Patrymau Gwlad/Agor Neu Gau?

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Ystori Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Fflam Anniffodd

AGOR NEU GAU?

A'R bore balch â'i draed ar geyrydd byd
Trois yng ngor-hyder newydd nwyf a nerth
I ddringo, a gweld yr ysblanderau drud
A oedd yn orwel im o'r foelallt serth,
Moelallt nad oedd ond bryncyn; onid gwell
Tario'n fodlongar, a myfyrio mwy
Ar res anghyffwrdd y pinaglau pell?

Ofer y gobaith am eu cyrraedd hwy.
A gogoniannau'r dydd yn colli eu gwawr
Pell-dremia'r seren hwyr yn welw a syn,
Daw heibio awel oer i sibrwd awr
Y disgyn i gylch gorwel cul y glyn:
Cylch i ail-agor, neu dragwyddol gau?
Holaf yn ddwys yr hwyrnos sy'n nesáu.

Nodiadau[golygu]