Patrymau Gwlad/Thomas Stephens
Gwedd
← Ieuan Brydydd Hir | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Yr Hen Ystori → |
THOMAS STEPHENS
(O Ferthyr)
GADAWODD eraill graith ar lawer twyn
A chlwyf agored ar y llechwedd llwm;
Troesant yn hagrwch geinder dôl a chwm
Wrth durio mynwes gwlad am ddiflan fwyn,
Gan sbeilio brodir o'i chysefin swyn.
Ond chwiliaist ti am filwaith gwell na swm
Y cyfoeth du a ddeil y gwrêng yng nghrwm,
A'i staen yn is na'r glesni ar eu crwyn.
Treuliaist dy nerth i gloddio trysor cudd
Dan lwch yr oesoedd, henaur llên a chân;
Golud anniflan pobl i olau dydd
A ddygaist, nid er bydol elw a budd.
Erys ysblander dy athrylith lân
Pan ddarffo goddaith y ffwrneisi tân.