Neidio i'r cynnwys

Oriau yn y Wlad/Tair Golygfa

Oddi ar Wicidestun
Llythyr at Arlunydd Oriau yn y Wlad

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Gwlad Eben Fardd

TAIR GOLYGFA.

I. PARC Y PENDEFIG.

AR un o wresog ddyddiau yr haf cefais i a nifer o gyfeillion eraill y ffafr o dalu ymweliad â pharc un o bendefigion Gwynedd. Amgylchir ef á muriau uchel am filldiroedd, ac ni cha y teithwyr ar hyd y brifffordd gymaint ag un olwg ar ei swynion. Pa hyd y pery hyn? Un gŵr yn cael yr hawl i gau y golygfeydd prydferthaf oddiwrth ei gyd-ddynion. Ond ar y dydd a nodwyd cawsom y pleser o weled ardderchogrwydd y parc ei hun.

Y peth cyntaf i dynu ein sylw oedd y coed henafol, preiffion, tewfrig, ar bob llaw. Wedi cerdded drwy y gwres, mor ddymunol oedd cael ymgolli yn nghanol cysgodion dwfn y goedwig! Disgleiriai yr haul drwy frig ambell frenhin-bren, ond yn y gwaelodion yr oeddym yn eithaf diogel rhag ei belydrau tanbaid. Byth nid anghofiwn y mwynhad a gawsom mewn un llecyn neillduol. Ymagorai avenue fawreddog o'n blaen; yn nghanol y rhedyn a'r gwyrddlesni fe lifai "afonig fywiog, fad," ac yr oedd adsain ei disgyniadau dros y meini yn fiwsig byw. Nid oeddym ymhell o'r ffordd lychlyd, boeth, lle yr hanner—losgid ni gan wres yr haul; ond O! y fath gyfnewidiad. Yma, dan gysgod "brenhinoedd y fforest," ac yn swn y ffrwd, yr ydym fel pe buasem wedi myned i fyd newydd—bro ddedwydd dydd-freuddwydion. Braidd na ofynem, A fu Paradwys yn rhagori ar hyn? Gresyn fod cynifer yn gorfod myned drwy y byd heb wybod fod llanerchau mor fendigedig ar ei wyneb.

Ni chawn fanylu ar y pethau a welsom yn mharc y pendefig. Ond gallwn nodi dau beth o fysg llawer: yn gyntaf, yr olygfa yn ac o'r Tŵr—tŵr yr arfau yn nghanol y parc. Oddifewn iddo ceir casgliad helaeth o gâd-offer gwahanol wledydd, a chywreinion wedi eu dwyn yno o feusydd rhyfel, megis Waterloo a'r Crimea. Yma gellir gweled aml i

"hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,"

yn cysgu yn ei wain. Yma hefyd ceir hen fwsgedi (muskets) trymion yn gorphwys ar y mur, ond y mae yn bosibl fod y milwyr fu yn eu handlo wedi troi yn llwch ar ryw gadfaes pell. Huned y dryll a'r cledd hyd yr adeg y bydd eu heisieu yn sychau ac yn bladuriau! Ar ben y Tŵr, drachefn, ceir ffrwyth dyfais wyddonol, sef offer i fesur grym y gwynt, ac un arall i fesur y gwlaw. Gyda y rhai'n gellir dyweyd unrhyw adeg pa faint yn yr awr y mae y gwynt yn ei deithio, a pha faint o wlaw fyddo wedi disgyn yn y gymydogaeth mewn diwrnod. Cedwir cyfrif manwl o'r pethau hyn mewn llyfr, ac y mae ynddo lawer o ddyddordeb.

Y mae yr olwg oddiar nen y Tŵr yn berffeithrwydd pob tegwch." Gwelir oddiyma fynyddoedd, dyffrynoedd, afonydd, tref a gwlad, a rhan helaeth o For y Werydd. Gallesid meddwl nad oes ragorach golygfeydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac eto y mae yr arweinydd yn ein hysbysu mai ychydig o amser y mae y "byddigions" yn ei dreulio gartref. Beth y mae hyn yn ei brofi? Y mae y lle eang hwn wedi ei gau i mewn er mwyn y teulu sydd yn ddigon ffodus i feddianu yr etifeddiaeth; ac, yn rhyfedd iawn, nid ydynt hwythau yn aros yma ond am dymor byr mewn blwyddyn. canlyniad yw, fod manau o'r fath heb ateb un pwrpas ymarferol. Ni wna y sawl sydd yn eu meddianu drwy ddeddf eu defnyddio, ac ni chaiff y cyhoedd eu sangu dan boen dirwy a chosb. Y mae y cwestiwn yn codi drachefn, Pa hyd y pery hyn?

Ond y peth arall a dynodd ein sylw oedd tai a chladdfa y cŵn. Oes, y mae gan "gŵn" y pendefig dai gwych—digon o le, a digon o awyr. Porthir hwy yn dda ac yn gyson. Ni wyddant beth ydyw prinder. Pan änt yn wael, y mae yma feddyg o bwrpas i ofalu am danynt. Ac wedi iddynt dynu yr anadl olaf, y mae yma gladdfa bwrpasol i gadw eu gweddillion. Ie, dodir meini ar eu beddau, ac ystyrir y llanerch yn un tra chysegredig. Pe cawsai aml i ddyn tlawd sydd yn gorfod byw mewn tŷ gwael, oer, a llaith,—boddloni lawer diwrnod ar grystyn sych, heb odid lygad i dosturio wrtho, pe cawsai weled y pethau hyn, yr wyf yn credu mai y deisyfiad hwn a ddeuai dros ei wefus,—"O na fuaswn yn gi i bendefig yn lle bod yn ddyn!

Y mae genym bob cydymdeimlad â chreaduriaid direswm; ni ddylid arfer creulondeb at gŵn, ond y mae i bobpeth ei derfynau priodol. Gresyn na fuasai cyfran o'r arian, y gofal, y caredigrwydd a'r parch a wastreffir yma yn cael ei ddangos at greaduriaid rhesymol ond anffodus; plant amddifaid, gwŷr a gwragedd anghenus, y rhai sydd i'w cael mewn cyflawnder oddiallan i furiau parc y pendefig. Ysywaeth, y mae drama Deifas a Lazarus yn cael ei chwareu yn mhob oes. Y mae y cŵn yn well allan, am ysbaid, na'r cardotyn. Ond y mae yr olygfa i newid yn y man: y pryd hyny, "oddiallan y bydd y cŵn." Beth am eu meistriaid?

Nid ydym, ddarllenydd, yn coledd unrhyw eiddigedd at bendefigion. Y mae yn wir eu bod yn meddu miloedd o aceri o'r tir brasaf yn Nghymru, ac nid oes genym ninau gymaint a "thair acer a buwch" i ymffrostio ynddynt! Ond beth am hyny? Yr ydym yn gadael y Parc eang ac ardderchog hwn gyda'r ymsyniad ein bod wedi ei wir "etifeddu" am dymor byr. Llonwyd ein hysbryd gan ei geinion. Erys yr adgof am dano yn ddarlun teg ar leni ein cof ar ol i'r grand entrance gau arnom, ac wedi i ni gael ein hunian, megis cynt, yn cerdded y ffordd lychlyd sydd wedi ei hordeinio i'r dosbarth cyffredin drwy y byd anwastad hwn i gyfandir llydan Cydraddoldeb!

II. Y LLAN ANGHYFANEDD.

YR wyf yn mwynhau ychydig seibiant yn y wlad. Croesawir fi gan deulu caredig mewn ffermdy tawel. Heddyw, bum drwy y boreu ar ben clawdd yn darllen gan Thoreau. Erbyn hyn, y mae arnaf awydd newid yr olygfa. I ba le yr af? A oes yma rywbeth nad wyf eisoes wedi ei weled? Beth ydyw yr adeilad acw a welir yn y pellder, a choed yn gylch am dano, fel pe yn ei amddiffyn? Ai eglwys ydyw, William? "Ie," oedd yr ateb,—"o'r hyn lleiaf, y mae wedi bod yn eglwys rywbryd." O'r goreu, af i roddi tro tuag ati. Wedi myned drwy weirglodd, croesi y bont bren, ac ymdroi ychydig i edrych ar y pysgod yn ymlafnio at y gwybed, a myned dros un neu ddau o feusydd llydain, dyma fi wrth borth y fynwent. Deued y darllenydd, os myn, gyda mi am enyd i ddistawrwydd y Llan Anghyfanedd.

Haner adfail ydyw yr eglwys: y mae y tô yn rhwyllog, a'r pestl wedi cwympo yn ddarnau ar fwrdd yr allor! Ceir tyllau mawrion yn y ffenestri, trwy ba rai y mae yr adar yn gwibio ol a blaen, oblegid y mae iddynt nythod o'r tu fewn. Yma, yn llythyrenol,—Aderyn y tô a gafodd dŷ, a'r wenol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion." Gan fod bolltau rhydlyd yn diogelu y ddôr, efelychwn y teulu asgellog am dro—awn i mewn drwy y ffenestr! Dyna ni yn daclus ar y llawr pridd. Onid yw yn ddistaw ryfeddol, ac eithrio "twi-twi" y wenol ar ei hediad chwim,—

"Fel arf dur yn gwanu 'r gwynt?"

Y mae arnaf awydd dychwelyd heb oedi o'r cysgodion pruddaidd hyn i fwynhau gwên haul ac awel haf. Ond ymbwyllwn. Ie, wele y meinciau syml yn eu lle, ond fod haenau o lwch yn eu gorchuddio. Dyma y fedydd-fan gareg yn y gongl, ond, atolwg, pa bryd y bu dwfr ynddi? Dacw hithau, hen elor y plwyf, yn gorwedd yn y gongl draw. Hongian yn segur y mae rhaff y gloch, a rhyw aderyn beiddgar wedi nythu yn ei bôn. Nid oes yma ond un "sêt," yn ystyr gyffredin y gair—"Sêt y Sgweier," mae'n debyg. Cul iawn yw y pulpud; nid oedd llenwi hwn yn waith anhawdd, mewn un ystyr; yn wir, rhaid oedd i'r person, beth bynag am ei fywioliaeth, fod yn fain! Y mae dau blât pres ar y pared uwchben yr allor, a cherllaw iddi y mae dwy gareg bedd. Yn anffodus, y mae ôl traed cenedlaethau wedi gwisgo ymaith y llythyrenau bron yn llwyr. Meddyliwn am "Old Mortality" gyda'i gŷn a'i forthwyl. Ond yr oedd ganddo yntau ei "bobol;" ni thalai sylw i ddim ond beddau yr hen Gyfamodwyr. Pwy sydd yn gorwedd dan y cerig hyn, tybed?

Bellach, awn allan. Diolch am awyr iach! Nid ydyw y fynwent ond bechan, ac er fod ynddi amryw feddau, ni welir yma ond un "gareg arw," ac nid oes hyd yn nod "ddwy lythyren" ar hono! Yn gwarchod y Llan y mae gwrych tew o ddrain, coed cyll, a thwmpathau o bren bocs o gwmpas y fynedfa. Tra yr wyf yn araf gerdded o amgylch, gwelaf lu o lygaid yn syllu yn ddifrif-ddwys drwy y perthi. Perthyn i'r frawdoliaeth gorniog y maent, hwyrach eu bod yn eiddigeddu am na fuasent o'r tu fewn yn gwledda ar y borfa. Dyweder a fyner, mae rhywbeth yn brudd-ddyddorol mewn hen adeilad llwyd fel hyn, âg ôl danedd Amser ar ei dô a'i furiau. Eisteddais ar dwmpath glaswelltog ar gyfer y porth, gan daflu y ffrwyn ar wâr fy myfyrdodau. . . . Tybiwn glywed y gloch yn galw i'r Gosper ar Sabboth tawel—fwyn yn yr haf. Gwelwn nifer o wladwyr iach, dysyml, yn cerdded yn arafaidd i'r gwasanaeth. Dyna y Sgweier a'i deulu yn dyfod drwy y porth, ac yn myned yn urddasol i'r "sêt" arbenig yn ymyl yr allor. Clywn yr offeiriad yn arwain y gwasanaeth prydnawnol, yn esgyn i'r pulpud main, a'r "anwyl gariadus frodyr," dan ddylanwad y tês, yn llithro o un i un i freichiau cwsg! Ond wele breuddwyd oedd. Y mae yr eglwys wledig erbyn heddyw yn anghyfanedd. Unig ydyw heb neb yn ei cheisio. Ei gogoniant a ymadawodd. Hyderwn iddi wneyd gwasanaeth yn ei dydd, ond y mae hwnw drosodd. Cysur yw meddwl, fodd bynag, os ydyw yr adeilad hybarch hwn wedi "heneiddio, ac yn agos i ddiflanu"—y mae yr Efengyl yn aros y mae Crefydd yn fyw!

Wrth adael y Llan Anghyfanedd, tybiwn glywed y gareg yn llefain o'r mur, a'r trawst yn eilio o'r gwaith coed: Trugarhewch wrthyf, Gymry glân! Peidiwch a'm gadael i ddihoeni fel hyn. Er mwyn yr hyn a fum, tynwch fi i lawr—yn barchus—oblegid nid dibris yn ngolwg yr ystyriol ydyw ceryg y cysegr.' Os na ellwch ddyweyd am danaf yn ngeiriau cyntaf y penill—geiriau a ganwyd lawer pryd rhwng fy muriau—

"Can's hoff iawn gan dy weision di,
Ei meini a'i magwyrau;'

Ai gormod gofyn i chwi roddi prawf ymarferol eich bod yn teimlo grym y ddwy linell olaf,—

"Maent yn tosturio wrth ei llwch,
Ei thristwch a'i thrallodau!'"'

III. YN MIS GORPHENAF.

Nos Sadwrn ydyw, minau yn eistedd ar foncyff o bren yn nghanol y wlad. Rhyfedd mor dawel yw y fangre! Y mae dyn yn cadw noswyl, ac anian yn cymhwyso ei hun i dderbyn y Sabboth. Mewn lle fel hyn y mae nos Sadwrn yn borth allanol i deml y sanctaidd ddydd. Ac y mae ar natur ysbrydol dyn eisieu tawelwch. Melus i'r enaid yw tangnefedd. Dichon na pherffeithir bywyd heb ystormydd gauafol, ond ar gyfer y cyfryw, rhodder i ni hefyd gael yfed o dangnefedd hir-ddydd haf. Ceir hyn mewn gwirionedd yn y lle neillduedig hwn. Dymunol odiaeth ydyw yr aroglau gludir ar edyn yr awel; pêrsawr y gwair addfed, a gwylltion flodau y maes. Mor urddasol ydyw gwedd y maes gwenith gerllaw!

Tra y mae yr amaethwr yn llawenychu wrth weled argoelion am "gnwd da," caf finau, fel ymdeithydd, fwynhau yr olwg ar y grawn melyn yn moesgrymu i'r awelon. Y mae edrych ar faes gwenith yn mis Gorphenaf yn wledd i'r meddwl, a cheir ynddo, yr un pryd, ernes o ddigonolrwydd ar gyfer anghenion tymhorol. Yn y maes gwenith, ebai un bardd, y mae Natur yn

Arlwyo oriel ar wïail arian."

A dyna ryw si tyner, sidanaidd, yn cerdded drwyddo. Beth sydd yn bod? Hyn:—

"Awel o'i fysg rydd lef fan,—Gwel law Iôr
Yn helaeth gofio'r ddynoliaeth gyfan!"

Hyfryd i'r glust hefyd yw gwrando bref yr ychain, a chân ambell i aderyn sydd fel yn methu tewi, er fod adeg gorphwys wedi dyfod. Y fath gyfoeth o liwiau sydd yn addurno y ffurfafen! Môr tawdd yw y gorllewin, a godidog ragorol ydyw machludiad haul. Ac fel y mae y priodfab yn ymgilio, y mae y briodferch, hithau, mewn gwisg arian" yn dringo y nen i chwilio am dano!

Mae cysuron bywyd syml, gwledig, yn aml a sylweddol. Os bydd llygad a chalon i'w mwynhau, ni ddywed neb fod teyrnas Natur yn brin mewn swynion a rhyfeddodau bythol—newydd. Meddylier hefyd am yr awyr iach a phur sydd i'w hanadlu yma. Gwelais yn rhywle fod rhanau helaeth o ddinas Llundain (a diau fod dinasoedd eraill yn debyg) heb awyr bur ynddynt drwy gydol y flwyddyn. Beth na roddasai llawer un o breswylwyr afiach, gwyneb-lwyd y selerydd a'r garrets hyny am gael treulio darn diwrnod hafaidd ar y boncyff hwn! Diau fod aml un yn slums Llundain heno yn chwenychu am y pethau yr ydwyf fi a thrigolion yr ardal hon yn eu mwynhau—yn breuddwydio am awyr las, meusydd gwyrddion, gwenau haul, ond nid ydynt yn eu cael. Nid ydym yn haner digon diolchgar am ein cysuron. Da genyf feddwl am ymdrechion clodwiw Dyngarwch i wella sefyllfa y miloedd sydd yn treulio eu bywyd dan amgylchiadau mor anfanteisiol. Ac ni raid myned i Lundain i chwilio am danynt; y mae yn Nghymru ddigonedd o waith yn y cyfeiriad hwn. Pob llwydd i'r gwŷr da sydd, yn y tymor yma, yn trefnu pleser-deithiau i blant tlodion y trefydd i fyned am ddiwrnod i ganol y wlad neu i lan y môr. Bendith arnynt! Yn wir, y mae gweled y pethau bychain yn mwynhau eu hunain yn ddigon o ad-daliad am y drafferth a'r draul i gyd. A da fydd cofio yn amlach am yr hen bobl; y maent hwythau yn caru bod yn blant yn awr ac eilwaith. Yr ydym yn gweled hanes yn y newyddiaduron yn lled aml am Wasanaeth Blodau (Flower Service), pan y cludir pwysïau o bob lliw a llun i'r addoldy. Ond y flower service goreu y gwn am dano ydyw myned âg ambell flodeuglwm i wasgar ei berarog! yn ystafell y claf a'r cystuddiedig, ac un arall i loni ysbryd yr hen wraig dlawd sydd heb weled cae er's blynyddoedd! O mor ddiolchgar ydyw aml un o'r dosbarth hwn am swp o flodau gwylltion! Mae eu gweled a'u harogli yn adgyfodi dyddiau mebyd ger eu bron. Gallai deiliaid yr Ysgol Sul weini llawer o gysur mewn ffordd syml ac esmwyth fel hyn.

Ond er mor ddymunol ydyw y llanerch hon, ni fynwn dra-dyrchafu y wlad ar draul darostwng y dref. Y mae ar fywyd dyn eisieu bywiogrwydd yn gystal a thawelwch—yni y ddinas a hedd y wlad. Yn y cyfuniad o'r ddau y ceir bywyd ar ei oreu. Mae tawelwch didor yn magu syrthni, diofalwch, a chysgadrwydd; ac y mae prysurdeb diorphwys, o'r tu arall, yn rhoddi bod i anesmwythder eithafol a pheryglus. Gellir rhydu yn y naill, a llosgi allan yn y llall. Nid yw bywyd i'w dreulio mewn "càr llusg," ac nis gall aros yn hir yn yr express train. Sonia dynion ieuanc nwyfus am fyned i'r dinasoedd i weled life: gwelwyd llawer un yn dyfod yn ol gyda gruddiau llwydion i geisio life i'r corff a'r meddwl yn nhawelwch y wlad. Yn hyn, o bosibl, y mae y naill wedi ei fwriadu ar gyfer y llall.

Gelwir y nefoedd yn "wlad well," ac yn "ddinas Duw." A oes yma ryw awgrym fod pobpeth goreu tref a gwlad i gyfarfod yn mywyd perffeithiedig dyn dros byth? Os felly, gall un sant ddyweyd gyda'r bardd Ieuan Glan Geirionydd:—

"Mae arnaf hiraeth am y wlad
Lle mae torfeydd diri';

ac un arall, yr un mor briodol, gyda Charles, Caerfyrddin—

"Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th cynteddau caf dd'od?"



Nodiadau[golygu]