Patrymau Gwlad/Canu Gwreiddiol

Oddi ar Wicidestun
Loes Hen Gymro Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Rhodres

CANU GWREIDDIOL

TYNNAL beirdd ein bro un adeg
Eu hysbrydiaeth oll ymron
Nid o anian, ond Gramadeg
Mawr Syr John.

Pe rhagwelsai'r Marchog hynny
Buasai'i groen i gyd yn ddrain,
Rhoisai'i gampwaith dysg i fyny
A rhoi siawns i'r beirddion brynu
Ei Ganiadau cain;

Ac ni chawsai weld yn nychu.
Lawer cymhleth gân,
Heb wlith awen yn ei gwlychu,
Swp o wreiddiau wedi sychu:
Stwff at ddechrau tân.

Nodiadau[golygu]