Patrymau Gwlad/Rhodres

Oddi ar Wicidestun
Canu Gwreiddiol Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Barn Ymwelydd

RHODRES

PAN ddelo i "gwmni parchus"
Hen Gymro uniaith ofnus,
Ni thrônt, er medru iaith eu gwlad,
I'w siarad yn gysurus.

Ond pan ddêl Sais neu Saesnes
I gwrdd o "Gymry cynnes,"
Troi i'r Iaith Fain mae rhain yn rhwydd
O reidrwydd rhemp eu rhodres.

Nodiadau[golygu]