y gelwir ef ar bob dydd—capel y Gyrn Goch, oddiwrth y mynydd serth sydd gerllaw. Cawsom gwmni un neu ddau o efrydwyr oeddynt yn gwybod rhywbeth am Natur yn ogystal ac am Euclid. Buasai yn rhyfedd iddynt beidio a charu Anian yn y fath lanerch. Y mae amryw o honynt yn lletya yn y lleoedd mwyaf barddonol, yn ymyl gogoniant môr a mynydd. Enw un llety adnabyddus ydyw "Camfa'r Bwth, arall yw Plas Beuno, ac nid ydym yn deall fod efrydwyr y "Bwth" yn cenfigenu wrth efrydwyr y "Plas." Y mae ffynon Beuno, yn cadw Sabboth, ar ymyl y ffordd. Gwelir y Gromlech, wedi ei hamddiffyn gan railings haiarn, yn ngwaelod doldir y Fachwen. Yr ydym yn pasio palasdy mewn llecyn gwir hyfryd, lle y mae un o athrawon Rhydychen yn treulio ei wyliau haf. Yna daw Ty Hen a'i draddodiadau caredig. Y mae coedwig ar yr aswy, a ffrwd risialog yn murmur rhwng y cerig. Daethom at yr addoldy. Y mae yno gynulleidfa dda, ond y mae "oedfa dau o'r gloch" wedi dyweyd cryn lawer ar eu bywiogrwydd cynhenid. Ond ni raid ymadroddi yn hir, ac y mae yr olwg ddiolchgar sydd ar aml wyneb pan ddaw adeg gollyngdod, yn peri i ni gydymdeimlo â'r natur ddynol dan y fath amgylchiadau. Ceir gorphwysfan hapus yn y Mur Mawr; y mae dau ddarlun o Eben Fardd ar y pared, a'r olygfa o'r ardd yn ad—daliad llawn am wres y dydd.

Ceir golwg newydd a gwahanol ar Glynnog wrth ddychwelyd. Y mae gosgedd urddasol y coed deiliog yn rhoddi mawredd ar y fynedfa i'r pentref, ac y mae Eglwys Beuno yn peri i ni feddwl am y canoloesoedd, wrth syllu arni dan dywyniadau haul y prydnawn,—

"Allor Duw er's llawer dydd,
Cor di-baid Cred a Bedydd."

Nid rhyfedd fod gan draddodiadau Eglwys Beuuo gymaint o swyn i Eben Fardd. Yr oedd ei ddychymyg yn ei gludo'n ol i'r oesau gynt, ac yn portreadu y golygfeydd pan ydoedd Cor Beuno yn ei ogoniant, a'r adeilad eang, cysegredig, yn cael ei lanw gan fonachod a phererinion. Anhawdd ydyw edrych ar yr adeilad mawreddog, yn nghanol distawrwydd dwys hwyrddydd haf, heb i lawer gweledigaeth ymrithio o flaen y meddwl. Yr ydym yn anghofio y presenol, yn crwydro i ryw gyfnod breuddwydiol, ac yn clywed rhyw gerddoriaeth nad ydyw yn bod yn awr. Mor ogoneddus ydyw adlewyrchiad yr haulwen ar y ffenestr fawr, ddwyreiniol, ac mor ysgafn ydyw yr awel sydd yn siglo y glas—wellt uwch y bedd? Yn nhawelwch y fath olygfa, a chyn cau ein llygaid ar Glynnog, nos Sabboth, yn Mai, nis gallwn lai nac ail-adrodd gweddi Islwyn,—

"Finnau, yn llesgedd f' henaint,
Hoffwn, cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd,
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.
Byw arno, byw iddo Ef,
Mwy'n ddiddig, mewn hedd haddef,
A dal cymundeb â'r don,
Byd ail, o wydd bydolion,
Heb dyrfau byd, heb derbyn
Ond y gwyrdd for gefnfor gwyn."

Ond gan nad beth am hyny, yr wyf yn dymuno i Glynnog bob daioni. Llwydded y rhai a'th hoffant, a heddwch fyddo i ti.


Nodiadau

[golygu]