Patrymau Gwlad/Yr Hen Ystori

Oddi ar Wicidestun
Thomas Stephens Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Agor Neu Gau?

YR HEN YSTORI

DISTAWODD gosber gydag olaf grŵn;
Buan yr eistedd un o'r myneich mud
Wrth y bwrdd bach o fewn ei gell heb sŵn
I rusio'r plufyn ar y crasgroen drud.
Llen ar ôl len a leinw ei brysur law
Nes cyrraedd gwaelod y ddiwethaf oll;
I'w lygad ieuanc deigryn brwd a ddaw
A edrydd hiraeth am ryw gysegr coll.

Dan adfail gandryll y fynachlog fawr
Mae'r ysgrifennwr angof yn ei fedd;
Yn noddfa gwrêng a bonedd gynt, yn awr
Ni welir namyn llanc breuddwydiol wedd
Mewn meddwdod mwyn uwchben y geiriau gwin
A yf o hen ystori'r memrwn crin.

Nodiadau[golygu]